Modiwl HTC-2123:
Owain Glynd?r a'i Fudiad
Owain Glyndŵr a'i Fudiad 2024-25
HTC-2123
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Nia Jones
Overview
Yn unol â'r amcanion a nodir uchod, bydd y themau a ganlyn yn cael eu trafod:
-
Beth a ddigwyddodd rhwng 1400-1421? – Cwrs y Gwrthryfel.
-
Glyndŵr y dyn – yr arweinydd a’r arwr.
-
Rhesymau dros wrthryfel –
i Cymru’r drefedigaeth wedi 1282;
ii Cymru a thrychinebau’r bedwaredd ganrif ar ddeg;
iii Anawsterau’r Eglwys; iv Uchelwyr a gwerin.
-
Cenedligrwydd a gwleidyddiaeth ar droad y bymthegfed ganrif.
-
Propaganda a phrydyddion – y bardd yn y gymdeithas Gymreig.
-
Gwladwriaeth Gymreig y bymthegfed ganrif – breuddwyd gwrach?
-
Cynlluniau’r mudiad ar gyfer Cymru a’i phobl – Senedd, Addysg ac Eglwys
-
Cwymp y mudiad
-
Cymru wedi’r cwymp - Glyndŵr a chwedloniaeth.
Darlithoedd
-
Cyflwyniad
-
Hanes y Gwrthryfel 1: Dechreuadau
-
Hanes y Gwrthryfel 2: Uchafbwynt
-
Hanes y Gwrthryfel 3: Difancoll
-
Beirdd ac Ysbïwyr
-
Rhyfel yn y cyd-destun Ewropeaidd
-
Gwladwriaeth Gymreig?
-
Gwrthdaro a Gwleidyddiaeth ym Mhrydain y bymthegfed Ganrif
-
Genedigaeth Cymru Fodern?
(gall unhryw un o’r pynciau yma rhedeg yn hir neu cael eu haildrefnu – mae’r ddwy seiswn olaf yn caniatau hyn)
Seminarau
Ceiff manylion darllen a chwestiynau pob seminar eu rhoi blackboard
-
Cyflwyniad: Cymru’r Ddau Deithiwr Cyflwyniad i Gymru ar drothwy’r rhyfel
-
Glyndŵr a’r Uchelwyr Pwy oedd cefnogwyr Glyndŵr; achosion y gwrthryfel
-
Gwlad a Gwladychu: y Cymry a’r Saeson yng Nghymru y 14eg ganrif Beth mae’n ffynonellau’n cynnig am natur cenedligrwydd a’r rhesymau dros y gwrthryfel?
-
Cenedlaetholdeb a Hanesyddiaeth: Problemau Gyndŵr Sut mae haneswyr wedi trafod y cyfnod, a sut mae lle canolog Glyndŵr yng nghwleidyddiaeth genedlaethol Cymru yn cymhlethu astudiaeth hanesyddol?
-
Ffynonellau: cynrychioli Cymru Glyndŵr Dewis o ffynonellau i drafod, gyda ffocws ar y croniclwr ac ‘ysbïwr’ Adda o Frynbuga
-
Gwrthryfel y Werin? Ewrop a Glyndŵr Beth sy’n dod o gymharu’r gwrthryfel i ddigwyddiadau tebyg yn Lloegr, Ffrainc, Sweden, a Bohemia?
-
Propaganda a’r Prydyddion Astudiaeth o ffynonellau barddol am y rhyfel, a thrafodaeth o feirdd Cymraeg fel propagandyddion ac ymladdwyr yn y gwrthdaro
-
Creu Gwladwriaeth Ganoloesol Sut dylem ddeall Llythyr Pennal a syniadau cefnogwyr Glyndŵr am wladwriaeth Gymreig?
-
Canlyniadau’r Gwrthryfel Beth ddigwyddodd ym mlynyddoedd olaf y rhyfel; pam fethodd; beth oedd y canlyniadau?
Assessment Strategy
Meini prawf asesu: Trothwy Bydd myfyrwyr trothwy (40au isel) yn dangos gwybodaeth sylfaenol am o leiaf rannau o’r maes perthnasol, ac yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i gyflwyno dadl yn y traethawd, a dadansoddiad o ddeunydd gwreiddiol yn y prosect, a fydd yn dangos ymwybyddiaeth o ddehongliadau hanesyddol gwahanol.
