100 trysor Prifysgol Bangor
Gall ymwelwyr i Storiel, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, fwynhau arddangosfa newydd, 100 trysor Prifysgol Bangor, yn y cas sydd yn y dderbynfa. Defnyddir y cas arddangos hwn yn unswydd ar gyfer arddangos casgliadau鈥檙 Brifysgol, ac mae鈥檙 arddangosfa鈥檔 newid bob chwe mis.
Mae鈥檙 eitemau, sydd i鈥檞 gweld tan Ebrill 2019, yn ddetholiad o gasgliadau mawr ac amrywiol y Brifysgol.
Dewiswyd yr eitemau ar gyfer yr arddangosfa gan unigolion sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 casgliadau. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr sydd yn cynorthwyo i gynnal a chadw鈥檙 eitemau hynod werthfawr hyn.
Sail yr arddangosfa yw llyfryn, 100 Trysor Prifysgol Bangor, a gynhyrchwyd drwy arian gan Gronfa Bangor y Brifysgol a Chyngor Gwynedd. Cydlynwyd a golygwyd y llyfryn gan Elen Wyn Simpson, Archifydd Prifysgol Bangor a Helen Gwerfyl, Swyddog Casgliadau Prifysgol Bangor ac Amgueddfa Storiel.
Daeth casgliadau Prifysgol Bangor ynghyd yn ystod cyfnod cynnar y Brifysgol, pan oedd awydd i sicrhau adnoddau ar gyfer dysgu yn y sefydliad, ac maent wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Mae鈥檙 casgliadau s诺olegol, daearegol, y llysieufa, offerynnau cerdd ethnograffig a鈥檙 casgliadau celf a serameg wedi aros o fewn y Brifysgol, tra bod y dodrefn, archeoleg a hynafiaethau Cymreig wedi bod yn sylfaen i gasgliad Storiel. Mae Prifysgol Bangor a Storiel bellach yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y casgliadau hyn yn agored i鈥檙 gymuned, myfyrwyr a staff ac i鈥檞 diogelu at y dyfodol.
Dewisodd Emma Hobbins, sydd yn gweithio yn Storiel ac yn gwirfoddoli i edrych ar 么l y casgliad serameg, debot a wnaed yng Nghaerwrangon tua 1760 a phowlen Tsieineaidd sy鈥檔 dyddio o鈥檙 cyfnod 1573-1620.
Meddai:
鈥淒ewisais y tebot bach oherwydd fy mod yn hoff o鈥檌 si芒p a鈥檙 addurn o adar rhydd a diofal a blodau sydd arno. Maent wedi eu paentio鈥檔 sydyn arno 芒 llaw. Fe鈥檌 gwnaed tua 1760 yng Nghaerwrangon - rheswm arall i mi ei hoffi - ces fy magu yno. Mae wedi ei baentio mewn arddull sydd 芒 dylanwad trwm llestri Kakiemon o Siapan yr ail ganrif ar bymtheg arni. Mae鈥檙 berthynas a fu rhwng Tsieina a Siapan, lle ddyfeisiwyd porslen gyntaf, ac Ewrop hefyd yn stori ddifyr. Gwnaed porslen yn y Gorllewin am y tro cyntaf ym mlynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif, dros fil o flynyddoedd ar 么l Tsieina. Felly, fe wnaed y tebot pan oedd cynhyrchu porslen yn dal i fod yn dechneg eithaf newydd yn ffatri Caerwrangon, a gychwynnodd yn 1751. Mae鈥檙 rhybedion metel sy鈥檔 dal y corff wrth ei gilydd yn awgrymu hyn - roedd tywallt d诺r berwedig i mewn i debot newydd yn amlygu鈥檙 diffygion cynnar wrth danio鈥檙 porslen, ond roedd gwerth a dengarwch y tebot bach yn ei wneud yn werth ei drwsio.鈥
Gan esbonio pam dewisodd y bowlen meddai:
鈥淢ae鈥檙 bowlen hardd hon yn rhoi pleser i mi鈥檔 gyson. Rwy鈥檔 hoff iawn o鈥檌 si芒p a鈥檌 lliw, ac yn dotio at ei chymesuredd, a hefyd natur unigol y blodau a baentiwyd 芒 llaw o amgylch ochr allanol y bowlen bron i 500 o flynyddoedd yn 么l.鈥
A hithau鈥檔 gyn ddarlithydd mewn coedwigaeth, mae Pat Denne yn curadu鈥檙 casgliad coed a phren wedi鈥檌 ddifrodi. Meddai:
鈥淔y hoff bren yw鈥檙 pren sandal coch, nid yn unig oherwydd y cysylltiad lleol gan fod y darn yma wedi ei godi o waelod y m么r oddi ar Ben y Gogarth, ond hefyd oherwydd ei raen llyfn a鈥檌 liw coch dwfn. Roedd yn cael ei brisio鈥檔 fawr ar un adeg i鈥檞 ddefnyddio i lifo gwl芒n, ond erbyn hyn mae鈥檔 cael ei smyglo gan ei fod yn hynod werthfawr i wneud eitemau addurniadol drudfawr.鈥
Mae Helen Simpson, technegydd yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, hefyd yn cynorthwyo gyda鈥檙 casgliad, ynghyd 芒 Sian Turner, cyn- fyfyriwr PhD. Meddai Helen:
鈥淩wy鈥檔 meddwl bod morgrug gwyn yn wefreiddiol yn y modd y maent yn trefnu eu hunain i greu tomen fyw hyd at 6 medr o uchder ac mae鈥檙 dinistr y gallant ei achosi i adeiladau yn ddychrynllyd!
