Modiwl XAC-2040:
Seicopatholeg Ymhlith Plant
Iechyd Meddwl Mewn Plentyndod 2024-25
XAC-2040
2024-25
School of Education
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Nia Williams
Overview
Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i ymchwilio i amrywiaeth o anawsterau iechyd meddwl y mae plant a phobl ifanc yn eu profi, a thrafod y rheiny, a'u heffaith ar y plentyn, yn cynnwys: - Anhwylderau bwyta - Anhwylder Personoliaeth - Iselder a phryder - Anhwylderau emosiynol ac ymddygiadol Sgitsoffrenia mewn plentyndod Bydd y modiwl hefyd yn ystyried sut y gallwn weithio gyda phlant i fynd i'r afael â'r problemau hyn a rhoi cefnogaeth werth iddynt fynd drwy eu plentyndod.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D-, D, D+): Dealltwriaeth foddhaol o theorïau cyfredol iechyd meddwl mewn plentyndod. Dangos gallu i drafod y canlyniadau tebygol, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl ar sail ymchwil boddhaol. Ymwybyddiaeth sylfaenol o effaith syniadau cymdeithas ynghylch iechyd meddwl ar blant. Gallu i adnabod y gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn, a’r strategaethau a ddefnyddir i helpu plant y mae ystod o broblemau iechyd meddwl yn effeithio arnynt.
-good -Da (C-, C, C+): Dealltwriaeth dda o theorïau cyfredol iechyd meddwl mewn plentyndod. Dangos gallu i drafod y canlyniadau tebygol, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl mewn manylder ac ar sail ymchwil cefndirol dibynadwy. Ymwybyddiaeth gadarn o effaith syniadau cymdeithas ynghylch iechyd meddwl ar blant. Gallu da i adnabod gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn, ac awgrymu'r strategaethau mwyaf priodol a ddefnyddir i helpu plant y mae ystod o broblemau iechyd meddwl yn effeithio arnynt.
-excellent -Rhagorol (A-, A, A+, A*): Dealltwriaeth gynhwysfawr o theorïau cyfredol iechyd meddwl mewn plentyndod. Dangos gallu i drafod yn dreiddgar ac yn fanwl y canlyniadau, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl ar sail ymchwil cefndirol estynedig. Ymwybyddiaeth drwyadl o effaith syniadau cymdeithas ynghylch iechyd meddwl ar blant. Gallu ardderchog i adnabod y gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn ac awgrymu amrywiaeth o strategaethau a ddefnyddir i helpu plant y mae ystod o broblemau iechyd meddwl yn effeithio arnynt a thrafod eu heffeithiolrwydd.
Learning Outcomes
- Cydweithio â thîm neu yn unigol i gynhyrchu rhaglen ddogfen yn seiliedig ar ffeil achos go iawn.
- Dangos dealltwriaeth drylwyr o salwch meddwl penodol ar blant a phobl ifanc
- Dangos dealltwriaeth drylwyr o'r canlyniadau hirdymor tebygol, sy'n seiliedig ar ymchwil, i blant sy'n dioddef o amrywiol afiechydon meddwl a gwerthuso'n feirniadol y triniaethau sydd ar gael iddynt.
- Dangos dealltwriaeth o gyd-destun cymdeithasol ehangach iechyd meddwl yn ystod plentyndod ac ystyried effaith agweddau cymdeithasol ar iechyd meddwl plant.
- Dangos hyfedredd mewn o leiaf dau faes fel rhan o dîm gwneud ffilmiau, yn cynnwys: cynhyrchu, rheoli, ysgrifennu i'r sgrîn, cyfarwyddo, golygu, sain, effeithiau arbennig ac ymchwil.
- Disgrifio a gwerthuso'r prif ddamcaniaethau biolegol a gwybyddol sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o salwch meddwl yn ystod plentyndod a llencyndod.
- Disgrifiwch nodweddion a phrif feini prawf diagnostig amrywiol afiechydon meddwl plant a phobl ifanc
- Gallu adnabod yr asiantaethau a'r gweithwyr proffesiynol a all roi cymorth i blant sy'n dioddef o anawsterau iechyd meddwl a'u teuluoedd.
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Rhaglen ddogfen/ffilm fer
Weighting
50%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Prawf yn y Ddarlith
Weighting
50%