Da Bydd myfyrwyr da (50egau) yn gallu dangos gwybodaeth berthnasol am y rhan fwyaf o’r maes, gan ddefnyddio hynny i gefnogi casgliadau wedi eu rhesymu wrth ddadansoddi, a dangos dealltwriaeth o ddehongliadau hanesyddol gwahanol.
Da iawn Bydd myfyrwyr da iawn (60au) yn gallu dangos lefel gadarn o gyflawniad ym mhob un o’r meini prawf a restrir yn y paragraffau blaenorol.
Rhagorol Bydd myfyrwyr ardderchog (70au ac uwch) yn dangos y cyflawniad cadarn hwn ar draws y meini prawf yn ogystal â dyfnder gwybodaeth a/neu gywreinrwydd dadansoddiad arbennig o drawiadol.
Learning Outcomes
- 1. Gwybodaeth am a dealltwriaeth o Owain Glyndŵr a’r mudiad gwleidyddol a arweiniwyd ganddo yn nechrau’r bymthegfed ganrif, gan werthfawrogi gwahanol elfennau o’r cefndir a roes fod i’r mudiad, ei ganlyniadau a’i effaith pellgyrhaeddol ar Gymru.
- 2. Gallu i bwyso a mesur a barnu rhwng gwahanol ddehongliadau hanesyddol sy’n ymwneud â’r mudiad, y rhesymau y tu ôl iddo a’i ganlyniadau (gan gynnwys safbwyntiau cyfoes a hanesyddiaethol).
- 3. Y gallu i gyflwyno dadleuon clir a threfnus ynglyn â dwy agwedd o fudiad Glyndŵr mewn dau draethawd gradd. Dylai’r traethodau seilio’r dadleuon ar dystiolaeth benodol gyda chyfeiriadau llawn a llyfryddiaeth, gan ddilyn y canllawiau manwl a chydymffurfio â’r fformat a amlinellir yng nghanllawiau Adran Hanes a Hanes Cymru ar gyfer traethodau gradd.
- 4. Ymwybyddiaeth o gymhlethdod yr amgylchiadau a roes fod i fudiad Glyndŵr a chanlyniadau’r mudiad amlweddog hwn, gan sylwi yn arbennig ar y berthynas rhwng y Cymry a’i gilydd, ac ar y berthnynas rhwng Cymru, Lloegr a gweddill Ewrob yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed ganrif.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Asesir y cwrs trwy ddau draethawd gradd 2,000–3,000 gair yr un, (50% yr un). Disgwylir i un drafod agweddau cyffredinol, neu tros hir dymor, ar y testun, a’r llall i ganolbwyntio ar agweddau mwy penodol. Cytunir ar deitlau’r traethodau asesiedig wedi trafodaeth unigol rhwng y myfyriwr a chydlynydd y modiwl. Bydd cwestiynau’r traethodau gradd yn: 1. Profi gwybodaeth a dealltwriaeth o agweddau cyffredinol a mwy manwl ar Owain Glyndŵr a’i fudiad yng nghyd destun eu cyfnod (Canlyniad 1). 2. Profi’r gallu i gyflwyno dadleuon a fydd yn dangos ymwybyddiaeth o ddehongliadau hanesyddol gwahanol a’r gallu i wahaniaethu rhyngddynt (Canlyniad 2). 3. Rhoddir marc i bob traethawd nid yn unig ar sail y wybodaeth a ddangosir a’r gallu i farnu rhwng dehongliadau ond hefyd ar sail eglurdeb, cydlyniad a chryfder y ddadl; y gallu i gynnal dadleuon gyda thystiolaeth; a’r gallu i gynnwys cyfeiriadau priodol ar gyfer y dystiolaeth a gyflwynir. (Canlyniad 3). 4. Disgwylir i’r atebion ddangos gwybodaeth fanwl o’r pynciau yr ymdrinnir â hwy; dadansoddi tystiolaeth a dehongliadau mewn dyfnder; a (lle y bo’n addas) mynd i’r afael â dadleuon hanesyddiaethol cyfoes er mwyn profi dealltwriaeth eang o wahanol agweddau’r mudiad. (Canlyniad 1-4). Rhoddir marc i bob traethawd trwy ystyried pa mor eang yw’r darllen; cynnwys (dyfnder y wybodaeth sy’n cael ei dangos); eglurdeb, cydlyniad a chryfder y ddadl; dadansoddiad (y gallu i bwyso a mesur rhwng gwahanol ddehongliadau a chynnal dadl gyda thystiolaeth); cylfwyniad; y gallu i lunio cyfeiriadau priodol a llyfryddiaeth ar gyfer y dystiolaeth a gyflwynir (gweler llawlyfr y myfyrwyr ar gyfer y ffon fesur ar gyfer asesu’r materion hyn). Disgwylir i’r atebion ddangos gwybodaeth fanwl o’r pynciau yr ymdrinnir â hwy; (gan ddefnyddio ffynonellau y tu hwnt i werslyfrau sylfaenol a darlithiau); i ddadansoddi tystiolaeth a dehongliadau mewn dyfnder; a (lle y bo addas) mynd i’r afael â dadleuon hanesyddiaethol cyfoes (Canlyniad 1–4).
