Mae mynediad ffermwyr prin eu hadnoddau yn India a Nepal at amrywiaeth addas o reis, a'u gwybodaeth ohonynt, wedi bod yn broblem ers amser. Mae ymchwil arloesol sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor wedi gwella bywoliaeth dros 5 miliwn o deuluoedd ar draws y gwledydd hyn. Mae hyn wedi cynnwys datblygu rhywogaethau newydd o reis sy'n rhoi mantais cnwd o 15-40% dros y rhywogaethau a dyfir yn draddodiadol. Yn India, mae dwy rywogaeth reis Ashoka yn unig yn rhoi elw o 拢17 miliwn y flwyddyn i'r ffermwyr tlotaf a'u teuluoedd.
Mae'r mathau newydd hyn yn rhagori yn eu blas da, eu gallu i wrthsefyll sychder a'u priodweddau gwrthsefyll pla. Roedd 83% o'r rhai ddefnyddiodd Ashoka yn gweld cynnydd mewn argaeledd reis yn 2008, gyda chynnydd cymedrig mewn hunangynhaliaeth reis o bron i fis. Mae'r manteision uniongyrchol hyn yn caniat谩u i ffermwyr blannu cnydau ychwanegol neu neilltuo amser i weithgareddau eraill ac eithrio amaeth, sy'n rhoi incwm ychwanegol iddynt ac yn eu galluogi i anfon eu plant i'r ysgol.
Mae lledaenu hadau yn parhau i ehangu drwy ogledd India, ac mae lefelau cynhyrchu hadau nawr yn cynrychioli dros 40% o'r cyfanswm cynhyrchu hadau a gofnodwyd.