Dewisodd Stina Homer, myfyrwraig doethuriaeth mewn ethnogerddoreg yn yr Ysgol Cerddoriaeth a鈥檙 Cyfryngau, eitem ar gyfer yr arddangosfa.
Meddai: 鈥淓nillais grant AHRC fis Medi 2015, ac rwy鈥檔 gweithio ar y cyd efo Storiel. Fy mhwnc yw casgliad o arteffactau cerddorol hynafol o Fecsico a gasglwyd gan Peter Crossley-Holland ac sydd bellach ym Mhrifysgol Bangor. Mae 329 eitem i gyd, ond dewisais un ar gyfer yr arddangosfa: ocarina bach. Mae ar ffurf m么r-grwban anthropomorffig - fe鈥檌 galwodd Crossley-Holland o yn 鈥渄dyn m么r-grwban鈥. Mae鈥檔 debyg ei fod yn cynrychioli dyn sydd yn troi鈥檔 anifail yn ystod defod, neu ddyn yn gwisgo gwisg m么r-grwban ar gyfer seremoni. Roedd cyswllt cryf rhwng celf, crefydd a natur yng ngorllewin Mecsico ganrifoedd yn 么l ac mae鈥檙 ocarina yn enghraifft berffaith o hyn.
鈥淢ae鈥檔 un o fy ffefrynnau oherwydd ei fod yn llawn cymeriad. Mae tua 2000 o flynyddoedd oed o ardal arfordirol gorllewin Mecsico sydd bellach yn nhalaith Colima. Mae personoliaeth a medrusrwydd y gwneuthurwr yn dod i鈥檙 amlwg drwy鈥檙 manylion yn y corff a鈥檙 addurniadau manwl.鈥
Meddai Elen Wyn Simpson, Archifydd y Brifysgol:
鈥淒ewisais Of Gardens, An Essay gan Frances Bacon, gan ei bod yn enghraifft wych o lawysgrif addurnedig fodern o鈥檙 ugeinfed ganrif. Mae鈥檙 rhwymiad addurnol gemog, sy鈥檔 dangos dau baun, yn ddigon i fynd 芒鈥檆h gwynt i ffwrdd, tra bod y tudalennau o femrwn wedi cadw yn dda ac wedi鈥檜 haddurno mewn lliwiau llachar.
Mae鈥檙 ffaith ei bod unwaith yn eiddo i Syr John Morris-Jones, Athro Cymraeg Prifysgol Bangor, yn ychwanegu at ei phwysigrwydd. Fel un o gewri bywyd llenyddol ei gyfnod, byddai yn sicr wedi gwerthfawrogi crefftwaith y caligraffydd a鈥檙 darlunydd, Alberto Sangorski.鈥
Meddai Sheila O鈥橬eal, Cyfarwyddwr Datblygu yn Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni y Brifysgol:
鈥淩ydym yn falch o allu rhannu rhai o鈥檙 archifau, llyfrau prin ac arteffactau a roddwyd i鈥檙 Brifysgol fel adnoddau dysgu. Rydym yn gwerthfawrogi ein trysorau diwylliannol ac yn awyddus i鈥檞 rhannu mor eang ag sy鈥檔 bosib.
Mae rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr yn ein galluogi i wneud hyn yn ogystal 芒 chefnogi myfyrwyr presennol gyda鈥檜 hastudiaethau.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2018