Adroddiad gan staff SENRGy yn tynnu sylw at effaith economaidd y clafr yng Nghymru
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Brifysgol Bangor wedi chwarae rhan bwysig mewn sefydlu tasglu cenedlaethol a fydd yn ymchwilio i ffyrdd o fynd i’r afael ag afiechyd sy’n costio dros £5 miliwn yn flynyddol i’r diwydiant ffermio defaid yng Nghymru.
Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) y Brifysgol, yn cyflwyno ymchwil i ddulliau o drin y clafr yng Nghymru. Mae’r afiechyd yn effeithio’n sylweddol ar les anifeiliaid ac yn achosi colledion mawr i’r diwydiant da byw. Seiliwyd y data a gyflwynwyd ar arolwg o 574 o ffermwyr defaid yng Nghymru.
Darganfu’r adroddiad wahaniaethu rhanbarthol ar draws Cymru o ran sut yr ystyrir problem y clafr gan ffermwyr, yn ogystal â data’n awgrymu nad yw rhai ffermwyr yn trin eu hanifeiliaid rhag yr afiechyd oherwydd costau uchel y driniaeth. Trwy’r ymchwil gallodd yr awduron (Dr Paul Cross, Yr Athro Gareth Edwards-Jones, Dr Hussain Omed a Dr Prysor Williams) amcangyfrif bod yr afiechyd yn costio £5.86 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant defaid yng Nghymru.
Mae darganfyddiadau’r adroddiad wedi arwain at sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen y Clafr. Arweinir hwn gan y diwydiant a bydd yn cyhoeddi ei ddarganfyddiadau i weinidogion yn Llywodraeth Cymru erbyn diwedd 2012.
Mae copi o’r adroddiad ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru:
Mae erthygl BBC News ar y gweithgor i’w chael yn:
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2012