Modiwl HXC-1006:
Cymru yn y Byd Modern
Cymru yn y Byd Modern 2024-25
HXC-1006
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Lowri Ann Rees
Overview
Yn ystod y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i archwilio nifer o themâu a materion allweddol yn ymwneud â hanes Cymru yn y cyfnod modern gan ganolbwyntio ar fywgraffiadau.
Yn ystod y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn archwilio hanes Cymru o'r ddeunawfed ganrif hyd heddiw. Mae’r modiwl yn dechrau drwy archwilio sut y gosododd newidiadau yn ystod y Chwyldro Diwydiannol seiliau’r Gymru fodern: o dwf ymwybyddiaeth wleidyddol ‘genedlaethol’, i doreth o gymunedau glofaol a ‘dyfeisgarwch’ sefydliadau diwylliannol megis yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae rhyw, trosedd a phechodau yn ganolog i hanes modern Cymru, ac mae’r modiwl hwn yn symud y tu hwnt i ystrydebau traddodiadol a chyffredin o Gymreictod, gan ddadlau bod delwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg o boblogaeth dduwiol, grefyddol, eglwysig yn aml yn anghywir. Yn yr un modd bydd myfyrwyr yn edrych ar sut mae tensiynau rhwng Cymru a Lloegr wedi llunio amrywiaeth eang o faterion: o wrthryfeloedd gwledig a phrotestiadau’r Gymraeg, i’r ddau ryfel byd, y sgarmesoedd dros ddatganoli, yn ogystal â digwyddiadau ar y maes rygbi. Bydd hanes gwleidyddol yn rhan greiddiol o'r modiwl hwn, a bydd myfyrwyr yn astudio'r pleidiau Rhyddfrydol, Llafur a Cheidwadol yng Nghymru, ynghyd â rôl Plaid Cymru a lliaws o 'genedlaetholwyr'. Trwy ddefnyddio casgliadau unigryw yn Archifau Prifysgol Bangor, a deunyddiau megis cyfweliadau hanes llafar, cerddoriaeth, ffilmiau a blogiau, bydd y modiwl hwn yn ehangu dealltwriaeth o hanes modern Prydain, ac yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth ysgogol o Gymru a’i gorffennol diweddar. Mae’r modiwl yn addas ar gyfer unrhyw un a hoffai ddysgu mwy am gymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru, yn ogystal a myfyrwyr sydd â diddordeb yn hanes Prydain a hanes cyfoes.
Assessment Strategy
-threshold -Ffiniol (D- ac is) Bydd myfyriwr ffiniol (yng ngwaelodion y 40au) yn dangos gwybodaeth sylfaenol o rannau o'r maes perthnasol o leiaf, a bydd yn gallu llunio dadl sydd o leiaf yn rhannol lwyddiannus yn cydnabod y gwahaniaethau yn y ffyrdd y deholnglir hanes.
-good -Da (B- hyd at B+) Bydd y myfyriwr da (yn y 60au) yn arddangos camp sicr ym mhob un o'r nodweddion a nodir yn y paragraff uchod.
-excellent -(A- ac uwch) ArdderchogBydd y myfyriwr ardderchog (70au ac uwch) yn arddangos camp sicr ym mhob un o'r nodweddion ynghyd â gwybodaeth arbennig o sylweddol yn ogystal / neu a dadansoddiad cywrain.
Learning Outcomes
- Cyflwyno dadleuon hanesyddol a’u hategu â thystiolaeth.
- Dangos meistrolaeth dros sgiliau astudio sylfaenol, yn arbennig y gallu i ddilyn cwrs o waith darllen, gwneud nodiadau effeithiol a manteisio oddi wrth drafodaethau seminar;
- Dangos ymwybyddiaeth bod hanes yn medru cael ei ddehongli mewn gwahanol ffyrdd;
- Dealltwriaeth o rai o’r prif ddigwyddiadau, cysyniadau a phroblemau yn hanes Cymru fodern;
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Dewiswch UN mudiad/grŵp protest NEU sefydliad NEU blaid wleidyddol rydych chi'n teimlo sydd wedi gwneud cyfraniad hollbwysig i Gymru yn y cyfnod modern, a lluniwch ddadl yn egluro pam rydych chi'n teimlo bod eich pwnc dewisol yn hanesyddol bwysig i ddeall gorffennol Cymru.
Weighting
50%
Due date
18/04/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad 2 awr
Weighting
50%