Mae Andrew McStay (Athro Bywyd Digidol) a Vian Bakir (Athro mewn Cyfathrebu Gwleidyddol a Newyddiaduraeth) o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes Prifysgol Bangor yn arwain project 3 blynedd a ariennir ar y cyd gan gynghorau ymchwil y DU a Japan fel rhan o'r聽. Mae'r project yn ceisio ateb sut y gall cymdeithasau'r DU a Japan fyw orau gyda thechnolegau sy'n synhwyro, proffilio, dysgu a rhyngweithio 芒 theimladau, emosiynau a hwyliau pobl.
Mae Deallusrwydd Artiffisial emosiynol yn dod i'r amlwg fwyfwy ar draws dyfeisiau amrywiol a chyd-destunau dinasoedd fel rhan sylfaenol o bersonoli, cyfathrebu a phrofiad cyfryngau embryonig. Gan symud o'n dyfeisiau i gyd-destunau yn y byd go iawn, mae hyn eisoes yn cynnwys: hysbysebion mewn mannau cyhoeddus sy'n dadansoddi wynebau am fynegiadau ac ymatebion negyddol a chadarnhaol, gan addasu i newid ei gynnwys i geisio cael mwy o bobl i wenu; proffilio emosiwn mewn siop; ceir sy'n mesur straen mewn gyrwyr a phersonoli profiadau mewn car; ystafelloedd dosbarth sy'n mesur emosiwn myfyrwyr ac athrawon a faint maent yn talu sylw; a threialon i'w defnyddio wrth ffiniau cenedlaethol i ganfod celwydd. Mae achosion defnydd eraill yn cynnwys diogelwch mewn swyddi straen uchel, eu defnyddio gyda chamer芒u gwyliadwriaeth mewn safleoedd sensitif (megis canolbwyntiau teithio), wrth recriwtio gweithwyr a thelewerthu, a thrwy gamer芒u a theclynnau gwisgadwy mewn gweithleoedd. Yn fyr, bydd y technolegau hyn yn cael eu defnyddio mewn unrhyw sefyllfa lle mae gwerth o ran deall sut mae pobl yn teimlo.
Er bod Japan a'r DU yn genhedloedd datblygedig o ran datblygu a mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial, maent yn wahanol o ran hanes cymdeithasol, gwleidyddol, normadol a thechnegol.聽Ymhlith materion eraill a fydd yn rhoi cyfle sylweddol ar gyfer ymchwil y t卯m ceir rhesymeg technolegau synhwyro ac i ba raddau y mae arddangos emosiwn yn gyffredinol ar draws diwylliannau; natur gwahaniaethau ethnoganolog yn y ffordd y defnyddir cyfryngau cymdeithasol a mynegi emosiwn ar-lein; a gwahaniaethau posibl rhwng cysyniadau Japaneaidd ac Ewropeaidd o'r hyn a ystyrir yn breifatrwydd a data sensitif.
Gan ddefnyddio cyfuniad o gyfweliadau el卯t, arolygon cenedlaethol, dadansoddi polis茂au, grwpiau ffocws dinasyddion a gweithdai creadigol, bydd y t卯m yn cyd-ddylunio gweledigaethau creadigol dan arweiniad dinasyddion, o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw yn foesegol ac yn dda gyda Deallusrwydd Deallusol Emosiynol mewn dinasoedd. Yn y pen draw, bydd y project yn bwydo'r elfennau a ganfuwyd drwy'r ymchwil, gan gynnwys barn dinasyddion, yn 么l i'r rhanddeiliaid amrywiol, yn cynnwys llywodraethau, diwydiant, datblygwyr safonau technegol, sefydliadau anllywodraethol ac addysgwyr sy'n llunio'r modd y defnyddir Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol mewn dinasoedd.