Modiwl CXC-3123:
Rhyddid Y Nofel
Rhyddid y Nofel 2024-25
CXC-3123
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Angharad Price
Overview
Gan ddilyn yn fras gynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i waith llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Daniel Owen, Saunders Lewis, Kate Roberts, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Tomos, Robin Llywelyn a Mihangel Morgan. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi sylw cryno i hynt y nofel Gymraeg yn ystod yr unfed ganrif ar hugain. Mewn gair, ystyrir sut y mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Gan ddilyn cynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i waith llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Daniel Owen, Saunders Lewis, Kate Roberts, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Tomos, Robin Llywelyn a Mihangel Morgan. Daw'r modiwl i ben gyda sylw cryno i hynt y nofel Gymraeg yn ystod yr unfed ganrif ar hugain. Mewn gair, ystyrir sut y mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Assessment Strategy
-threshold - (D) Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith. Dangos gwybodaeth am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonynt. Dangos gallu i ddadansoddi nofelau. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol.Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill. Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-good - (B) Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith. Dangos gwybodaeth dda am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonyn. Dangos gallu da i ddadansoddi nofelau. Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill. Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-excellent - (A) Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith. Dangos gwybodaeth sicr am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonyn. Dangos gallu sicr i ddadansoddi nofelau. Dangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill. Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Adnabod y mwyafrif o wahanol arddulliau a thechnegau a ddefnyddir gan nofelwyr.
- Amgyffred y mwyafrif o brif dueddiadau a datblygiadau'r nofel Gymraeg oddi ar y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- Bwrw trawsolwg eang a dwfn ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol yn rheolaidd.
- Gwybod sut i ymateb yn feirniadol ac mewn dyfnder i genre y nofel a chyfleu hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Mynegi ymateb drwy gyfrwng iaith raenus a chan ddefnyddio cywair academaidd priodol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
50%
Due date
17/03/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad
Weighting
50%