Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar argaeledd dŵr yn y dyfodol ar gyfer ynni dŵr a chyflenwad dŵr cyhoeddus yng Nghymru
Gall Cymru wynebu heriau i gyflenwi dŵr cyhoeddus a llai o botensial i gynhyrchu pŵer dŵr yn y dyfodol yn ôl ymchwil newydd. Mae canfyddiadau astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor, fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn dangos y bydd argaeledd dŵr yng Nghymru yn dod yn fwy tymhorol oherwydd newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.Â
Cyhoeddwyd y papur yn y Journal of Hydrology: Regional Studies (), ac roedd yn asesu effaith y sefyllfa waethaf o newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ar hydroleg dau ddalgylch afon yng Nghymru: y Conwy a’r Tywi.Â
Gan ddefnyddio Data UKCP18, sef yr amcanestyniadau hinsawdd diweddaraf ar gyfer y Deyrnas Unedig o Swyddfa Dywydd Canolfan Hadley, efelychodd yr ymchwilwyr y llif dyddiol posib yn afonydd Conwy a Thywi ar gyfer y cyfnod 2021 i 2079 gyda'r Offeryn Asesu Pridd a Dŵr. Yna defnyddiwyd y llifoedd tybiedig hyn i gyfrifo faint o ddŵr fyddai ar gael bob dydd i'w dynnu mewn 25 o safleoedd ynni dŵr llif afon yn y ddau ddalgylch, ac mewn un lleoliad tynnu dŵr ar gyfer cyflenwad cyhoeddus ar yr afon Tywi. O ran cyflenwad dŵr cyhoeddus, dadansoddwyd tair sefyllfa bosib o alw am ddŵr yn y dyfodol gan ddefnyddio'r system Gwerthuso a Chynllunio Dŵr: galw cynyddol (yn seiliedig ar berthnasoedd hanesyddol rhwng tymheredd dyddiol a'r galw am ddŵr), dim newid, a gostyngiad yn y galw (yn seiliedig ar ragamcanion galw Dŵr Cymru).Â
Dangosir hefyd y dalgylchoedd hynny ar y Conwy a’r Tywi a astudiwyd, gyda'r cynlluniau ynni dŵr a'r lleoliad cyflenwi dŵr cyhoeddus.
Canfu'r astudiaeth, ym mhob sefyllfa bosib o alw yn y dyfodol, fod cynnydd yn nifer y diwrnodau bob blwyddyn pan fydd llif yr afon yn rhy isel i fodloni'r galw am gyflenwad dŵr cyhoeddus, ac y byddai angen rhyddhau dŵr ychwanegol o gronfeydd i fyny'r afon i wneud iawn am hynny. O ran ynni dŵr, bu gostyngiad yn nifer y diwrnodau y flwyddyn pan fo'n bosibl cynhyrchu ynni, ynghyd â gostyngiad yng nghyfaint y dŵr blynyddol sydd ar gael i'w dynnu, gan arwain at golli'r potensial i gynhyrchu ynni. Roedd newidiadau yn argaeledd dŵr yn fwyaf amlwg yn y tymor canolig (2021–2054), ac arafodd gyfradd y newid ar ôl 2060. Yn ogystal, cynyddodd argaeledd dŵr yn y dyfodol yn nhymhorau'r gaeaf a'r gwanwyn o'i gymharu â'r sefyllfa sydd ohoni, ond roedd y gostyngiadau mwy yn y dŵr sydd ar gael ar gyfer tymhorau'r haf a'r hydref yn gorbwyso'r cynnydd hwn.Â
Eglurodd Dr Rhichard Dallison, ymchwilydd ôl-ddoethurol Dŵr Uisce ym Mhrifysgol Bangor ac awdur arweiniol y papur: “Gan fod cymaint o sectorau yng Nghymru yn ddibynol ar ddyfroedd wyneb, mae'n hynod bwysig disgrifio natur y newidiadau i lif dŵr a achosir gan newid yn yr hinsawdd cyn belled ag y bo hynny’n bosib. Mae cael dealltwriaeth dda o sut yr effeithir ar amlder a maint llifoedd dŵr uchel ac isel eithafol, er enghraifft, yn hanfodol er mwyn deall sut yr effeithir ar weithgarwch ynni dŵr, gyda'r llifoedd dŵr hyn yn chwarae rhan bwysig o ran faint o ynni y gellir ei gynhyrchu, a phryd. Mae ein canlyniadau'n awgrymu cyfraddau newid cyflymach yn argaeledd dŵr yn y tymor canolig, i'r 2050au, gyda chyfradd y newid yn arafu ar ôl hyn, gan awgrymu y gallai fod angen gweithredu yn fuan i liniaru'r newidiadau a ragwelir."Â
Ychwanegodd Dr Sopan Patil, Darlithydd mewn Modelu Dalgylchol a chyd-awdur y papur: “Mae amcanestyniadau newid yn yr hinsawdd yn awgrymu y bydd llif afonydd yn newid ledled y Deyrnas Unedig, nid yng Nghymru yn unig. Fodd bynnag, ni ddeellir yn llawn eto beth yw goblygiadau'r newidiadau rhanbarthol hyn yn lleol, yn y lleoliadau tynnu dŵr. Mae methodoleg ein hastudiaeth yn gosod patrwm gwych ar gyfer dadansoddi effeithiau newid yn yr hinsawdd mewn lleoliadau tynnu dŵr penodol. At hynny, mae'n ddigon hyblyg i gyfrif am amrywiadau yn yr amcanestyniadau galw ac yn anghenion tynnu dŵr gwahanol ddefnyddwyr dŵr."Â
Ychwanega Dr Prysor Williams, Prif Ymchwilydd Dŵr Uisce ym Mhrifysgol Bangor, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol, a chyd-awdur y papur: “Rydym yn falch o weld cyhoeddi’r papur hwn gan ei fod yn berthnasol i gynifer o bynciau sydd o bryder gwirioneddol. Caiff Cymru yn aml ei hystyried yn wlad sydd â digonedd o ddŵr. Fodd bynnag, mae ein gwaith wedi dangos y gallai hyn newid yn y dyfodol, gydag effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pwysig amlwg.â€Â
Mae Dŵr Uisce yn brosiect ar y cyd rhwng Coleg y Drindod Dulyn yn Iwerddon a Phrifysgol Bangor yng Nghymru, gyda’r prif nod o wella pa mor effeithlon y dosberthir dŵr yn y ddwy wlad. Mae gan y tîm brofiad helaeth mewn technoleg ynni, asesiadau effaith amgylcheddol, newid yn yr hinsawdd a chydweithio gyda byd busnes, gan gyfrannu gwahanol safbwyntiau i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir. Mae'r swydd wedi ei chyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Interreg Cymru-Iwerddon.Â