Cyfarch yn ddwyieithog
Er mwyn ei gwneud yn glir bod modd defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, dylech ddefnyddio cyfarchion dwyieithog os ydych yn gweithio mewn derbynfa neu ar switsfwrdd. Mae aelodau eraill o staff hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio cyfarchion dwyieithog er mwyn rhoi gwybod i bobl y gallant ddelio â’r Brifysgol yn Gymraeg a Saesneg.
Cliciwch ar y botwm i glywed enghraifft o sut i gyfarch yn ddwyieithog yn y bore | |
Cliciwch ar y botwm i glywed enghraifft o sut i gyfarch yn ddwyieithog yn y prynhawn |
Sut i ddelio â rhywun sydd eisiau gwasanaeth Cymraeg os nad yw’r aelod staff yn siarad Cymraeg.
Os oes rhywun yn dechrau siarad yn y Gymraeg gydag aelod di-Gymraeg o staff, dylai'r aelod staff esbonio nad ydynt yn siarad Cymraeg a throsglwyddo'r alwad i gydweithiwr yn yr adran sydd yn medru’r Gymraeg neu mynd i nôl cydweithiwr sydd yn siarad Cymraeg. Os ydy’r galwr / y person wrth y dderbynfa wedi dechrau’r sgwrs yn Gymraeg, dylid cymryd yn ganiataol eu bod dymuno parhau yn Gymraeg, heblaw eu bod yn dweud yn wahanol.
Cliciwch ar y botwm i glywed ffeil sain o'r sgript isod |
A. Bore da, good morning. Llyfrgell, Library. Elen Jones.
B. Bore da. John Williams sy’n galw. Dw i’n ffonio o Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon. Dw i eisiau trefnu cyfarfod gyda Phennaeth Llyfrgell y Brifysgol os gwelwch yn dda.
A. I’m afraid I don’t speak Welsh. I’ll just transfer you to my colleague who can speak Welsh. Hold on please.
B. Diolch yn fawr.