Welcome table and robot for IET open house event

Ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf o Beirianwyr a Gwyddonwyr gyda'n Digwyddiad T欧 Agored IET

Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddigwyddiad T欧 Agored IET lle agorwyd ein drysau i鈥檙 cyhoedd i arddangos y gorau o fyd cyffrous STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Ar 14 Mehefin, cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddigwyddiad T欧 Agored IET lle agorwyd ein drysau i鈥檙 cyhoedd i arddangos y gorau o fyd cyffrous STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

惭补别鈥檙 yn elfen o ymgyrch Engineer a Better World IET (), sydd 芒鈥檙 nod o ysbrydoli plant i archwilio maes cyfareddol STEM a chael blas bach ar yr amrywiaeth eang o broffesiynau arloesol a gwerthfawr sydd i鈥檞 cael ym maes peirianneg fodern.

Roedd hwn yn brofiad gwych! Dylem gael mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn amlach i danio meddyliau plant! Roedd fy mhlentyn 8 oed wrth ei fodd 芒鈥檙 digwyddiad ac mae鈥檔 caru gwyddoniaeth!

Anhysbys,  Un o rieni鈥檙 cyfranogwyr

Roedd y digwyddiad wedi鈥檌 drefnu ar gyfer plant 5-13 oed a鈥檜 rhieni / gwarcheidwaid, a threfnwyd tri gweithgaredd cyffrous a rhyngweithiol iddynt gymryd rhan ynddynt. Cynhaliodd y Sefydliad Dyfodol Niwclear ( daith o gwmpas eu cyfleusterau labordy newydd sbon, ac roedd ganddynt hefyd rai arddangosiadau ymarferol i blant gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys Lego Mindstorms ac offer estyn allan sydd ar fenthyg i鈥檙 NFI gan Magnox, a gyda chymorth y 聽 adeiladodd y cyfranogwyr eu fflachlampau eu hunain a dysgu am G么d Morse, ac yna anfon neges wedi'i hamgryptio mewn c么d Morse i lawr ffibr optegol i eraill ei ddadgryptio. Yn olaf, trefnodd iddynt frwydro fel timau torri codau i ddatrys nifer o gliwiau heriol i agor blwch cyn i鈥檙 timau eraill wneud, neu cyn i'w hamser ddod i ben.

Roedd gennym hefyd robot yn cerdded o gwmpas, ac roedd y plant wrth eu bodd yn rhyngweithio a siarad ag ef! Gwnaethant hefyd fwynhau'r peli Sphero yn rholio o gwmpas a gafodd eu harddangos gan ein myfyrwyr.

Dywedodd Dr Daniel Roberts, swyddog estyn allan yr ysgol a threfnydd y digwyddiad,

Roedd yn bleser croesawu cymaint o bobl ifanc brwdfrydig i鈥檙 adran i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous i鈥檞 hysbrydoli i barhau i astudio pynciau cysylltiedig 芒 STEM yn y dyfodol. Drwy groesawu鈥檙 Peirianwyr a Gwyddonwyr ifanc eiddgar hyn, roeddem yn eu hannog i ddilyn trywydd eu brwdfrydedd a gosod y sylfeini am yr hyn sy鈥檔 bosibl mewn disgyblaeth wyddonol.

Dywedodd Dr Roger Giddings, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau鈥檙 Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ac arweinydd eu digwyddiad,

Roedd gallu agor ein drysau nid yn unig i鈥檙 cyhoedd, ond i gynulleidfa ifanc, i ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf o Beirianwyr yn gyfle rhagorol. Trwy gyflwyno meddyliau ifanc i fyd cyfareddol opteg ffeibr a rhoi cipolwg iddynt ar sut mae鈥檙 rhyngrwyd yn gweithio, ein nod oedd tanio gwreichionen o chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth, a鈥檜 grymuso i gofleidio rhyfeddodau technolegau cyfathrebu.

Roedd arddangos y labordy Sefydliad Dyfodol Niwclear newydd sbon cyfareddol i wyddonwyr ifanc a鈥檜 cynnwys mewn arddangosiadau ymarferol yn brofiad trawsnewidiol sydd wedi sbarduno鈥檙 angerdd i ganfod mwy ac wedi tanio eu dychymyg. Trwy eu trwytho ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, rydyn yn grymuso鈥檙 genhedlaeth nesaf o arloeswyr i freuddwydio, gofyn cwestiynau beiddgar, a rhoi eu syniadau ar waith.

Sarah Vallely,  myfyriwr PhD yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear, a鈥檙 cydlynydd estyn allan

Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog, wedi鈥檌 gyflwyno鈥檔 glir ac yn caniat谩u digonedd o amser ar gyfer cwestiynau. Roedd y cyflwynwyr yn frwdfrydig, ac roedd yn ysbrydoledig iawn i鈥檙 gynulleidfa ifanc

Anhysbys,  rhiant un o'r rhai a fu'n mynychu

Diolch yn fawr iawn am agor eich drysau. Mae'r maes yn newydd i ni ac nid oedd gennym syniad beth i'w ddisgwyl, ond daliwch ati i agor eich drysau! Roedd yn hwyl aruthrol, a da iawn chi am gadw diddordeb fy mhlentyn 7 mlwydd oed drwy鈥檙 cyfan!

Anhysbys,  Rhiant plentyn saith oed.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?