Ysgol yn cynnal digwyddiad EXPO i fyfyrwyr trydedd flwyddyn
Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig eu digwyddiad EXPO blynyddol ar 23 Mawrth 2022. Yn y digwyddiad, cyflwynodd myfyrwyr eu project unigol fel posteri.
Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig eu digwyddiad EXPO blynyddol ar 23 Mawrth 2022. Yn y digwyddiad, cyflwynodd myfyrwyr eu project unigol fel posteri. Cynhaliwyd y digwyddiad ar draws tair ystafell, ac mewn dau gr诺p, yn ystod dau amser gwahanol o'r dydd. Mae'r digwyddiad posteri yn dathlu'r gwaith caled y mae'r myfyrwyr yn ei roi yn eu project trydedd flwyddyn.
听
Myfyrwyr yn cyflwyno eu posteri yn nigwyddiad EXPO 2022
Dywedodd Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol) 鈥淩wyf bob amser yn edrych ymlaen at ein digwyddiad EXPO blynyddol. Braf yw gweld gwaith y myfyrwyr a chlywed am eu llwyddiannau. Fel blynyddoedd blaenorol, fe wnaethom wahodd nifer o gwmn茂au i ddod i'r digwyddiad a siarad 芒'r myfyrwyr. Gwnaeth yr hyn a welsant argraff fawr arnynt. Braf oedd gweld y myfyrwyr a chynrychiolwyr cwmn茂au yn mwynhau鈥檙 digwyddiad ac roedd bwrlwm gwirioneddol yn yr aer. Tra bo鈥檙 EXPO yn dathlu gwaith caled pob myfyriwr, roedd yn bleser gennym gyflwyno sawl gwobr yn y digwyddiad hwn.鈥
Yn y digwyddiad, rhoddodd yr ysgol bedair gwobr:
Bu i Stephanie Evans, dan oruchwyliaeth yr Athro Jonathan Roberts, gyflwyno ei gwaith ar 鈥淕enerative Art for Well-Being鈥 ac enillodd y Poster gorau yn y ddisgyblaeth Cyfrifiadureg.
Bu i Adam Brotzman, dan oruchwyliaeth Dr. Roger Giddings, gyflwyno ei boster ar 鈥淪elf-powered visible light communications (VLC) receive for indoor IoT Sensor Uplinks鈥, gan dderbyn y wobr am y poster gorau yn y ddisgyblaeth Peirianneg Electronig.
Fe wnaeth Daniel W. Evans, dan oruchwyliaeth Dr. Bill Teahan, gyflwyno poster ar 鈥淒esigning and Evaluating a Compression-based tool for the automatic detection of dialects and code-switching in Welsh text鈥, gan gipio鈥檙 wobr am y poster mwyaf deniadol.
Fe wnaeth Jasmine Parkes dan oruchwyliaeth Dr. Dave Perkins, gyflwyno鈥檌 gwaith o'r enw 鈥淎 multi-sensory LoRaWAN Control System for Maintaining the Optimum Microclimatic Conditions of a Tomato Plant鈥, gan dderbyn canmoliaeth uchel.
听
Enillwyr gwobrau yn derbyn eu gwobrau. O鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Stephane Evans, Adam Brotzman, Daniel Evans, Jasmine Parkes.
Dywedodd Stephane Evans 鈥淩oedd yn ddigwyddiad gwych. Roeddwn yn hapus i gyflwyno fy ngwaith ac wrth fy modd i mi dderbyn un o'r gwobrau. Ar 么l cael llawer o ddarlithoedd o bell, roeddwn i鈥檔 falch bod y digwyddiad wedi digwydd wyneb yn wyneb, ac roedd gen i ddiddordeb mewn gweld beth roedd fy ffrindiau wedi'i gynhyrchu yn eu project nhw鈥.
Ychwanegodd Adam Brotzman, sy鈥檔 astudio ar y rhaglen pedair blynedd MENG Peirianneg Electronig, 鈥淔e wnes i fwynhau鈥檙 diwrnod. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld y gorgyffwrdd rhwng brwdfrydedd a hyfedredd fy nghyfoedion. Roeddwn i鈥檔 arbennig o awyddus i weld amrywiaeth holl bynciau鈥檙 project gan fyfyrwyr cyfrifiadureg ac electroneg.鈥
Dywedodd Daniel Evans 鈥淔e wnes i fwynhau cymryd rhan yn yr EXPO. Rhoddodd gyfle i mi arddangos fy ngwaith i鈥檓 cyd-fyfyrwyr, darlithwyr, ac i ddarpar gyflogwyr. Fe wnaeth cymryd rhan yn yr EXPO roi teimlad diwedd cyfnod i mi, lle鈥檙 oeddwn i a鈥檓 cyfoedion yn gallu dod at ein gilydd i ddangos canlyniadau ein holl waith caled. Roedd yn brofiad anhygoel y byddaf bob amser yn ei drysori.鈥
Ychwanegodd Jasmine Parkes, sy鈥檔 astudio ar y radd BENG Peirianneg Electronig, "Mi wnes i fwynhau'r EXPO yn fawr. Roedd yn gyfle gwych i rwydweithio gyda recriwtwyr ac i archwilio projectau myfyrwyr eraill. Roedd yn brofiad yn hynod werth chweil. Roedd yn ddiddorol clywed safbwynt y cyhoedd a'r recriwtiwr o'm gwaith. Rhoddodd y diwrnod ymdeimlad dwfn o gymuned i mi ymhlith fy nghyfoedion a鈥檓 hatgoffa ein bod ni i gyd yn yr un cwch.鈥
Golygydd: Yr Athro J.C. Roberts
听
听