Ysgol yn croesawu myfyrwyr newydd
Croesawodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig fyfyrwyr newydd a chroesawodd fyfyrwyr presennol yn 么l. Rhwng 20 a 23 Medi 2022, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau cynefino i鈥檙 myfyrwyr. Cafwyd sgyrsiau a thrafodaethau ar gynnwys cyrsiau, sgyrsiau ar iechyd a diogelwch, a chyflwynwyd gwybodaeth am sut i ddefnyddio adnoddau addysgu鈥檙 Brifysgol megis Blackboard. Croesawyd myfyrwyr i'r adeilad, gan staff ac arweinwyr cyfoed a oedd yn dychwelyd, gyda gw锚n, sgyrsiau gwresog, ac amrywiaeth o snaciau.
听
Catty Langford yn croesawu'r disgyblion newydd i'r ysgol
Dywedodd Dr Dave Perkins Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu鈥檙 ysgol) 鈥淩oeddwn yn gyffrous i groesawu'r myfyrwyr newydd. Roedd yn wych cyfarfod 芒鈥檙 myfyrwyr yn bersonol a鈥檜 croesawu i Fangor. Mae myfyrwyr wedi dod atom o bob rhan o鈥檙 byd, ac mae wedi bod yn hyfryd clywed eu straeon am sut y daethant i Fangor.鈥 Cyflwynwyd y myfyrwyr i staff yr ysgol gan gynnwys Dr Panos Ritsos, sy'n Gyfarwyddwr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr, a Dr Mohammed Madbrook, sef yr Uwch Diwtor. Aeth Dr Perkins ymlaen i ddweud 鈥淩ydym yn byw mewn cyfnod cyffrous sy鈥檔 newid, mae cyfrifiaduron yn mynd yn gyflymach, mae dyfeisiau electronig yn mynd yn llai, ac mae ein holl systemau鈥檔 mynd yn fwy clyfar. Pob pwnc rydyn ni'n ei ddysgu ar y cwrs. Mae鈥檙 myfyrwyr newydd hyn ar ddechrau eu taith, ac rydym yn gyffrous i fod yn eu haddysgu.鈥
Dr Dave Perkins (Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu) a Dr Iestyn Pierce (Pennaeth Ysgol) yn cyfarch myfyrwyr newydd
Dywedodd Pramod Paul Kusuma (sydd newydd ddechrau astudio ar gyfer ei radd meistr mewn Gwyddor Data Uwch) 鈥淢ae鈥檔 fraint ac rydw i鈥檔 falch fy mod i wedi cael dechrau fy astudiaethau yma ym Mangor. Rydw i wedi dod yn bell i fod yma, ac mae pobl wedi bod mor gyfeillgar, caredig, a chymwynasgar, ac mi wnaeth hyn fy helpu i ymgartrefu yma'n hawdd. Mae fy athrawon i鈥檔 ardderchog, ac rydw i鈥檔 gyffrous am y dyfodol sydd o 鈥榤laen i.鈥
Dr Panos Ritsos 听(Arweinydd cyswllt staff/myfyrwyr) a听Dr Mohammed Madbrook听(Uwch Diwtor) yn croesawu'r myfyrwyr newydd
Bu llawer o arweinwyr cyfoed o'r ysgol yn helpu yn y digwyddiadau cynefino. Dywedodd Lewis Dixon (sy鈥檔 astudio ar gyfer ei radd meistr trwy ymchwil mewn cyfrifiadureg) 鈥渇el arweinydd cyfoed mae鈥檔 wych helpu鈥檙 holl fyfyrwyr newydd i ymgartrefu, yn enwedig ar 么l y blynyddoedd o ansicrwydd oherwydd Covid. Mae pawb yn gyffrous i ddechrau eu cwrs. Rydw i wedi siarad ag ychydig o lasfyfyrwyr sy鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn, yn ogystal ag ymuno 芒 chlybiau a chymdeithasau.鈥
Dywedodd Emmanual Souza (sydd wedi dechrau ei astudiaethau ar y BSc mewn Systemau Gwybodaeth Gyfrifiadurol ar gyfer Busnes) 鈥淢ae bod yn fyfyriwr newydd ym Mangor yn gyffrous. Roeddwn i wedi cyffroi yn ffair y glas, yn enwedig o weld yr holl gymdeithasau. Rydw i nawr yn bendant yn gyffrous i ddechrau fy nghwrs.鈥
Golygwyd gan Jonathan C. Roberts, Llun gan Yvonne Scutt-Jones (top a gwaelod), a Gawina Fernandes (canol)听
听
听
听