ADNODD yn ennill ysgoloriaethau pwysig y Gymanwlad ar gyfer MSc Coedwigaeth Drofannol
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD) yn falch iawn o gyhoeddi y cafwyd cyllid ar gyfer 10 ysgoloriaeth i'r cwrs (dysgu o bell) fydd yn dechrau ym mis Medi 2015.
Mae'r ysgoloriaethau hyn, a ariannir gan (CSC), yn benodol i ysgolheigion o wledydd sy'n datblygu yn y Gymanwlad. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd dysgu rhyngwladol, ysgoloriaethau teithio i alluogi ysgolheigion i ddod i Ysgol Haf Coedwigaeth Drofannol yn 2017, yn ogystal â grant astudio bach i helpu ysgolheigion gyda chostau astudio dysgu o bell.
"Mae'n newyddion gwych i'r Ysgol a'r rhaglen Coedwigaeth Drofannol bod Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad wedi cytuno, am y bumed flwyddyn yn olynol, i barhau i gefnogi ysgolheigion sy'n astudio ar ein rhaglen MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell). Mae'r ysgoloriaethau dysgu o bell pwysig hyn yn galluogi ymgeiswyr rhagorol i astudio ar gyfer eu MSc, gan barhau i fyw a gweithio yn eu gwledydd eu hunain, mewn amgylchiadau sy'n eu galluogi i elwa'n uniongyrchol o'u hastudiaethau. Trwy'r cwrs hwn rydym yn gobeithio y gallwn gyflwyno gwybodaeth, sgiliau a syniadau i hyrwyddo rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy mewn llawer o wledydd sy'n datblygu yn y gymanwlad.
"Mae ein hysgolorion CSC presennol yn llysgenhadon gwych i Brifysgol Bangor ac i'r CSC. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cynnal rhaglen dysgu o bell o safon ryngwladol, a hefyd yn sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cael cyfle i gyfarfod a dysgu gyda'i gilydd wyneb yn wyneb. Rydym ar hyn o bryd yn cynllunio ein hysgol haf coedwigaeth drofannol yn Ghana a gynhelir ym mis Gorffennaf 2015, mewn partneriaeth â , y a . Mae'r Ysgol wedi bod yn cynnal er 2002 a derbyniwyd yr ysgolorion CSC gyntaf yn 2011. Mae ein myfyrwyr dysgu o bell yn bobl na fyddai fel arall yn cael cyfle i astudio am radd uwch ac mae llawer yn mynd ymlaen i wahanol yrfaoedd diddorol a chyffrous mewn coedwigaeth. Mae tîm y cwrs yn parhau i ddatblygu deunyddiau dysgu newydd a chyffrous, gyda defnydd cynyddol yn cael ei wneud o dechnolegau e-ddysgu i gyfoethogi'r hyn a ddysgir gan fyfyrwyr, yr ymdeimlad o berthyn i goleg, a thrylwyredd academaidd."
Gellir cael gwybodaeth bellach am yr ysgoloriaethau a sut i wneud cais amdanynt
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2015