Biobotiau - cefnogi amaeth-goedwigaeth a lleihau gwastraff plastig untro yn nwyrain Affrica
Mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn gweithio gyda phartneriaid yn Uganda a Chenia i ddatblygu Biobotiau, dewis arall bioddiraddadwy, yn lle鈥檙 bagiau plastig a ddefnyddir ar hyn o bryd i blannu coed.
Mae'r cyfuniad o newid yn yr hinsawdd a datgoedwigo yn cyfrannu at golli bioamrywiaeth ledled y byd. Mae鈥檙 newidiadau hyn yn cael effaith enfawr ar lawer o gymunedau gyda mwy o law a datgoedwigo鈥檔 digwydd dros ddegawdau, gan arwain at dirlithriadau mewn ardaloedd ar dir uchel. Gellir gweld hwn yn rhanbarth mynydd Elgon yng ngorllewin Affrica, sy'n pontio dwyrain Uganda a gorllewin Cenia. Mae hyn yn cael effaith aruthrol ar fywoliaeth ffermwyr a chymunedau lleol sy'n byw yn y rhanbarth.
Er mwyn lleihau effaith newid yn yr hinsawdd a datgoedwigo ar y rhanbarth, mae rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag elusen Maint Cymru a鈥檙 Mount Elgon Tree Growing Enterprise (METGE). Nod y project yw tyfu, a chyflenwi eginblanhigion coed i ffermwyr a thyfwyr ac ailgoedwigo ardaloedd yn y rhanbarth, a chyflenwi 25 miliwn o eginblanhigion erbyn 2025. Mae pob un o'r eginblanhigion coed hyn yn cael eu cyflenwi mewn bag potio polyethylen defnydd untro, ac nid oes system ar waith i ailgylchu neu ailddefnyddio'r bagiau hyn, a ch芒nt eu taflu ar 么l i'r eginblanhigion gael eu plannu. Mae'r gwastraff plastig hwn yn cael effaith negyddol ar ddyfrffyrdd, cymunedau a da byw sy'n bwyta'r gwastraff ac mae hynny鈥檔 achosi salwch difrifol a marwolaeth.
Mae t卯m ymchwil o Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad 芒 METGE a'r National Agricultural Research Organisation (NARO) yn Uganda yn cydweithio i ddatblygu dewis arall bioddiraddadwy i'r bagiau hyn sy'n deillio o danwydd ffosil a elwir yn biobotiau ar hyn o bryd. Mae'r biobotiau hyn, a gynhyrchir ym Mhrifysgol Bangor, yn cynnwys gweddillion cnydau amaethyddol o ranbarth Mount Elgon, ac maent wedi cael eu treialu mewn gwahanol feithrinfeydd METGE ym Mbale, Uganda. Mae ymchwil i gynyddu gwydnwch y biobotiau hyn yn mynd rhagddo ac mae Ysgol Gwyddorau Naturiol Bangor hefyd wedi bod yn gwerthuso eu bioddiraddadwyedd a鈥檜 heffaith ar iechyd y pridd fel rhan o鈥檙 project. Mae t卯m y project hefyd yn edrych ar ddefnyddio biobotiau yn y sectorau coffi a ffrwythau a llysiau, i gymryd lle'r potiau plastig untro a ddefnyddir ar hyn o bryd.
Mae Adam Charlton, Uwch Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi bod yn arwain y project, wedi dychwelyd o Cenia lle mae wedi bod yn hyrwyddo鈥檙 biobotiau ac yn edrych ar y posibiliadau o drosglwyddo鈥檙 dechnoleg yno. Mae gan Lywodraeth Cenia raglen blannu coed uchelgeisiol, 2022-2032, ac mae eisiau plannu 15 biliwn o goed, gyda llawer o鈥檙 rhain yn cael eu cyflenwi mewn bagiau potio plastig. Mae t卯m y project yn gweithio gyda Nature Lover Consultant yn Cenia i sefydlu cysylltiadau 芒 thyfwyr coed, meithrinfeydd a chynhyrchwyr coffi yn rhan Cenia o ranbarth Mount Elgon. Cynhaliodd t卯m y project weithdai a chyfarfodydd yn Nairobi a Kitale, gorllewin Cenia yn ystod yr ymweliad i hyrwyddo'r fenter ymhellach a meithrin cydweithrediad ehangach.
鈥淯n o鈥檙 rhesymau dros y cyfarfod yn Nairobi yw ein bod eisiau cydweithio 芒鈥檙 Kenyan Forest Research Institute i dreialu鈥檙 biobotiau,鈥 meddai Adam. 鈥淥nd bydd rhaid bod ein deunydd yn cyd-fynd 芒 safon Llywodraeth Cenia sy鈥檔 gysylltiedig 芒 bioddiraddadwyedd. Mae ymgysylltu 芒 rhanddeiliaid allweddol yn Cenia yn rhan hanfodol o鈥檙 project, ac roedd fy nhaith yn bwysig i ddechrau鈥檙 drafodaeth honno gyda nhw.鈥
鈥淢ae鈥檙 project biobotiau wedi bod yn gydweithrediad rhyngwladol, rhyngddisgyblaethol i edrych ar ffyrdd o liniaru effaith gwastraff plastig yn sector amaeth-goedwigaeth dwyrain Affrica a datblygu cynhyrchion potio eginblanhigion amgen, mwy cynaliadwy. Y nod fydd sefydlu canolfan weithgynhyrchu yn y rhanbarth i gynhyrchu'r biobotiau - gan greu swyddi newydd i鈥檙 cymunedau lleol yno.''