Ap er mwyn adnabod mamiliaid y m么r
Beth am gynllunio i fynd am dro ar hyd yr arfordir i chwilio am un o'r 30 o rywogaethau o forfilod a dolffiniaid sy'n ymweld 芒 dyfroedd y Deyrnas Unedig unwaith y mae cyfyngiadau clo heibio?
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno 芒'r elusen bywyd gwyllt, Sea Watch Foundation, a'r datblygwr technoleg ynni llanw, Nova Innovation, i ddatblygu ap ff么n symudol sydd ar gael am ddim sy'n caniat谩u i unrhyw un ychwanegu cofnod os ydynt yn gweld morfilod, dolffiniaid ac anifeiliaid mawr eraill oddi ar y tir neu oddi ar gwch yn nyfroedd y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Jenny Bond, sy'n arwain y project ymchwil ar ran SEACAMS 2 ym Mhrifysgol Bangor:
鈥淩ydyn ni鈥檔 gobeithio, fod pobl am dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, ac y byddan nhw'n mwynhau chwilio am forfilod a dolffiniaid ledled y Deyrnas Unedig, gan fwynhau鈥檙 awyr iach, a gwneud gweithgaredd lle maen nhw'n gallu dysgu ac ymlacio ar yr un pryd. Rydym wedi datblygu鈥檙 ap Sea Watcher fel y gall unrhyw un gyfrannu at ymchwil sy鈥檔 edrych ar famaliaid y m么r yn y Deyrnas Unedig鈥
Ymlaciwch a mwynhau鈥檙 m么r!
Y llefydd gorau i chwilio am forfilod a dolffiniaid yw pentiroedd, ynysoedd a chlogwyni uchel lle ceir golygfa dda dros ddarn mawr o'r m么r ac mae cael tywydd braf yn helpu. Mae yna lawer o fannau yn y Deyrnas Unedig lle gwelir dolffiniaid yn rheolaidd: Bae Aberteifi ac ynysoedd Sir Benfro yng ngorllewin Cymru, Mounts Bay yng Nghernyw, arfordir Northumbria yn ne-ddwyrain Lloegr, Ynysoedd Heledd, Ynysoedd y Gogledd a鈥檙 Moray Firth yn yr Alban, i enwi dim ond rhai, ond efallai y byddwch yn lwcus ni waeth ble y byddwch o amgylch arfordir Prydain. Os ydych yn cynllunio taith gerdded ar hyd llwybr yr arfordir neu鈥檔 bwriadu edrych allan i鈥檙 m么r yn hamddenol o ben clogwyn, byddai ysbienddrych o gymorth, ac ar 么l i chi ei lawrlwytho, bydd yr ap Sea Watcher yn mynd 芒 chi trwy'r camau i gofnodi鈥檙 hyn yr ydych yn ei weld. Ar yr ap mae digon o ffotograffau a fideos i'ch helpu i adnabod y gwahanol rywogaethau.
Y mamaliaid m么r a welir amlaf yn y Deyrnas Unedig yw鈥檙 morlo llwyd, y morlo cyffredin a鈥檙 llamhidydd, er bod y dolffin trwynbwl acrobatig a'r dolffin cyffredin hefyd i'w gweld yn rheolaidd mewn sawl lleoliad o amgylch yr arfordir. O blith y morfilod, mae鈥檙 morfil pigfain, yr orca a鈥檙 morfil cefngrwm i gyd i'w gweld yn rheolaidd yn nyfroedd y Deyrnas Unedig, yn enwedig yn y gorllewin a'r gogledd.
Gweld morfilod prin
鈥淵n ddiweddar anfonwyd fideo atom o dde Dyfnaint o鈥檙 morfil asgellog llwyd, sy鈥檔 dra anghyffredin, felly ni wyddoch byth beth y gallech ei weld鈥 meddai Dr Peter Evans, sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Sea Watch Foundation, a gwelodd criw tancer o鈥檙 Alban ar fordaith i Sbaen olygfa brin iawn, sef morfil gogledd yr Iwerydd, sef rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol, ychydig i'r de o Ynysoedd Prydain, ddiwedd mis Gorffennaf. Gall unrhyw un weld unrhyw beth wrth edrych i鈥檙 m么r, a nod yr ap hwn yw helpu pobl i adnabod yn hawdd yr hyn y maent wedi'i weld ac yna ei gofnodi fel y gall pawb arall elwa trwy ddysgu beth sydd wedi cael ei weld ac ymhle."
Gwerth gwybodaeth leol
Bydd yr wybodaeth a gesglir gan yr ap Sea Watcher yn helpu i wella gwybodaeth yngl欧n a ble a phryd mae mamaliaid y m么r yn ymweld a gwahanol ardaloedd ac o bosibl beth maent yn ei wneud. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig ar gyfer rheoli a chadwraeth. Mae gweithgareddau dynol mewn dyfroedd arfordirol yn rhoi pwysau ar famaliaid y m么r, o achosi s诺n tanddwr, i risg o daro llongau, ynghyd 芒 llygredd, disbyddu stociau pysgod, a mynd ynghlwm mewn offer pysgota. Er mwyn rheoli鈥檙 pethau hynny鈥檔 well, mae'n bwysig bod gennym ddealltwriaeth dda o ba ardaloedd sy'n bwysig i rywogaethau penodol.
Dywedodd Dr Kate Smith, Rheolwr Amgylcheddol y cwmni ynni adnewyddadwy morol, Nova Innovation, sydd hefyd yn cydweithredu ar y project:
鈥淢ae sicrhau nad yw ein tyrbinau llanw yn niweidio amgylchedd y m么r yn hynod bwysig i Nova. Mae ystyriaethau effaith amgylcheddol, gan gynnwys effeithiau posibl ar famaliaid ac anifeiliaid eraill y m么r, yn rhan allweddol o broses gydsynio a dylunio ein projectau ynni adnewyddadwy. Rydym yn falch iawn ein bod yn cymryd rhan yn yr ymchwil hon, i archwilio sut y gall gwybodaeth leol, a anwybyddir yn aml fel rhan o brosesau cydsynio a dylunio, helpu i asesu a lleihau effeithiau ein projectau ar famaliaid y m么r. "
Mae'n hysbys y gall bod ar lan y m么r wneud cyfraniad cadarnhaol at ein lles, felly y tro nesaf y byddwch wrth lan y m么r, gwnewch yn si诺r eich bod wedi lawrlwytho ap Sea Watcher, cydiwch yn eich ysbienddrych, ac ewch ati i fwynhau!
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2020