Modiwl SCW-4008:
Gwe a Moes ar gy Ymarfer GC
Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 2024-25
SCW-4008
2024-25
School of Health Sciences
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Rhian Lloyd
Overview
Bydd y modiwl hwn yn rhoi sylw i ddatblygiad gwerthoedd gwaith cymdeithasol ac egwyddorion moeseg, gan gysylltu鈥檙 rhain ag ymarfer gwaith cymdeithasol, a鈥檙 cyfyng-gyngor cymhleth y mae ymarferwyr yn ei wynebu. Rhoddir sylw i naratifau myfyrwyr eu hunain a鈥檜 dylanwad ar hunaniaeth ac agweddau.
Edrychir ar yr anfantais a鈥檙 anghydraddoldeb y mae rhai grwpiau mewn cymdeithas yn eu hwynebu, gyda phwyslais ar sut y mae gwahaniaethu a gormes mewn cymdeithas yn cyfrannu at yr angen am wasanaethau gwaith cymdeithasol. Archwilir yr enghraifft o sensitifrwydd ieithyddol a gormes iaith yng Nghymru, a chyffredinolir y dysgu hefyd i ymdrin ag agweddau eraill ar ormes.
Ystyrir modelau grym ac egwyddorion galluogi ac ymarfer gwrth-ormesol, a defnyddir achosion lle ceir gwrthdaro rhwng hawliau a lles i ddangos cyfyng-gyngor a all godi ynghylch gofal a rheolaeth, neu gymryd risg ac amddiffyn.
Archwilir y fframwaith cyfreithiol yn ymwneud 芒 chydraddoldeb, a rhoddir sylw i offerynnau a deddfwriaeth hawliau dynol, gan edrych ar eu r么l yn dylanwadu ar gymdeithas a pheri newidiadau.
Assessment Strategy
-threshold -(C) Dylai myfyrwyr trothwy ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniad canolog gwerthoedd fel sail ymarfer gwaith cymdeithasol, a鈥檌 oblygiadau o ran hyrwyddo cydraddoldeb a gwrthweithio gormes; a gallu cymwys i ddefnyddio hyn mewn sefyllfaoedd ymarfer. Dylai bod gan y myfyrwyr hefyd y gallu i ddadansoddi sut mae gormes, gwahaniaethu a phrosesau cymdeithasol eraill yn gweithredu a gwerthuso a gweithredu modelau grym, galluogi ac ymarfer gwrth-ormesol. Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth o鈥檜 hunaniaeth a鈥檜 gwerthoedd eu hunain, gan egluro sut y gall y rhain ddylanwadu ar eu hymarfer. Dylai bod gan fyfyrwyr ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac offerynnau hawliau dynol, ynghyd ag ymrwymiad i hyrwyddo hawliau defnyddwyr gwasanaeth, a gallu i gymhwyso'r cysyniadau hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai myfyrwyr fedru defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu a datrys problemau i roi sylw i gyfyng gyngor ynghylch gwerthoedd ac i archwilio sialensiau鈥檔 ymwneud 芒 materion gofal yn erbyn rheolaeth mewn ymarfer gwaith cymdeithasol. -good -(B) Dylai myfyrwyr da ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o gysyniad canolog gwerthoedd fel sail ymarfer gwaith cymdeithasol, a鈥檌 oblygiadau o ran hyrwyddo cydraddoldeb a gwrthweithio gormes; a gallu sylweddol i ddefnyddio hyn mewn sefyllfaoedd ymarfer. Dylai bod gan y myfyrwyr hefyd allu clir i ddadansoddi sut mae gormes, gwahaniaethu a phrosesau cymdeithasol eraill yn gweithredu a gwerthuso鈥檔 feddylgar fodelau grym, galluogi ac ymarfer gwrth-ormesol a鈥檜 gweithredu. Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth dreiddgar o鈥檜 hunaniaeth a鈥檜 gwerthoedd eu hunain, gan egluro鈥檔 fanwl sut y gall y rhain ddylanwadu ar eu hymarfer. Dylai bod gan fyfyrwyr ymwybyddiaeth dda o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac offerynnau hawliau dynol, ynghyd ag ymrwymiad clir i hyrwyddo hawliau defnyddwyr gwasanaeth, a gallu sylweddol i gymhwyso'r cysyniadau hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai myfyrwyr fedru defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu a datrys problemau i roi sylw i gyfyng gyngor ynghylch gwerthoedd ac i archwilio鈥檔 fanwl y sialensiau鈥檔 ymwneud 芒 materion gofal yn erbyn rheolaeth mewn ymarfer gwaith cymdeithasol. -excellent -(A) Dylai myfyrwyr rhagorol ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o gysyniad canolog gwerthoedd fel sail ymarfer gwaith cymdeithasol, a鈥檌 oblygiadau o ran hyrwyddo cydraddoldeb a gwrthweithio gormes; a gallu hynod fedrus i ddefnyddio hyn mewn sefyllfaoedd ymarfer. Dylai bod gan y myfyrwyr hefyd allu soffistigedig i ddadansoddi sut mae gormes, gwahaniaethu a phrosesau cymdeithasol eraill yn gweithredu a gwerthuso鈥檔 drylwyr fodelau grym, galluogi ac ymarfer gwrth-ormesol a鈥檜 gweithredu. Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth amlochrog o鈥檜 hunaniaeth a鈥檜 gwerthoedd eu hunain, gan egluro鈥檔 aeddfed ac adfyfyriol sut y gall y rhain ddylanwadu ar eu hymarfer. Dylai bod gan fyfyrwyr ymwybyddiaeth fanwl o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac offerynnau hawliau dynol, ynghyd ag ymrwymiad brwdfrydig i hyrwyddo hawliau defnyddwyr gwasanaeth, a gallu trylwyr i gymhwyso'r cysyniadau hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai myfyrwyr fedru defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu a datrys problemau o鈥檙 safon uchaf i roi sylw i gyfyng gyngor ynghylch gwerthoedd a鈥檌 ddadansoddi, ac i archwilio鈥檔 helaeth y sialensiau鈥檔 ymwneud 芒 materion gofal yn erbyn rheolaeth mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.
Learning Outcomes
- Dadansoddi'n feirniadol sut mae prosesau cymdeithasol fel tlodi, diweithdra neu anabledd yn gweithredu, a sut y gall y rhain arwain at allg谩u cymdeithasol ac ymyleiddio sy'n effeithio ar yr angen am wasanaethau gwaith cymdeithasol.
- Dangos cymhwysedd rhesymu moesol, gan ddefnyddio gwerthoedd gwaith cymdeithasol, egwyddorion moesegol a chodau ymarfer, mewn sefyllfaoedd cymhleth lle mae gwrthdaro a chyfyng-gyngor I weithwyr cymdeithasol.
- Dangos eu dealltwriaeth gynhwysfawr o natur ac esblygiad gwerthoedd gwaith cymdeithasol, a sut mae'r rhain yn berthnasol i godau ymarfer cyfredol a moeseg.
- Datblygu strategaethau i rymuso eu hunain ac eraill ac i sicrhau bod eu harferion eu hunain yn wrth-ormesol ac yn gynhwysol yn gymdeithasol, gan gydnabod r么l y cyd-gynhyrchu, cydweithio a chynnwys pobl sydd angen gofal a chymorth, a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, fel strategaethau i wrthsefyll gormes a gwahaniaethu.
- Egluro a dadansoddi sut mae gwahaniaethu a gormes yn gweithredu yn erbyn grwpiau ac unigolion trwy, er enghraifft hiliaeth, rhywiaeth neu oedraniaeth; yn enwedig sut y gall y prosesau hyn hefyd weithredu o fewn gwaith cymdeithasol a sefydliadau eraill; a r么l grym yn parhau amgylchiadau neu greu newid.
- Esbonio sut y mae gwybodaeth mewn gwaith cymdeithasol yn cael ei adeiladu yn gymdeithasol ac asesu sut mae eu profiadau personol a rolau a statws mewn cymdeithas wedi dylanwadu ar eu gwerthoedd a鈥檜 hunaniaeth eu hunain a chredoau am bobl eraill.
- Gwerthuso'n feirniadol ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol ac offerynnau hawliau dynol eraill, a dehongli eu cymhwyso mewn sefyllfaoedd ymarfer cymhleth.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Aseiniad 3,000 o eiriau
Weighting
100%
Due date
20/12/2024