拢4.6m o Gyllid UE i Brifysgol Bangor ar gyfer ymchwil i effeithlonrwydd ynni carbon isel
Bydd canolfan gwyddor data newydd ar gyfer ynni gwyrdd yn cael ei chreu ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth 拢4.6m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Bydd y Ganolfan Ynni Effeithiol a Chlyfar yn datblygu ymchwil ar y cyd rhwng sefydliadau a busnesau Cymru ac yn rhyngwladol. Bydd yn ymchwilio i'r dewisiadau ar gyfer defnyddio gwyddor data mawr i wella effeithlonrwydd systemau ynni carbon isel gan gynnwys ynni niwclear, ynni'r m么r ac ynni gwynt ar y m么r.
Rhagwelir y daw'r ganolfan yn ganolbwynt rhagoriaeth rhyngwladol yn y Gogledd, gan gynhyrchu gwerth 拢9m pellach o incwm ymchwil dros y pedair blynedd nesaf, ac annog cydweithio ar syniadau newydd ac atebion arloesol i faterion effeithlonrwydd ynni byd-eang.
Bydd ymchwil yn seiliedig ar ddatblygu seilwaith seiber a systemau digidol newydd i gynyddu nifer a chyflymder y dadansoddiadau data a chynhyrchu dealltwriaeth ac arloesedd gwyddonol newydd mewn sectorau ynni carbon isel.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am oruchwylio cyllid yr UE yng Nghymru: "Mae鈥檔 hanfodol ein bod yn datblygu atebion creadigol i faterion effeithlonrwydd ynni adnewyddadwy wrth inni fynd i'r afael 芒 heriau byd-eang newid hinsawdd.
"Bydd y Ganolfan Ynni Effeithiol a Chlyfar yn gyfleuster penodedig sy'n defnyddio a datblygu arbenigedd rhyngwladol mewn gwyddor data ac ynni adnewyddadwy, ac yn rhoi Cymru ar frig y tabl ymchwil yn fyd eang o ran y newid yn yr hinsawdd.
"Drwy hybu cydweithio ac annog dull cydgysylltiedig o ran materion byd-eang, mae cyllid yr UE yn parhau i fod yn hanfodol wrth foderneiddio ein heconomi, gwella cynhyrchiant, datblygu cyfleoedd a sbarduno cynnydd gwirioneddol ym maes ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, seilwaith a sgiliau.鈥
Dywedodd yr Athro John Healey, Cyfarwyddwr Ymchwil Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg: "Mae'r Ganolfan Ynni Effeithiol a Chlyfar yn ddatblygiad strategol blaenllaw ar gyfer Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg sydd newydd ei ffurfio ym Mhrifysgol Bangor.
"Bydd yn arwain arloesedd o ran sut y gellir defnyddio peirianneg uwch, cyfrifiadureg a modelu yn fwyaf effeithiol i fynd i'r afael 芒 heriau mawr yn ymwneud 芒 chynyddu cynaliadwyedd cyflenwi a defnyddio ynni, gan leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd, yn enwedig allyriadau carbon net."
Dywedodd Dr Simon Neill, Cyfarwyddwr y Ganolfan: "Bydd y Ganolfan Ynni Effeithiol a Chlyfar yn gyfrwng i roi Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro technolegol presennol mewn ymchwil ynni carbon isel, sef un o'r prif flaenoriaethau yn yr argyfwng hinsawdd presennol."
Dros y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi'u hariannu gan yr UE yng Nghymru wedi creu dros 48,000 o swyddi a 13,000 o fusnesau newydd, gan helpu 86,000 o bobl i ddychwelyd i weithio.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2019