Mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu ei harbenigedd sylweddol mewn technoleg adnewyddadwy at gynorthwyo tri sector diwydiant allweddol yn y Deyrnas Unedig i ddatgarboneiddio, gan ddisodli deunyddiau anadnewyddadwy a ddefnyddir mewn prosesau gweithgynhyrchu, gyda dewisiadau adnewyddadwy eraill sy'n cael eu dargyfeirio o wastraff.
Mewn grant ymchwil 拢7.3 miliwn gan, o鈥檙 enw BONDIFI, mae y brifysgol yn arwain ar y gwaith profi sy鈥檔 angenrheidiol er mwyn lleihau 么l troed carbon rhai o鈥檙 sectorau diwydiannol mawr sy鈥檔 cynhyrchu鈥檙 mwyaf o garbon yn y Deyrnas Unedig, gan dyfu diwydiant cemeg 鈥榞wyrdd鈥 ar yr un pryd.
Bydd y Ganolfan Biogyfansoddion yn profi鈥檙 resinau newydd sy'n deillio o blanhigion ar raddfa ffatri. Bydd y resin newydd yn disodli resinau sy'n deillio o olew, a ddefnyddir yn helaeth wrth wneud dodrefn, paneli adeiladu a chastio metel. Mae gan gynhyrchion sy'n cynnwys resin neu sy'n defnyddio resin yn y broses weithgynhyrchu 么l troed carbon mawr, ac mae gan y resinau hyn ofynion gweithgynhyrchu ynni-ddwys yn ogystal 芒鈥檙 ffaith eu bod wedi eu deillio o olew.
Bydd y gr诺p yn datblygu profion ar raddfa ffatri gan ddefnyddio resinau adnewyddadwy bio-ddeilliannol. Mae gan y project ddwy flynedd y gallu i lansio economi gylchol gyntaf y Deyrnas Unedig ar gyfer y diwydiant adeiladu a chynhyrchion metel. Yn ddiddorol ddigon, mae'r resinau hefyd yn defnyddio deunyddiau gwastraff o'r diwydiannau bragu a phapur.
Meddai Dr Graham Ormondroyd o Ganolfan Biogyfansoddion y brifysgol,
鈥淩ydym eisoes wedi dangos sut y gall resinau sy'n deillio o blanhigion gymryd lle resinau sydd wedi eu gwneud o olew. Mae'r project hwn yn ein galluogi i ehangu鈥檙 gwaith o arddangosiad ar raddfa labordy o'r defnydd o fio-resin, i ddefnyddio 100 tunnell o fio-resin y flwyddyn mewn gwaith peilot ar raddfa ffowndri/ffatri ddiwydiannol.
Gweithio i leihau 么l troed carbon rhai o ddiwydiannau mwyaf trwm y Deyrnas Unedig a chynorthwyo twf economi gylchol y Deyrnas Unedig yw ein nod ac mae gennym hanes o ddarganfod a phrofi technolegau amgen ar gyfer cyfansoddion anadnewyddadwy.鈥
Mae Cambond, partner ymchwil y brifysgol yn y project hwn, wedi dyfeisio system resin yn seiliedig ar blanhigion gan ddefnyddio sgil-gynhyrchion o ddiwydiant hynaf y byd - bragu. Dyma fydd yn darparu'r sail ar gyfer y resinau) amgen fydd yn cael eu profi.
Nid yw lleoliad y ffatri wedi ei benderfynu eto, ond bydd yn profi'r resin gweithgynhyrchu ar raddfa a fydd yn caniat谩u cynnal treialon ar raddfa ddiwydiannol. Os bydd y prosesau yn gallu gwrthsefyll profion llym, rhagwelir y bydd diwydiant yn gallu dechrau defnyddio鈥檙 resinau newydd.
Mae Lunts Castings Ltd hefyd yn bartner yn y project, sef un o ffowndr茂au arbenigol hynaf Prydain, a Phrifysgol Sheffield Hallam. Un o brif ddefnyddiau resin yn y diwydiant ffowndri yw gosod tywod i greu'r casin ar gyfer castio metel. Unwaith y bydd y castiau hyn wedi eu defnyddio unwaith, c芒nt eu torri i fyny, ac mae'r resinau naill ai'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi - eu defnyddio i adeiladu ffyrdd, neu mae'r resin yn cael ei losgi, er mwyn casglu鈥檙 tywod.
Mae resinau hefyd yn elfen hanfodol yn y byrddau a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu. Bydd defnyddio resinau eraill yn lle鈥檙 rhain yn gwella 么l troed CO2 y diwydiant adeiladu. Mae Solomon a Wu, cwmni sy'n cynhyrchu mowldiau ar gyfer cynllunio mewnol, yn rhan o'r project oherwydd eu diddordeb mewn creu cynhyrchion heb fformaldehyd nad ydynt wedi eu bondio'n synthetig.
Mae WI International yn cynhyrchu dodrefn o ansawdd uchel ac unwaith eto maent yn chwilio am ddewis arall bioseiliedig yn lle'r resinau synthetig y maent yn eu defnyddio yn eu cwmni.聽
Ni all bob partner ar ei ben ei hun gyflawni鈥檙 newid sydd ei angen i ddatgarboneiddio a thrawsnewid diwydiannau鈥檙 Deyrnas Unedig. Bydd BONDIFI yn ysgogi newid ac yn agor y drws i ostyngiadau carbon enfawr mewn gweithgynhyrchu.
Mae project Bondifi yn adeiladu ar y gwaith parhaus y mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn ei wneud gyda'r diwydiannau sylfaen. Arweiniodd Dr Ormondroyd a'i d卯m waith ar gefnogi'r diwydiant mwydion a phapur drwy'r ganolfan Nation聽鈥樷.听