Mae鈥檙 cyfleuster, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy鈥檙 Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn cael ei ddatblygu drwy gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor, Adra a Busnes@LlandrilloMenai, a chaiff ei adeiladu ar y safle yn Nh欧 Gwyrddfai gan Enbloc.
Mae partneriaid yn awyddus i gydweithio ar brojectau ymchwil gyda chwmn茂au mawr a busnesau bach a chanolig i brofi eu cynnyrch mewn amgylchedd rheoledig deuol.
Bydd y cyfleuster yn creu ac yn cynnal dau gyflwr thermol ac amgylcheddol gwahanol ar yr un pryd, gan efelychu amgylcheddau mewnol ac allanol a gaiff eu rhannu gan 'Wal Brawf'. Mae'r ochr 'Byw' wedi'i chynllunio i atgynhyrchu lefelau goleuo a thymheredd cartref cyfforddus, tra bo鈥檙 ochr allanol yn dynwared tri chyflwr penodol - rhewi, oer a phoeth - lle mae rheolaeth lleithder yn effeithio ar y defnydd o'r system dd诺r.
Dywedodd yr Athro Graham Ormondroyd o Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, sy'n arbenigo mewn ymchwil i ddewisiadau鈥檔 seiliedig ar ddeunydd biolegol yn lle deunyddiau synthetig, 鈥淢ae鈥檙 cyfleuster newydd yn Nh欧 Gwyrddfai yn gam mor gyffrous ymlaen. Bydd yn galluogi profi deunyddiau adeiladu newydd mewn amgylcheddau wedi鈥檜 creu 芒 waliau llawn, ar raddfa sy鈥檔 cyfateb i dai ar raddfa lawn, sy鈥檔 gam mawr ymlaen i ni o ran gallu ymchwil.
鈥淏ydd y cyfleuster hwn yn caniat谩u i ni brofi deunyddiau ar raddfa, a鈥檙 rhyngweithio rhwng amodau dan do ac awyr agored, gan gynnwys efelychu cawodydd glaw. Bydd hyn yn galluogi Prifysgol Bangor i astudio sut y bydd yr amgylchedd newidiol yn effeithio ar y stoc dai bresennol a deunyddiau adeiladu yn y dyfodol.
鈥淏ydd y cyfleuster hefyd yn cael ei ddefnyddio i werthuso effeithiau manylion megis ffenestri a siliau ar ffasadau adeiladau, a gallu鈥檙 manylion hyn i ostwng biliau ynni ac amddiffyn deunyddiau yn y dyfodol.鈥
Yn y tymor hwy, mae t卯m Prifysgol Bangor yn gobeithio cynnal projectau ymchwil i effeithiau newid hinsawdd ar gyfansoddiad waliau cyfan, gan ddefnyddio rhagfynegiadau newid hinsawdd lleol sydd ar gael trwy'r Swyddfa Dywydd i efelychu patrymau tywydd y dyfodol.
鈥淧rofir effeithiau鈥檙 newidiadau hyn yn yr hinsawdd ar ddeunyddiau newydd, yn aml yn seiliedig ar ddeunydd biolegol, a ddefnyddir mewn dulliau adeiladu modern, gan arwain at ymchwil pellach i鈥檙 amddiffyniad y bydd ei angen ar y deunyddiau hyn yn hinsoddau鈥檙 dyfodol,鈥 ychwanega Graham.
Meddai鈥檙 Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淩ydym yn falch iawn o fod yn symud ymlaen i'r cam nesaf yn ein partneriaeth ag Adra a Busnes@LlandrilloMenai yn Nh欧 Gwyrddfai. Bydd y posibiliadau ymchwil a gynigir gan y cyfleuster hwn yn ein galluogi i weithio ar y cyd 芒 diwydiant i ddeall yn well sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y sector adeiladu a'r cynhyrchion y maent yn eu defnyddio. Mae potensial sylweddol hefyd i astudio sut mae tymheredd a lleithder cynyddol yn effeithio ar iechyd a sut y gellir defnyddio mesurau i wella tai presennol i gefnogi cynhyrchu p诺er lleol, gwella mynediad i鈥檙 rhyngrwyd a darparu cefnogaeth gofal cymdeithasol ychwanegol.鈥
Ychwanegodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith a Masnachol, 鈥淢ae Busnes@LlandrilloMenai yn falch o fod yn rhan o鈥檙 project arloesol hwn yn Nh欧 Gwyrddfai. Mae鈥檙 cyfleuster hwn yn gyfle unigryw i鈥檔 myfyrwyr a鈥檔 staff ymwneud ag ymchwil flaengar a fydd yn cyfrannu鈥檔 uniongyrchol at ddyfodol byw鈥檔 gynaliadwy yng Nghymru. Drwy gydweithio鈥檔 agos ag arweinwyr diwydiant a phartneriaid academaidd, mae鈥檙 bartneriaeth hon yn meithrin arloesedd sydd nid yn unig yn hyrwyddo鈥檙 agenda datgarboneiddio, ond sydd hefyd yn rhoi鈥檙 sgiliau a鈥檙 wybodaeth i鈥檔 dysgwyr a鈥檔 busnesau i ysgogi newid cadarnhaol yn eu cymunedau.鈥
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr, Adra: 鈥淒yma ddarn arwyddocaol arall o鈥檙 jig-so yn natblygiad T欧 Gwyrddfai. 鈥淢ae鈥檙 cyfleuster blaenllaw yn prysur adeiladu enw da fel canolfan ragoriaeth. Dyma鈥檙 ganolfan ddatgarboneiddio gyntaf o鈥檌 math yn y Deyrnas Unedig a bydd yn arwain y sector ym maes hyfforddi ac arloesi 鈥 a fydd yn newid mawr i gymunedau lleol wrth inni fwrw ymlaen 芒鈥檔 rhaglen ddatgarboneiddio.
鈥淏ydd yr ymchwil a鈥檙 cynlluniau arloesol sy鈥檔 cael eu profi yn y labordy yn cyfrannu鈥檔 sylweddol at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi鈥檔 fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid鈥.