Modiwl CXC-3204:
Herio'r Drefn: Llenyddiaeth Wr
Herio'r Drefn: Llenyddiaeth Wrthryfelgar 2024-25
CXC-3204
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Elis Dafydd
Overview
Gan ystyried ymgyrchoedd diweddar Hawl i Fyw Adra, Gwrthryfel Difodiant, #MeToo a Bywydau Duon o Bwys, bydd y modiwl hwn yn archwilio enghreifftiau o lenyddiaeth Gymraeg, a ffenomenâu diwylliannol eraill megis canu poblogaidd, o’r 1960au hyd heddiw, sy’n trafod materion llosg cyfredol cenedligrwydd, hil, rhyw, rhywedd, a’r amgylchedd. Canolbwyntir yn bennaf ar destunau sy’n wrthryfelgar mewn rhyw ffordd, ac sy’n herio’r drefn a oedd, neu sydd, ohoni. Astudir testunau canonaidd yn ogystal â rhai mwy ymylol, a bydd cyfle i ddarpar-fyfyrwyr archwilio cyd-destunau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar.
Byddwn yn dechrau wrth ein traed drwy astudio canu protest a llenyddiaeth wleidyddol y 1960au, a oedd ynghlwm wrth ymgyrchoedd cynnar Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ond byddir hefyd yn rhoi sylw i ymatebion llenyddol Cymraeg i ymgyrchoedd a brwydrau dros hawliau sifil yng ngweddill Ynysoedd Prydain, Ewrop ac UDA. Parheir i astudio llenyddiaeth sy’n portreadu ac yn ymateb i frwydr yr iaith ac ymgyrchoedd gwleidyddol eraill yng Nghymru dros y degawdau, ond rhoddir sylw helaeth hefyd i’r ymateb Cymraeg i ymgyrchoedd a safbwyntiau gwleidyddol mwy rhyngwladol a chydwladol yn ymwneud â hil, rhyw, rhywedd, rhywioldeb a’r amgylchedd, gan astudio llenyddiaethau o safbwyntiau ffeministaidd, ecofeirniadol, astudiaethau rhywedd, etc.
Assessment Strategy
Rhagorol Dangos adnabyddiaeth gadarn o gyd-destunau llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod rhwng y 1960au a heddiw. Dangos dealltwriaeth gadarn o’r testunau a astudir, ynghyd â’u nodweddion llenyddol. Dangos gallu cadarn i wneud ymchwil annibynnol. Dangos gallu cadarn i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill. Dangos gallu cadarn i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos gafael gadarn ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
Da Dangos adnabyddiaeth dda o gyd-destunau llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod rhwng y 1960au a heddiw. Dangos dealltwriaeth dda o’r testunau a astudir, ynghyd â’u nodweddion llenyddol. Dangos gallu i wneud ymchwil annibynnol. Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
Trothwy Dangos peth adnabyddiaeth o gyd-destunau llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod rhwng y 1960au a heddiw. Dangos peth dealltwriaeth o’r testunau a astudir, ynghyd â’u nodweddion llenyddol. Dangos peth gallu i wneud ymchwil annibynnol. Dangos peth gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill. Dangos peth gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos rhywfaint o afael ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Amgyffred yn dda sut y mae gwahanol lenorion wedi mynd ati i fynegi gwahanol safbwyntiau yn eu gweithiau a gallu dadansoddi hynny'n ddeallus.
- Amgyffred yn ystyrlon y mwyafrif o nodweddion llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod rhwng y 1960au a heddiw.
- Gallu darparu ymatebion hyderus, huawdl a datblygedig i nifer fawr o wahanol fathau o destunau, gan fynegi barn bersonol dreiddgar a deallus.
- Meddu ar drosolwg dwfn o fwyafrif tueddiadau, datblygiadau a thestunau llenyddiaeth wleidyddol y cyfnod.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Ysgrif feirniadol yn ymateb i waith llenyddol gwleidyddol, 1,500-2,000 o eiriau
Weighting
40%
Due date
11/11/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd 2,500-3,000 o eiriau
Weighting
60%
Due date
16/12/2022