Weighting
50%
Due date
12/12/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Dulliau Asesu: Asesir y cwrs trwy ddau draethawd gradd 2,000–3,000 gair yr un, (50% yr un). Disgwylir i un drafod agweddau cyffredinol, neu tros hir dymor, ar y testun, a’r llall i ganolbwyntio ar agweddau mwy penodol. Cytunir ar deitlau’r traethodau asesiedig wedi trafodaeth unigol rhwng y myfyriwr a chydlynydd y modiwl. Bydd cwestiynau’r traethodau gradd yn: 1. Profi gwybodaeth a dealltwriaeth o agweddau cyffredinol a mwy manwl ar Owain Glyndŵr a’i fudiad yng nghyd destun eu cyfnod (Canlyniad 1). 2. Profi’r gallu i gyflwyno dadleuon a fydd yn dangos ymwybyddiaeth o ddehongliadau hanesyddol gwahanol a’r gallu i wahaniaethu rhyngddynt (Canlyniad 2). 3. Rhoddir marc i bob traethawd nid yn unig ar sail y wybodaeth a ddangosir a’r gallu i farnu rhwng dehongliadau ond hefyd ar sail eglurdeb, cydlyniad a chryfder y ddadl; y gallu i gynnal dadleuon gyda thystiolaeth; a’r gallu i gynnwys cyfeiriadau priodol ar gyfer y dystiolaeth a gyflwynir. (Canlyniad 3). 4. Disgwylir i’r atebion ddangos gwybodaeth fanwl o’r pynciau yr ymdrinnir â hwy; dadansoddi tystiolaeth a dehongliadau mewn dyfnder; a (lle y bo’n addas) mynd i’r afael â dadleuon hanesyddiaethol cyfoes er mwyn profi dealltwriaeth eang o wahanol agweddau’r mudiad. (Canlyniad 1-4). Rhoddir marc i bob traethawd trwy ystyried pa mor eang yw’r darllen; cynnwys (dyfnder y wybodaeth sy’n cael ei dangos); eglurdeb, cydlyniad a chryfder y ddadl; dadansoddiad (y gallu i bwyso a mesur rhwng gwahanol ddehongliadau a chynnal dadl gyda thystiolaeth); cylfwyniad; y gallu i lunio cyfeiriadau priodol a llyfryddiaeth ar gyfer y dystiolaeth a gyflwynir (gweler llawlyfr y myfyrwyr ar gyfer y ffon fesur ar gyfer asesu’r materion hyn). Disgwylir i’r atebion ddangos gwybodaeth fanwl o’r pynciau yr ymdrinnir â hwy; (gan ddefnyddio ffynonellau y tu hwnt i werslyfrau sylfaenol a darlithiau); i ddadansoddi tystiolaeth a dehongliadau mewn dyfnder; a (lle y bo addas) mynd i’r afael â dadleuon hanesyddiaethol cyfoes (Canlyniad 1–4).
Weighting
50%
Due date
14/01/2025