Mae papur newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn dangos bod dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) fel camarfer plant a dod i gysylltiad 芒 thrais domestig yn gallu effeithio ar ymddygiad magu plant unigolion yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynyddu'r risg y byddant yn defnyddio cosb gorfforol tuag at blant.
Daw'r ymchwil wrth i nifer cynyddol o wledydd, gan gynnwys Cymru geisio atal y math yma o drais drwy atal cosbi plant yn gorfforol.
Mae'r erthygl, a gyhoeddwyd yn yr MDPI Cyfnodolyn Rhyngwladol Ymchwil Amgylcheddol ac Iechyd Cyhoeddus mynediad agored, yn nodi canfyddiadau o astudiaeth genedlaethol a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021 - blwyddyn cyn i Gymru weithredu gwaharddiad llwyr ar y defnydd o gosb gorfforol tuag at blant. Holwyd 720 o rieni yng Nghymru 芒 phlant o dan 18 oed a mesur y berthynas rhwng nifer yr ACE yr oedd rhieni wedi dioddef yn ystod plentyndod a'u defnydd o gosb gorfforol tuag at blant.
Meddai Karen Hughes, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru;
聽鈥淵n gyffredinol, nododd 28 y cant o rieni eu bod wedi cosbi plentyn yn gorfforol ar ryw adeg a dywedodd 6 y cant eu bod wedi gwneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd cysylltiad cryf rhwng y defnydd o gosb gorfforol tuag at blant 芒 phrofiadau rhieni eu hunain yn ystod plentyndod. Roedd y rhai a oedd wedi dioddef pedwar neu fwy o fathau o ACE tua thair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cosbi plentyn yn gorfforol ar ryw adeg ac 11 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi gwneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o gymharu 芒 rhieni heb ACE.
聽鈥淢ae ein canfyddiadau'n tynnu sylw at natur trais rhwng y cenedlaethau, gyda'r rhan fwyaf o rieni a nododd gosbi plentyn yn gorfforol yn ddiweddar 芒 hanes personol o ACE. Er nad oedd y rhan fwyaf o rieni a ddioddefodd ACE yn defnyddio cosb gorfforol tuag at blant, dylai camau i atal cosb gorfforol tuag at blant gydnabod yr heriau ychwanegol a wynebir gan rieni sydd wedi dioddef ACE a theilwra rhaglenni yn unol 芒 hynny.鈥
Ychwanegodd y Cyd-awdur, yr Athro Mark Bellis, 鈥淢ae gwahardd cosb gorfforol yn gam hanfodol wrth amddiffyn plant a, gyda chymorth teuluol priodol, gall helpu i dorri cylchoedd o drais rhwng y cenedlaethau.鈥
Mae鈥檔 bwysig bod gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni a phlant yn deall y ffactorau risg ar gyfer cosb gorfforol tuag at blant, a all gynnwys profiadau rhieni eu hunain yn ystod plentyndod. Gall gwybodaeth o'r fath helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth magu plant priodol.