Bydd Prifysgol Bangor yn anrhydeddu dau unigolyn eithriadol yn seremon茂au graddio'r gaeaf, sef y cadwraethwr Nigel Brown a'r ymchwilydd i ecosystemau鈥檙 Arctig, yr Athro David N Thomas. Bydd y ddau鈥檔 derbyn graddau er anrhydedd ar 19 a 20 Rhagfyr i gydnabod eu cyfraniadau sylweddol i'w meysydd ac i gymuned y Brifysgol.
Gradd er Anrhydedd yw un o anrhydeddau mwyaf arwyddocaol Prifysgol Bangor. Mae'r Brifysgol yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i unigolion nodedig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu maes academaidd a/neu gyfraniad penodol a chyson dros gyfnod o amser i fywyd y Brifysgol ac yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol. Nid yw'r unigolion sy'n cael eu hanrhydeddu yn seremon茂au graddio'r gaeaf yn eithriad yn hyn o beth.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, 鈥淢ae鈥檔 fraint ac yn anrhydedd cael dyfarnu Graddau er Anrhydedd i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau mor nodedig yn eu dewis feysydd. Rydym yn croesawu鈥檙 unigolion hyn i鈥檔 seremon茂au graddio yn y sicrwydd y byddant yn ysbrydoli ein graddedigion newydd.鈥
Bydd Mr Nigel Brown, cyn Guradur Gardd Fotaneg Treborth, yn derbyn Gradd Doethur mewn Gwyddoniaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i鈥檙 rhanbarth ac i鈥檙 Brifysgol. Gwasanaethodd Nigel fel Curadur Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor o 1976 i 2015, gan ehangu r么l yr Ardd mewn addysgu ac ymchwil, yn ogystal 芒 hyrwyddo ymgysylltiad y cyhoedd 芒鈥檙 gwyddorau biolegol a garddwriaeth. Daeth Treborth yn ffenestr siop sy鈥檔 ysbrydoli, nid yn unig o ran planhigion, ond hefyd o ran dathlu a deall byd natur yn ei gyfanrwydd. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu iddo am ei ymroddiad i addysgu botaneg ac ecoleg i fyfyrwyr ac am ysbrydoli cenhedlaeth ar 么l cenhedlaeth. Er ei fod bellach wedi ymddeol, mae Nigel yn parhau i fod yn gyfathrebwr angerddol dros yr amgylchedd naturiol, gan hyrwyddo bioamrywiaeth Eryri ac Ynys M么n trwy ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd, gan gynnwys cynnal nifer o sgyrsiau a theithiau maes. Mae鈥檔 parhau i chwarae rhan allweddol wrth gydlynu gwaith maes botanegol ar Ynys M么n ac wrth ysgrifennu Blodeulyfr newydd i Ynys M么n.
Bydd Yr Athro David N Thomas, sy鈥檔 Athro Ymchwil i Ecosystemau鈥檙 Arctig ym Mhrifysgol Helsinki, yn derbyn Gradd Doethur mewn Gwyddoniaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i Addysg. Chwaraeodd yr Athro David Thomas ran ganolog yn y Brifysgol fel aelod staff rhwng mis Gorffennaf 1996 a mis Tachwedd 2020, gan wasanaethu fel Pennaeth Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion a Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil). Symudodd wedyn i鈥檞 r么l bresennol fel Athro Ymchwil i Ecosystemau鈥檙 Arctig ym Mhrifysgol Helsinki, gan gynnal cysylltiadau ymchwil fel Athro er Anrhydedd ym Mangor tra oedd yn cyd-oruchwylio project ar blastigion mewn systemau dyfrol. Yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion Prifysgol Bangor, bu鈥檔 arwain grwpiau ymchwil mewn biogeocemeg i芒 m么r, rhyngweithiadau rhwng y tir a鈥檙 cefnfor, a chynhyrchu biodanwydd o fio-adweithyddion algaidd. Mae鈥檙 Athro Thomas wedi cael cydnabyddiaeth nodedig am ei gyfraniadau i ymchwil i ecosystemau鈥檙 Antarctig a鈥檙 Arctig, gan gynnwys cael Rhewlif Thomas ym Mhenrhyn yr Antarctig wedi ei enwi ar ei 么l yn 2020. Yn 2022, dyfarnwyd Medal Begynol fawreddog Prydain iddo gan Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II.