Gyda chyllid gan Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Gwrth-hiliaeth Cymru 2024/25 Llywodraeth Cymru, bydd y project yn darparu gwell mynediad yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang i’r cofnod amlycaf am ran Cymru yn hanes ac etifeddiaeth caethwasiaeth trawsatlantig.
Trosglwyddwyd cofnodion ystâd Penrhyn i Brifysgol Bangor ym 1939.  Mae’r casgliad bellach yn cael ei gydnabod fel un o’r archifau ystadau mwyaf a mwyaf arwyddocaol yn Ewrop, ac mae’n sail i raglen helaeth o ymchwil a mentrau treftadaeth gymunedol.  Yn ei anterth, roedd ystâd y Penrhyn yng ngogledd Cymru yn cynnwys cannoedd o ffermydd, aneddiadau gwledig a mentrau diwydiannol mawr, yn bennaf chwareli llechi, a oedd yn sail i ddyfarniad diweddar Statws Treftadaeth y Byd UNESCO i ardal lechi Gwynedd.  Castell Penrhyn bellach yw un o brif safleoedd treftadaeth ac ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Ategwyd gallu’r teulu Pennant i gronni, rheoli, gwella ac ymelwa ar eu tiroedd yng ngogledd Cymru gan gyfoeth a gronnwyd i ddechrau o gaethiwo pobl o Affrica ar eu planhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Mae archif ystad y Penrhyn yn cynnwys cofnodion sy’n ymwneud â’r holl feysydd hyn, gan gynnwys un o’r casgliadau mwyaf arwyddocaol ac eang yn gronolegol o gofnodion yn ymwneud â’r diwydiant caethwasiaeth trawsatlantig.  Mae cofnodion Jamaica ystad y Penrhyn yn gofnod manwl o ymwneud y Pennantiaid â chaethwasiaeth a Jamaica, a barodd am ganrifoedd; rheoli planhigfeydd siwgr; bywydau Affricaniaid wedi eu caethiwo; gwleidyddiaeth trefedigaethedd a diddymu caethwasiaeth; hanes ôl-gaethwasiaeth y Caribî; y cyfoeth a gynhyrchwyd gan y diwydiant siwgr; a buddsoddiad y cyfoeth hwn ar draws sefydliadau amaethyddol, diwydiannol, crefyddol, gwleidyddol, dinesig ac addysgol gogledd orllewin Cymru.
Bydd digideiddio detholiad cynrychioliadol o’r papurau hyn yn rhoi mynediad am ddim iddynt ar-lein ac yn ennyn diddordeb yn y sylfaen dystiolaeth hanesyddol hollbwysig hon o ran Cymru a Phrydain mewn caethwasiaeth trawsatlantig, ac yn grymuso unigolion a chymunedau ledled Cymru ac yn rhyngwladol i ymgysylltu â hwy trwy eu llygaid eu hunain.Â
Sefydlwyd Cronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Gwrth-hiliaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau i gyfrannu at Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru. Â Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethau o ran gosod y naratif hanesyddol cywir a chreu adnoddau ar gyfer addysg a dysgu gwrth-hiliaeth a dehongli treftadaeth.
Meddai Elen Wyn Simpson, Rheolwr Archifau a Chasgliadau Arbennig, wrth groesawu’r cyllid: “Nid oes unrhyw amheuaeth mai archif Castell Penrhyn yw’r casgliad arbennig mwyaf arwyddocaol yn ein gofal. Mae wedi bod yn ganolbwynt i nifer o brojectau catalogio, cadwraeth a chymunedol dros y blynyddoedd ac mae o ddiddordeb lleol aruthrol yn ogystal ag o bwys rhyngwladol oherwydd ei bwysigrwydd hanesyddol. Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn gymorth i gyflawni amcanion Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor – gan hwyluso mynediad am ddim trwy ddigideiddio a gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a phartneriaid allanol.''
Meddai Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru: ''Mae Penrhyn yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel prif symbol rhan Cymru mewn caethwasiaeth trawsatlantig.  Mae'r ffeithiau rhyfeddol a ddarperir ym mhapurau Jamaica ystad y Penrhyn yn hynod bwysig i hyrwyddo ymwybyddiaeth a chydnabod a deall yr hanes hwn.  Bydd digideiddio'r cofnodion yn ysbrydoli mwy o ymchwil a mwy o ymgysylltu.  Pan ymwelodd Uchel Gomisiynydd Jamaica â ni ym Mangor yn 2018, pwysleisiodd yr angen am hygyrchedd byd-eang i’r casgliad fel cam pwysig i gysylltiadau Cymru-Jamaica ac amcanion dad-drefedigaethu ehangach, ac rwy’n falch y bydd y project hwn yn mynd peth o’r ffordd tuag at gyflawni'r amcan hwn.''
Dywedodd Dr Marian Gwyn, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd Prifysgol Bangor ac arbenigwraig ar hanes ystad y Penrhyn: “Rwy’n falch iawn bod y project hwn wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, sy’n caniatáu i’r cofnodion hyn gael eu digideiddio a’u rhannu â chynulleidfa fyd-eang. Mae'r cofnodion hyn yn rhoi cipolwg amhrisiadwy ar realiti beunyddiol rheoli planhigfeydd a bywydau caethweision. Maent yn darparu gwrthbwynt hanfodol i naratifau hanesyddol ehangach, ac yn ychwanegu dyfnder a naws at ein dealltwriaeth o'r hanes cymhleth a phoenus hwn. Er ein bod yn aml yn gofyn 'beth' wrth drafod yr ymerodraeth, mae'r dogfennau hyn yn datgelu 'sut' - y systemau rheoli, y cam-fanteisio a’r cysylltiadau a gynhaliodd y mentrau enfawr hyn. Trwy eu gwneud yn hygyrch yn ddigidol, rydym yn grymuso ymgysylltiad dyfnach a mwy ystyrlon â'r elfen hollbwysig hon o'n hanes cyffredin a rhan teuluoedd imperialaidd fel y Pennantiaid ynddo.''
Bydd y cofnodion digidol yn cael eu huwchlwytho i JSTOR: https://www.jstor.org/site/bangor-university/.
I weld Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/gwrth-hiliaeth-cymru-cynllun-gweithredu-2024-diweddariad-html.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y project digideiddio, a mentrau dilynol, trwy ddilyn Archifau Prifysgol Bangor a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol BangorÂ
- Gwefan: /archives-and-special-collections
- Facebook a Twitter: @ArchPBU
Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
- Gwefan: /isweÂ
- BlueSky, Facebook, Instagram a Twitter: @YstadauCymru