Adnabod y mecanweithiau sy'n effeithio ar wahaniaethau rhwng gwenwynau nadredd
Mae brathiadau gan nadredd yn lladd hyd at 90,000 o bobl bob blwyddyn, mewn ardaloedd gwledig tlawd yn y trofannau gan fwyaf. Mae'r nifer hon yn syndod o fawr wrth ystyried bod meddyginiaethau gwrthwenwyn ar gael. Y gwir yw, serch hynny, bod y meddyginiaethau hyn i raddau helaeth yn effeithiol wrth drin brathiadau gan y rhywogaeth nadredd a ddefnyddiwyd i'w cynhyrchu, ond yn aml iawn maent yn aneffeithiol wrth drin brathiadau gan rywogaethau nadredd gwahanol, hyd yn oed rai sy'n perthyn yn agos.
Mewn erthygl yn PNAS (Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America ) mae Dr Nicholas Casewell a Wolfgang Wüster o Brifysgol Bangor ynghyd â'u cydweithwyr yn disgrifio'r mecanweithiau sy'n creu'r amrywiadau yng ngwenwynau rhywogaethau sy'n perthyn yn agos i'w gilydd a hefyd yr amrywiadau sylweddol yn effeithiau'r gwenwynau a geir oherwydd hynny.
Mae'r canfyddiadau'n tanlinellu'r anawsterau sydd ynghlwm wrth ddatblygu meddyginiaethau sbectrwm eang ar gyfer brathiadau.
Mae Dr Nicholas Casewell, Cymrawd Ymchwil Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a wnaeth ran o'r ymchwil yn Prifysgol Bangor, ac sydd hefyd yn dal swydd yn Ysgol Meddygaeth Drofannol Prifysgol Lerpwl, yn egluro:
"Mae gwahaniaethau yng nghyfansoddiad gwenwyn gwahanol rywogaethau nadredd o bwys mawr wrth ystyried dulliau meddygol o drin pobl sydd wedi eu brathu gan nadredd.
Rydym wedi dangos erbyn hyn bod y gwahaniaethau rhwng gwenwyn rhywogaethau nadredd sydd yn perthyn i'w gilydd yn ganlyniad i ryngweithio cymhleth rhwng amrywiaeth o ffactorau genetig ac ôl-genomig sydd yn gweithredu ar enynnau gwenwyn. Gall hyn olygu bod gwahanol enynnau yn y genom yn cael eu troi ymlaen neu eu diffodd mewn gwahanol nadredd ar wahanol gamau yn y broses cynhyrchu gwenwyn. Yn y pen draw gall y gwahaniaeth yn y gwenwyn sy'n tarddu o hyn arwain at wahaniaethau sylweddol yn effeithiau'r gwenwyn, o ran ei batholeg a'i allu i ladd, a gall danseilio effeithiolrwydd therapïau gwrthwenwyn a ddefnyddir i drin pobl sydd wedi cael eu brathu gan nadredd.
Mae awduron y papur yn awgrymu bod mynegiant genynnau a phroteinau'n dylanwadu ar gynnwys gwenwyn gwahanol rywogaethau nadredd. Mae newidiadau yng nghyfansoddiad gwenwyn rhwng rhywogaethau nadredd hefyd yn achosi gwahaniaethau yng ngweithrediad y gwenwyn, trwy effeithio ar allu'r gwahanol wenwynau i achosi gwaedlif neu i geulo gwaed.
Yn bwysicach nid oedd meddyginiaeth wrthwenwyn a gynhyrchwyd trwy imiwneiddio defaid gyda gwenwyn un rhywogaeth nadredd dolennog yn gallu niwtraleiddio gwenwynau gwiber gorniog y Sahara, y chwyddwiber a rhywogaeth arall o nadredd dolennog. Mae hyn yn tanlinellu sut mae newidiadau yng nghyfansoddiad gwenwyn yn gallu cael effaith andwyol ar feddyginiaethau i drin gwenwyn nadredd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014