Efrydiaeth PhD Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn Gofal Cymdeithasol 2023
Mae’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Efrydiaeth PhD Gofal Cymdeithasol am dair blynedd i ddechrau ym mis Hydref 2023.
Teitl: Yng Nghymru, a yw modelau cyfoes o ofal cymdeithasol rheng flaen i bobl sy’n dioddef cyfnodau cyson o salwch meddwl yn addas at y diben? Astudiaeth o ddulliau cymysg.
Crynodeb o’r project
Mae polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod darparu cymorth cymdeithasol yn y gymuned yn gymhleth. Maent yn cyflwyno cynlluniau i greu gwasanaethau sy’n cydgysylltu’n well, er mwyn diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio. Bydd disgwyl i wasanaethau helpu pobl i fod yn annibynnol ac i sicrhau canlyniadau sy'n gwella eu llesiant. Nod set ar wahân o amcanion Llywodraeth Cymru, o'r enw Gwaith Teg, yw gwella amodau gwaith staff gofal cymdeithasol rheng flaen. Bydd y rhain yn galluogi staff i weithio mewn ffordd effeithiol a chefnogol, er mwyn helpu pobl i gyflawni nodau y maent yn eu gosod ar eu cyfer eu hunain.Â
Mae'r astudiaeth PhD hon yn ymwneud â phobl sy'n dioddef cyfnodau cyson o salwch meddwl. Ychydig a wyddys am effeithiolrwydd gwahanol ffyrdd o ddarparu cymorth i bobl. Yn benodol, ychydig a wyddom am eu heffeithiolrwydd o ran cyflawni nodau sydd o bwys i’r defnyddwyr gwasanaethau eu hunain. Ni wyddom i ba raddau y caiff eu hanghenion eu diwallu, na pha agweddau ar gefnogaeth maent yn eu gwerthfawrogi fwyaf. Ni wyddom beth yw'r trefniadau gorau i gefnogi staff gofal cymdeithasol yn eu gwaith.Â
 Bydd yr astudiaeth yn mynd i'r afael â'r cwestiynau hyn gan ddefnyddio cyfweliadau ac arolygon gyda staff a defnyddwyr gwasanaeth. Mae pobl sydd â phrofiad o fyw gyda salwch meddwl yn aelodau o’r tîm ymchwil. Maent wedi bod yn rhan o’r gwaith o gynllunio'r project o'r cychwyn cyntaf. Fel aelodau o’r tîm goruchwylio, byddant yn ymwneud yn llawn â chyflwyno a hyrwyddo ein canlyniadau. Bydd y myfyriwr PhD yn astudio sawl gwasanaeth mewn gwahanol leoliadau yng ngogledd Cymru. Bydd yn gweithio yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas, Prifysgol Bangor, a leolir yn Wrecsam. Y prif oruchwyliwr yw'r Athro Huxley, gweithiwr cymdeithasol sydd â degawdau o brofiad o ymarfer ac ymchwil ym maes iechyd meddwl. Bydd yn arwain tîm goruchwylio a fydd yn cyfarfod yn rheolaidd â'r myfyriwr. Â
Meini prawf
Hanfodol
- Gradd israddedig yn y gwyddorau cymdeithas neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Diddordeb ymchwil mewn gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol neu bolisi cymdeithasol
- Gofynion iaith Saesneg: Os yw’n berthnasol – IELTS 6.5 yn gyffredinol (gydag o leiaf 6.5 ym mhob cydran unigol)
Dymunol
- Gradd lefel meistr
- Profiad o waith cymdeithasol, gofal cymdeithasol neu ofal iechyd
- Sgiliau lefel mynediad mewn casglu data a dadansoddi data
- Peth profiad gyda meddalwedd perthnasol fel Excel, SPSS ac ati
- Gallu gweithio’n annibynnol a hefyd yn gydweithredol fel rhan o dîm.
- Profiad o ysgrifennu adroddiadau, adroddiadau project neu gyd-ysgrifennu papurauÂ
Cyllid
Mae'r efrydiaeth yn cynnwys cyflog blynyddol o £17,668 o leiaf, ynghyd ag eithriad rhag talu ffioedd dysgu myfyriwr cartref, am uchafswm o 36 mis. Bydd costau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.
Cyfarwyddiadau Ymgeisio
Unrhyw gwestiynau anffurfiol trwy e-bost at p.huxley@bangor.ac.ukÂ
RHAID cyflwyno ceisiadau drwy'r system ymgeisio ar-lein yn
Y dyddiad cau i geisiadau yw 5 o’r gloch brynhawn Gwener 9 Medi 2023.
Cynhelir y cyfweliadau (yn y cnawd neu o bell) ar 13/14 Medi 2023
Rhaid gwneud cais i astudio cyn gynted ag y bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad cadarnhaol. Bydd rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei dderbyn yn ffurfiol fel myfyriwr ymchwil ôl-radd a bydd y swydd yn dechrau (yn amodol ar drafodaeth) ym mis Hydref 2023.