Arolwg agwedd ddim yn argoeli'n dda i deithwyr awyr.
Mae canllawiau a pholis茂au cyfredol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o atal lledaeniad SARS-COVID-19 i mewn i'r Deyrnas Unedig yn 么l canlyniadau arolwg o ddealltwriaeth pobl o symptomau COVID-19, a'u hagweddau a'u hymddygiad tebygol mewn perthynas 芒 theithio mewn awyrennau yn ystod y pandemig.
Cynhaliwyd yr arolwg fis Hydref y llynedd gan Brifysgol Bangor ar y cyd ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia a Phrifysgol Caerdydd. Bwriad yr arolwg oedd deall ymddygiad fel y gall llywodraethau ddatblygu鈥檙 polis茂au a鈥檙 gweithdrefnau a fyddai fwyaf tebygol o fod yn effeithiol.
Roedd yr arolwg hefyd yn ystyried a allai fod yn ymarferol monitro d诺r gwastraff ar fwrdd awyrennau am SARS-CoV-2, a daethpwyd i'r casgliad mai dim ond mewn hediadau hir y byddai hyn yn gweithio.
Wrth arolygu dros 2,000 o gyfranogwyr ledled y Deyrnas Unedig, canfu'r ymchwilwyr bod yr wybodaeth gyffredinol am symptomau COVID-19 yn wael ar y cyfan, yn enwedig ymhlith dynion ifanc. Mae hyn yn awgrymu y gallai llawer o unigolion ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig yn dioddef o Covid-19 heb iddynt fod yn ymwybodol o hynny.
Dywedodd yr Athro Davey Jones o Brifysgol Bangor, a oedd yn arwain y gwaith:
鈥淢补别 , yn seiliedig ar yr arolwg a gynhaliwyd ledled y Deyrnas Unedig, yn cefnogi gosod canllawiau llymach ledled y Deyrnas Unig i sicrhau cydymffurfiaeth lwyr 芒 phrofion yn y man ymadael a threfniadau cwarantin llymach ar 么l cyrraedd i ddinasyddion y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd o dramor.
Roedd canfyddiad dynion ifanc y bod y risg bersonol yn isel hefyd yn awgrymu y gall fod y risg yn uwch iddynt gludo SARS-CoV-2 yn 么l i'r Deyrnas Unedig.
鈥淗efyd, rydym yn argymell y dylid targedu鈥檙 canllawiau llymach at grwpiau oedran iau lle mae鈥檙 risg o ddiffyg cydymffurfio yn fwy,鈥 ychwanegodd.
Datgelodd yr arolwg hefyd y byddai 21% o'r ymatebwyr yn teithio yn 么l i'r Deyrnas Unedig pe bai ganddynt symptomau cynnar COVID-19.
Hefyd, mynegodd llawer y farn na fyddent yn cydymffurfio'n llawn 芒 chanllawiau hunanynysu'r llywodraeth ar 么l dychwelyd.
Daeth Davey Jones, Athro Gwyddorau Pridd a鈥檙 Amgylchedd i'r casgliad:
鈥淣id yw hyn yn newyddion gwych i鈥檙 rheini sy鈥檔 awyddus i fynd ar wyliau tramor, ond yn seiliedig ar yr angen i reoli risg, dyma fyddai鈥檔 darparu鈥檙 ffordd orau ymlaen i osgoi tonnau pellach o鈥檙 haint yn y dyfodol.鈥
Wrth s么n am y newyddion bod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno cwarant卯n gorfodol mewn gwestai am gyfnod o 10 diwrnod i deithwyr o 15 Chwefror, dywedodd yr Athro Jones:
鈥漅wy鈥檔 cytuno鈥檔 llwyr y dylid cadw gwladolion tramor mewn gwestai. Y cwestiwn allweddol yw a ddylem roi gwladolion y Deyrnas Unedig sy鈥檔 dychwelyd o dramor mewn gwestai hefyd - rwy'n credu y dylem wneud hynny ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. 鈥
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2021