Modiwl WXC-1120:
Dyfeisio Theatr
Dyfeisio Theatr 2024-25
WXC-1120
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Ffion Evans
Overview
Mae Creu Theatr yn gyfle i gael eich cyflwyno i faes pwnc theatr a pherfformio. Archwilio o fewn gweithdai ymarferol, sut i greu eich gwaith perfformio eich hun gyda grŵp o bobl eraill, sut y gall rhywun lunio drama wreiddiol, a datblygu fel actor, cyfarwyddwr, awdur, dylunydd… wrth wneud gwaith byw.
Archwilir prosesau cynhyrchu, cewch eich annog i fynd i weld perfformiadau byw a gwaith perfformio digidol gyda chyfle cyffrous i greu eich darn perfformio eich hun erbyn diwedd y tymor. Mae croeso i chi berfformio, ysgrifennu, cyfarwyddo'r gwaith perfformio a chael cyfle i archwilio ac arbrofi.
- Beth yw perfformio yn ymarferol?
- Llwyfannu elfennau sy’n gysylltiedig â pherfformio?
- Gwaddol hanesyddol a diwylliannol gwahanol draddodiadau yn y theatr.
- Sut mae gwahanol draddodiadau yn y theatr wedi herio a chyfoethogi’r syniad o berfformio a’r theatr.
Assessment Strategy
Trothwy (D-, D, D+): •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig •Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Sgiliau grŵp gwan •Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da / Boddhaol (C- i C +) •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol •Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da iawn/Da B- i B+ •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol: •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda •Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
Rhagorol (A- hyd A*): •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
Learning Outcomes
- Dangos sgiliau sy'n ymwneud â chreu perfformiad, megis cyfarwyddo, actio, cynhyrchu, etc.
- Dangos ymwybyddiaeth o’r gyd-berthynas rhwng theori ac ymarfer ym maes astudiaethau perfformio ac o’r prosesau cysyniadol a chreadigol sy’n sail i ddeall a gwireddu perfformiad.
- Disgrifio, dehongli a gwerthuso perfformiad ar draws amrywiaeth o ddigwyddiadau a safleoedd.
- Gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm cydweithredol mewn proses greadigol
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Dyfeisio Perfformiad Grwp Creu Darn Perfformiad Grŵp (20 munud). Byddwch yn creu perfformiad grŵp wedi ei seilio ar destun a syniadau astudiwyd yn y modiwl. Disgwylir i chi ddefnyddio ymchwil ymarferol a wnaed gennych yn unigol achan y grŵp, a syniadau a dulliau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau dysgu. Mae’n rhaid i chi benderfynu sut rydych am ymdrin â’r deunydd perfformio fel bod y themâu a nodwyd gennych yn cael eu gwneud yn glir i gynulleidfa. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau yn yr aseiniad hwn, felly bydd y rhan fwyaf o'r marciau'n farciau grŵp; ond caiff cyflawniadau unigol hefyd eu cymryd i ystyriaeth. Mi fydd y perfformiadau yn cael ei gynnal ar ddiwedd y tymor.
Weighting
70%
Due date
17/12/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Adolygiad Perfformio Cwestiwn: Pa ddealltwriaeth newydd y gellir ei chael trwy ddefnyddio dull Pavis o ddadansoddi cynhyrchiad theatr byw? Dewiswch ddim mwy na dwy agwedd (e.e. actio, mise ênscène, goleuo, gwisgoedd, etc.) ar fodel dadansoddi Pavis. Cymhwyswch y rhain at berfformiad byw rydych wedi ei weld .O’r dadansoddiad hwn, dylech gael dehongliad o’r ddrama y gallwch ddadlau drosto yn eich traethawd fer, gan gyfeirio at eich dadansoddiad. Yn eich traethawd fer mae’n rhaid i chi egluro’r dull Pavis yn fyr ac egluro pam rydych wedi dewis defnyddio’r agweddau neilltuol dan sylw (goleuo, actio, etc.). Dylech gyfeirio at o leiaf 5 ffynhonnell (mae'n rhaid iddynt gynnwys rhai testunau ysgolheigaidd, ond gallwch hefyd gynnwys ffilmiau, ffynonellau o'r rhyngrwyd, adolygiadau, nodiadau rhaglen, dramâu, etc.) a dyfynnu’r rhain yn gywir ganddefnyddio system Harvard.
Weighting
30%
Due date
18/11/2024