A fyddai cael rhagolygon tymhorol yn ein helpu i ymdopi 芒'r newid yn y tywydd?
Rydym wedi cael tywydd eithriadol o wlyb a gwyntog y gaeaf hwn, ac er bod pobl y tywydd yn llawer gwell o ran rhoi gwybod i ni beth y gallem ei ddisgwyl am y ddau neu dri diwrnod nesaf, maent yn dal i gael trafferth i wneud rhagolygon tymhorol am gyfnod hir.
Mae鈥檙 gwaith a wnaed ym Mhrifysgol Bangor ers y 1970au wedi cyfrannu'n sylweddol at y modelau a ddefnyddir i wneud rhagolygon o'r hinsawdd. Mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar ddeall cynnwrf morol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ers 2007 mae'r gr诺p Ffiseg M么r yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion wedi ennill dros 拢6 miliwn mewn cyllid ymchwil i ddatblygu eu gwaith ymhellach.
Caiff patrymau'r tywydd eu dylanwadu'n gryf gan dymheredd arwyneb y m么r - felly mae deall sut mae dyfroedd yn cylchredeg a chymysgu gwres yn y m么r yn hollbwysig i ddeall sut mae'r m么r yn dylanwadu ar y tywydd ac ar batrymau'r hinsawdd.
Mae'r t卯m o ffisegwyr m么r yn y Brifysgol yn gwneud gwaith sylfaenol a gwerthfawr i wella'r modelau a ddefnyddir gan bobl y tywydd.
Maent yn gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd a chanolfannau blaenllaw eraill ar brojectau mawr cydweithredol yn edrych ar rew m么r yn yr Arctig a beth sydd wedi achosi i orchudd y rhew m么r gilio mor gyflym yn y blynyddoedd diwethaf, a pha effaith a gaiff hyn ar y tywydd ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn ogystal 芒 sut mae'n effeithio ar gerrynt yng Nghefnfor Iwerydd.
Eglurodd yr Athro Tom Rippeth yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor:
"Mae ein gwaith yn cynnwys adnabod pa ffactorau sy'n penderfynu ar ddosbarthiad gwres yn y m么r a thymheredd atmosfferig gan fod y cefnforoedd yn ffynonellau mawr gwres, a dyma'r gwres sy'n dylanwadu ar batrymau'r tywydd a'r hinsawdd. Er bod pelydrau鈥檙 haul yn gallu teithio drwy'r atmosffer heb wneud iddo gynhesu, caiff y pelydrau eu hamsugno gan y m么r ac yna鈥檔 ei gynhesu. Yna mae'r m么r cynnes yn trosglwyddo'r gwres i'r atmosffer a鈥檌 gynhesu. Yn wir, daw 90% o wres yr atmosffer o'r cefnforoedd. Dyma'r gwres sy'n creu stormydd, corwyntoedd a theiffwnau yn ogystal 芒 phennu safle'r jetlif, sef y gwynt uchder uchel sy'n llywio stormydd ar draws Cefnfor yr Iwerydd. Felly mae canfod y prosesau sy'n gyfrifol am reoli faint o wres sy'n mynd o'r m么r i'r atmosffer yn allweddol i gynhyrchu rhagolygon cywir o'r tywydd am fwy nag wythnos ymlaen llaw.
"Nod penodol ein gwaith ymchwil am feysydd fel y prosesau sy'n penderfynu ar dymheredd arwyneb y m么r a gorchudd rhew yr Arctig yw cyfrannu at wella'r gwaith o wneud rhagolygon tymhorol am y tywydd yn y Swyddfa Dywydd. Byddwn hyd yn oed yn dweud bod deall cynnwrf morol yn sylfaenol bwysig i wella'r sgil o wneud rhagolygon am y tywydd."
Mae鈥檙 DU yn arbennig o agored i batrymau tywydd a reolir gan y m么r oherwydd ein lleoliad. Yn 么l yr Athro Rippeth mae'r ffaith ein bod yn cael llawer mwy o dywydd garw yn amlach yn tynnu sylw at yr angen dybryd i wella ein gallu i ragweld y digwyddiadau hyn a'n bod fel cymdeithas yn dysgu sut i fyw gyda'r tywydd newydd.
"Byddwn yn dadlau bod rhaid i'r DU roi arweiniad o ran gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn addasu'n well i'r newid ym mhatrymau'r tywydd. Credaf mai'r ffactor allweddol yw ein bod yn gallu rhagweld y tywydd garw hwn ar sail dymhorol.
"Yr her i bobl y tywydd yw gallu gwneud rhagolygon cywir am gyfnod hir. Bydd gallu dweud gyda mwy o sicrwydd sut fath o dywydd y cawn ni yn ystod yr haf neu'r gaeaf nesaf yn golygu mwy o fanteision i'r economi. Bydd y diwydiant amaeth yn gallu cynllunio eu gweithgareddau'n fwy sicr, yn ogystal 芒 nifer o ddiwydiannau eraill. Bydd hefyd yn ein galluogi i amddiffyn pobl ac eiddo yn well rhag y tywydd garw."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2014