ADNODD a Phrifysgol Bangor yn saethu i fyny’r siartiau
Mae Prifysgol Bangor ac Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wedi cael llwyddiant yn y Guardian University Guide diweddaraf. Fel sefydliad, mae Prifysgol Bangor yn ail yng Nghymru erbyn hyn, ar ôl codi 16 lle yn nhabl cynghrair diweddaraf y Guardian.
Mae ADNODD wedi cael newyddion da hefyd, wrth i Ddaearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol godi mwy na bron i unrhyw un arall yn y DU eleni. Cododd Bangor 24 lle yn y tabl cynghrair i bynciau a chânt eu henwi mewn erthygl am y pynciau sydd ar gynnydd. Mae’r tablau cynghrair yn seiliedig ar amrywiaeth o ddata, yn cynnwys canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr. Yn ogystal â hyn, cafodd Prifysgol Bangor sgôr arbennig o dda am ei chymhareb staff-myfyrwyr a chyfartaledd yr arian mae hi'n ei wario ar bob myfyriwr.
Mae’r gwelliannau yn safle Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol yn y tabl cynghrair yn dilyn ail-ddilysu holl raddau ADNODD a phenodi staff darlithio newydd yn yr ysgol. Ond mae un peth yn ddigyfnewid, sef bod graddau ADNODD yn parhau i gael eu dysgu gan staff brwdfrydig mewn adran gyfeillgar yn un o’r lleoliadau mwyaf godidog yn y DU.
Gallwch weld tablau cynghrair sefydliadol diweddaraf y Guardian yma:
Gallwch weld tablau cynghrair pwnc y Guardian i Ddaearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol yma:
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012