Modiwl SCS-1004:
Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes
Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes 2024-25
SCS-1004
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Rhian Hodges
Overview
Ceir cyflwyniad i'r prif theor茂au cymdeithasegol, gan ganolbwyntio ar bersbectifau'r swyddogaethwyr a'r ddamcaniaeth gwrthdaro. Edrychir ar waith Emile Durkheim a Karl Marx a'u gwaith arloesol mewn ffurfio theor茂au cymdeithasegol cynnar gan gynnig heriau a datrysiadau i'w theoriau gan ddamcaniaethwyr cyfoes a chyfredol. Yna edrychir ar sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes, gan gymhwyso'r theor茂au a'r persbectifau at ddadansoddi sefydliadau fel y teulu, addysg, y farchnad lafur a dosbarth cymdeithasol.
Cyflwynir prif theor茂au a phersbectifau cymdeithasegol o fewn y modiwl hwn, Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes. Trafodir y prif gysyniadau cymdeithasegol megis diffinio pwpas cymdeithaseg, hunaniaeth unigol a chasgliadol, cymdeithasoli, normau a gwerthoedd cymdeithasol a nifer o gysyniadau yn gysylltiedig 芒 phynciau鈥檙 teulu, addysg, dosbarth cymdeithasol, y farchnad lafur ac anghydraddoldeb. Cyflwynir y prif ddamcaniaethwyr cynnar megis Durkheim, Weber a Marx ynghyd 芒 damcaniaethwyr a meddylwyr mwy cyfoes sy鈥檔 herio safbwyntiau damcaniaethwyr cynnar y maes. Ceir astudiaeth o鈥檙 prif sefydliadau cymdeithasol, yn eu plith y teulu, addysg, dosbarth cymdeithasol a鈥檙 farchnad lafur, gan gynnwys archwilio鈥檙 ffactorau sy鈥檔 effeithio tlodi ,allgau cymdeithasol ac anghydraddoldebau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.
O fewn y modiwl hwn, byddwn yn ceisio ateb y cwestiynau canlynol sy鈥檔 amlygu rhai safleoedd o wrthdaro a thensiwn o fewn y gymdeithas ac sy鈥檔 ein helpu ni i ddeall pam nad oes gan bawb yn y gymdeithas gyfle cyfartal i lwyddo: Pa ffactorau sy鈥檔 effeithio llwyddiant unigolion o fewn y system addysg?
Sut mae鈥檙 Marcswyr yn ymdrin 芒 dosbarth cymdeithasol?
Beth yw safbwyntiau鈥檙 Ffeministiaid ar anghyfartaledd rhywedd yn ygweithle?
Pa unigolion neu grwpiau yn y gymdeithas sydd fwy tebygol o ddioddef tlodi ac allgau cymdeithasol?
Yn 么l y Swyddogaethwyr, beth yw r么l y teulu yn y gymdeithas?
Assessment Strategy
Meini Prawf Asesu
Trothwy: D- i D+ Arddangos ymwybyddiaeth sylfaenol a chyffredinol o theor茂au aphersbectifau cymdeithasegol megis Marcsiaeth, Ffwythiannaeth aFfeministiaeth. Arddangos ymwybyddiaeth sylfaenol o r么l sefydliadaucymdeithasol megis y teulu, dosbarth ac addysg yn y gymdeithas gyfoes gangyfeirio鈥檔 achlysurol at yr hyn sy鈥檔 digwydd yng Nghymru. Bydd y myfyriwr ynamlinellu dealltwriaeth sylfaenol o鈥檙 persbectifau a鈥檙 sefydliadau ond ni fyddai鈥檔 manylu nac yn ehangu ar y drafodaeth mewn manylder. Bydd ymyfyrwyr yn cyflwyno gwaith ysgrifenedig gyda chyfeiriadaeth a llyfryddiaethsylfaenol yn unig.
Da: C- i B+ Arddangos dealltwriaeth dda a lled fanwl o theor茂au a phersbectifaucymdeithasegol megis Marcsiaeth, Ffwythiannaeth a Ffeministiaeth. Dangosdealltwriaeth dda a lled fanwl o r么l sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithasgyfoes yng Nghymru gan dynnu ar enghreifftiau addas, a beirniadol mewnmannau i gefnogi atebion. Bydd yn cyfeirio鈥檔 gywir at gysyniadau megismeritocratiaeth, ymwybyddiaeth ddosbarth, cymdeithasoli, normau agwerthoedd cymdeithasol a chysyniadau creiddiol eraill. Cyflwynir y gwaithysgrifenedig gyda chyfeiriadaeth a llyfryddiaeth briodol a chywir.
Rhagorol: A- i A+ Bydd y myfyriwr medru ymdrin yn feirniadol 芒 theor茂au a phersbectifaucymdeithasegol y maes hwn megis Marcsiaeth, Ffwythiannaeth aFfeministiaeth mewn modd soffistigedig ac academaidd aeddfed ei naws. Bydd y myfyriwr yn arddangos dealltwriaeth gwmpasog o ystod o brifddamcaniaethau鈥檙 maes gan arddangos ymchwil annibynnol a鈥檙 ymgais iehangu ac ymestyn y drafodaeth. Bydd y myfyriwr medru dadansoddi,dehongli, gwerthuso ac egluro yn feirniadol r么l sefydliadau cymdeithasol yn ygymdeithas gyfoes megis y teulu, addysg a dosbarth cymdeithasol. Bydd ymyfyriwr yn rhoi ar waith cysyniadau creiddiol i鈥檙 persbectifau allweddol megismeritocratiaeth, ymwybyddiaeth ddosbarth, cymdeithasoli, normau agwerthoedd cymdeithasol gan bwyso a mesur eu gwerth i鈥檙 gymdeithasgyfredol . Bydd y myfyriwr yn defnyddio gwybodaeth o ffynonellau amrywiolac yn cyrchu gwybodaeth newydd er mwyn trafod y meysydd mewn dyfnder.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o wreiddiau theori gymdeithasegol
- Dangos dealltwriaeth o'r prif gysyniadau cymdeithasegol
- Deall rolau'r prif sefydliadau cymdeithasol mewn modd beirniadol er mwyn dadansoddi newidiadau i'r gymdeithas gyfoes
- Gallu defnyddio cysyniadau priodol i ddadansoddi agweddau ar gymdeithas gyfoes
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Aseiniad 2,000 o eiriau
Weighting
50%
Due date
19/12/2024
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Prawf Dosbarth 1
Weighting
25%
Due date
18/11/2022
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Prawf Dosbarth 2
Weighting
25%
Due date
26/11/2024