Modiwl PCC-2002:
Dulliau Ymchwil IV
Dulliau Ymchwil 4 2024-25
PCC-2002
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Leah Hadden-Purnell
Overview
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y dadansoddiadau meintiol a'r dulliau ymchwil yr ydych wedi dysgu ynghynt yn eich gradd. Bydd y modiwl yn dechrau gyda chrynodeb byr o’r ystadegau meintiol yr ydych wedi'u trafod o'r blaen, cyn cyflwyno gwybodaeth am ddadansoddiadau mwy cymhleth, megis ANOVA unffordd, ANOVA ffactoraidd, ANCOVA, MANOVA, a phrofion amharamedrig. Bydd darlithoedd hefyd yn cwmpasu dylunio arbrofol a moeseg ymchwil seicoleg. Mae'r modiwl hwn yn cynnwys darlith 2 awr yr wythnos yn ogystal â sesiwn labordy 1 awr. Yn ogystal, mae'r modiwl hwn yn cynnwys sesiynau POPPS wythnosol. Gofynnir i chi fynychu y darlithoedd yn ogystal â labordy a grwpiau POPPS, a noder y bydd presenoldeb yn cael ei recordio. Mae'r modiwl yn fodiwl craidd, sy'n golygu bod rhaid i chi basio gyda marc o > 40% i barhau i flwyddyn 3.
Assessment Strategy
-threshold - D - Adolygiad gwael o’r llenyddiaeth, gyda llawer o wallau o ran cyflwyniad a chywirdeb. Defnyddiwyd ychydig o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wael, gyda dipyn o wallau ffeithiol. Ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn. Dealltwriaeth wael o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir ym maes seicoleg. Dealltwriaeth wael o’r cynlluniau arbrofol gwahanol. Cyfathrebiad wael o wybodaeth ar lafar yn ystod trafodaethau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Ni ddengys unrhyw hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
-good -B -- Adolygiad da o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n dda, gydag ychydig iawn o wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn dda.Dealltwriaeth dda o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir ym maes seicoleg. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn weddol glir. Cyfathrebiad da o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth da, gwaith annibynnol, a meddwl critigol yn ystod trafodaethau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Hyfedr iawn wrth ddefnyddio SPSS.
-excellent -A - Adolygiad gwych o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd gwych o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wych, heb unrhyw wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn wych.Dealltwriaeth gadarn o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir ym maes seicoleg. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn glir. Cyfathrebiad gwych o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol yn ystod trafodaethau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Hyfedredd gadarn wrth ddefnyddio SPSS.
-another level-C - Adolygiad boddhaol o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu eithaf clir. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n foddhaol, ond gydag ambell i wall ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn foddhaol.Dealltwriaeth foddhaol o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir ym maes seicoleg. Dengys ychydig o allu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol. Cyfathrebiad boddhaol o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth boddhaol, ac ychydig o waith annibynnol yn ystod trafodaethau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Dengys ychydig o hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
Learning Outcomes
- Casglu data gydag amrywiaeth o dechnegau arbrofol a gwahaniaethu rhwng y gwahanol gynlluniau arbrofol sydd ar gael ar gyfer ymchwil empirig yn seicoleg
- Cyfrifo a dehongli dadansoddiad ystadegol disgrifiadol a dehongli cynrychioliadau graffigol o ddata
- Cymryd rhan mewn ymchwil seicolegol barhaus trwy’r rhaglen SONA, yn ogystal ag aseiniadau gwaith cartref yn gysylltiedig ag arbrofion.
- Dangos dealltwriaeth fwy manwl o fesuriadau, arsylwadau a chynllunio arbrofol fel technegau methodolegol yn seicoleg.
- Dangos dealltwriaeth o'r ystadegau a ddefnyddir mewn ymchwil seicolegol, gyda phwyslais arbennig ar dechnegau ANOVA a'u dadansoddiad ystadegol.
- Dangos gallu i gyfathrebu ymchwil wyddonol ar lafar ac ar bapur.
- Cynhyrchu adroddiad ymchwil graenus sy'n dilyn canllawiau'r APA
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad Ymarferol. Eich tasg yw darllen dau senario sydd yn cynrychioli astudiaethau ymchwil. Bydd gofyn i chi ddarllen a dehongli'r senarios, cyfrifo dyluniad yr ymchwil. Yna byddwch yn dadansoddi setiau data cysylltiedig yn SPSS ac yn adrodd ar y rhain drwy ateb cwestiynau amlddewis
Weighting
15%
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad Ymchwil: Byddwn yn cynnal prosiect ymchwil (lle byddwch hefyd yn cymryd rhan) drwy gydol y modiwl. Ar gyfer yr adroddiad ymchwil bydd gofyn i chi ysgrifennu adolygiad byr o lenyddiaeth, adran dulliau, adran ganlyniadau a thrafodaeth ar y prosiect ymchwil (uchafswm o 1500 o eiriau heb gynnwys cyfeiriadau).
Weighting
30%
Due date
01/05/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad Terfynol: Arholiad yn cynnwys cwestiynau aml-ddewis i brofi eich dealltwriaeth o gynnwys y cwrs
Weighting
30%
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
POPPS Participation
Weighting
2%
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
Small Roles
Weighting
4%
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
PS 1: Bydd gofyn i chi paratoi cyflwyniad ar lafar byr i'r grŵp POPPS
Weighting
5%
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
PS2: Bydd gofyn i chi paratoi cyflwyniad ar lafar byr i'r grŵp POPPS
Weighting
5%
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
IMP 1: Bydd gofyn i chi roi cyflwyniad byr ar lafar ar fyr rybydd
Weighting
2%
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
IMP 2: BYdd gofyn i chi roi cyflwyniad byr ar laf ar fyr rybydd
Weighting
2%
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
SONA 1
Weighting
2.5%
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
SONA 2
Weighting
2.5%