Dau storc yn eistedd ar nyth sy'n cynnwys plastic.

Mae deunyddiau gwneud yn gyffredin mewn nythod adar

Gall deunyddiau gwneud mewn nythod fod yn niweidiol ac yn fuddiol i adar

Mae鈥檙 rhifyn arbennig yn amlygu bod nythod amrywiaeth helaeth o dacsa 鈥 gan gynnwys adar a mamaliaid a physgod ac ymlusgiaid 鈥 yn caniat谩u iddyn nhw addasu i鈥檙 pwysau a achosir gan fodau dynol. Mae鈥檙 pwysau hynny鈥檔 amrywio o gynnwys deunyddiau anthropogenig yn eu nythod hyd at ddarparu lle i rieni a鈥檜 hepil eu hamddiffyn eu hunain rhag tymereddau cynyddol boeth mewn hinsawdd sy鈥檔 newid.鈥

Mark Mainwaring,  Darlithydd ym Mioleg y Newid Byd-eang yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol

Adar yn defnyddio鈥檙 deunyddiau yr ydym yn eu taflu yn eu nythod

Weithiau mae deunyddiau anthropogenig yn niweidio adar. Weithiau mae鈥檙 adar a鈥檜 hepil yn mynd yn sownd hyd at farw mewn cortyn byrnwyr. Yn ogystal, mae鈥檙 epil weithiau'n bwyta deunyddiau anthropogenig ar 么l eu camgymryd am eitemau ysglyfaeth naturiol. Yn olaf, mae deunyddiau anthropogenig lliwgar mewn nythod yn denu ysglyfaethwyr i'r nythod hynny sy鈥檔 bwyta鈥檙 wyau neu'r adar bach. Felly, mae angen inni daflu llai o blastig a deunyddiau anthropogenig eraill.

Ychwanegodd prif awdur yr astudiaeth, Zuzanna Jagie艂艂o o Brifysgol Gwyddorau Bywyd Pozna艅 yng Ngwlad Pwyl,
鈥淩oedd amrywiaeth eang o rywogaethau adar yn cynnwys deunyddiau anthropogenig yn eu nythod. Mae hynny鈥檔 peri pryder oherwydd mae'n dod yn fwyfwy amlwg y gall deunyddiau o'r fath niweidio adar bach a hyd yn oed adar yn eu llawn dwf鈥. Dywedodd Zuzanna Jagie艂艂o hefyd fod 鈥渁ngen mwy o astudiaethau i ennill dealltwriaeth lawnach o faint o rywogaethau adar ledled y byd sy鈥檔 defnyddio deunyddiau o鈥檙 fath yn eu nythod er mwyn inni ddeall y broblem yn llawn.鈥

Dywedodd ail awdur yr astudiaeth, Jim Reynolds, ymchwilydd yng Nghanolfan Adareg Prifysgol Birmingham yn y Deyrnas Unedig,

鈥淢ewn byd sy鈥檔 prysur drefoli yr ydym yn ei rannu 芒 llawer o wahanol dacsa anifeiliaid, nid yw鈥檔 syndod bod adar yn defnyddio鈥檙 deunyddiau yr ydym yn eu taflu yn eu nythod. Er bod angen inni ddysgu sut mae plastigion, er enghraifft, yn effeithio ar adar, gall adar, oherwydd eu symudedd uchel a'u bioleg bridio, brofi i fod yn fiomonitoriaid hynod o lygredd deunyddiau anthropogenig amgylcheddol ac mae hynny鈥檔 gyffrous."

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?