Modiwl ICC-3321:
Systemau Rheoli
Systemau Rheoli 2024-25
ICC-3321
2024-25
School Of Computer Science And Electronic Engineering
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Daniel Roberts
Overview
Crynodeb o'r cynnwys: • Cyflwyniad i system reoli, adolygu dull Laplace o drawsnewid modelu systemau deinamig mewn systemau llif mecanyddol, electromecanyddol, hylif a gwres; cyfatebiaethau rhwng gwahanol fathau o systemau ffisegol. Datrys hafaliadau gwahaniaethol cyffredin; ffwythiannau trosglwyddo; cynrychioliad a defnyddiad diagram bloc; nodweddion systemau trefn dau. • Egwyddorion adborth; manteision ac anfanteision adborth negyddol; gwrthod aflonyddwch; sŵn synwyryddion; gwahanol fathau o adborth - cyfrannol, annatod a deilliadol. Dangosyddion perfformiad deinamig; gwall cyflwr sefydlog; y math o system; rhanbarthau yn yr plân-s sy’n ymwneud â gwahanol fathau o ymateb deinamig; meini prawf sefydlogrwydd; manylebau parth amser. • Lleoliadau pôl a sero; perthynas ag ymatebion cam ac amlder. Plot Bode; ffin enillion a chyfnodau fel mesurau sefydlogrwydd. • Cyfadferiad arweiniol a'r defnydd ohono; cyfadferiad dilynol a'r defnydd ohono; cymhwyso i wella perfformiad system reoli; canllawiau a dulliau dylunio. • Defnyddio offer meddalwedd efelychu i ddadansoddi a dylunio systemau rheoli.
Crynodeb o'r cynnwys:
• Cyflwyniad i system reoli, adolygu dull Laplace o drawsnewid modelu systemau deinamig mewn systemau llif mecanyddol, electromecanyddol, hylif a gwres; cyfatebiaethau rhwng gwahanol fathau o systemau ffisegol. Datrys hafaliadau gwahaniaethol cyffredin; ffwythiannau trosglwyddo; cynrychioliad a defnyddiad diagram bloc; nodweddion systemau trefn dau. • Egwyddorion adborth; manteision ac anfanteision adborth negyddol; gwrthod aflonyddwch; sŵn synwyryddion; gwahanol fathau o adborth - cyfrannol, annatod a deilliadol. Dangosyddion perfformiad deinamig; gwall cyflwr sefydlog; y math o system; rhanbarthau yn yr plân-s sy’n ymwneud â gwahanol fathau o ymateb deinamig; meini prawf sefydlogrwydd; manylebau parth amser. • Lleoliadau pôl a sero; perthynas ag ymatebion cam ac amlder. Plot Bode; ffin enillion a chyfnodau fel mesurau sefydlogrwydd. • Cyfadferiad arweiniol a'r defnydd ohono; cyfadferiad dilynol a'r defnydd ohono; cymhwyso i wella perfformiad system reoli; canllawiau a dulliau dylunio. • Defnyddio offer meddalwedd efelychu i ddadansoddi a dylunio systemau rheoli.
Assessment Strategy
rhagorol
Cyfateb i'r ystod 70%+. Casglu ynghyd feysydd gwybodaeth a theori perthnasol a werthuswyd yn feirniadol i lunio atebion ar lefel broffesiynol i dasgau a chwestiynau a gyflwynir. Gallu croes-gysylltu themâu ac agweddau i ddod i gasgliadau ystyriol. Cyflwyno canlyniadau mewn modd cydlynol, cywir ac effeithlon.
trothwy
Cyfateb i 40%. Defnyddio meysydd theori neu wybodaeth allweddol i fodloni deilliannau dysgu'r modiwl. Gallu llunio ateb priodol i ddatrys tasgau a chwestiynau'n gywir. Gallu nodi agweddau unigol, ond ddim yn ymwybodol o'r cysylltiadau rhyngddynt a'r cyd-destunau ehangach. Gallu deall canlyniadau, ond mae diffyg strwythur a/neu gydlyniant.
da
Cyfateb i'r ystod 60% -69%. Gallu dadansoddi tasg neu broblem i benderfynu pa agweddau ar theori a gwybodaeth i'w defnyddio. Mae'r atebion o ansawdd ymarferol, yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol. Gallu cysylltu prif themâu yn briodol ond efallai ddim yn gallu ymestyn hyn i agweddau unigol. Mae canlyniadau'n hawdd eu deall, gyda strwythur priodol ond efallai heb soffistigeiddrwydd.
Learning Outcomes
- Cyfiawnhau, gan ddefnyddio mesurau perfformiad sylfaenol, sut mae adborth negyddol yn effeithio ar ymateb deinamig system reoli.
- Dadansoddi system reoli syml.
- Defnyddio modelau mathemategol llinol is-werth ar gyfer systemau ffisegol.
- Defnyddio pecyn CAD ar lefel broffesiynol.
- Dylunio cyfadferydd sylfaenol ar gyfer system reoli.
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Byrddau Trafod Chwarterol
Weighting
10%
Due date
22/12/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad MATLAB
Weighting
20%
Due date
18/01/2024
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad Anweledig
Weighting
60%
Due date
18/01/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Asesiad Canol Tymor
Weighting
10%
Due date
25/11/2024