Schools listening carefully to the brief for the day.

Yr Ysgol yn cynnal Her Faraday yr IET am yr ail flwyddyn yn olynol

Yn dilyn ei lwyddiant y llynedd, ar 29 Tachwedd 2023 cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Her Faraday yr IET.

Cystadleuaeth flynyddol yw鈥檙 Her Faraday sy鈥檔 cynnwys diwrnodau o weithgareddau STEM sy鈥檔 gofyn i ddisgyblion 12-13 oed fynd i鈥檙 afael 芒 her byd go iawn. Y partneriaid thema eleni yw鈥檙 Rees Jeffreys Road Fund a National Highways. Mae鈥檙 t卯m buddugol o bob digwyddiad yn ennill taleb iddynt eu hunain yn ogystal ag ennill lle ar y tabl cynghrair cenedlaethol. Bydd y pum t卯m gorau ar ddiwedd y tymor yn cael taith rad ac am ddim i鈥檙 rownd derfynol, yn ogystal 芒 chyfle i ennill 拢1,000 i鈥檞 hysgol ei wario ar weithgareddau STEM.

Eleni, gwnaeth 6 t卯m o 6 disgybl yr un o Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Friars, Ysgol Tryfan, Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Llangefni gystadlu yn erbyn ei gilydd am yr anrhydedd o ennill Diwrnod Her Faraday. Yn y digwyddiad, cafodd y timau eu herio i greu prototeip ar gyfer gwell diogelwch ar y ffordd fawr, naill ai mewn cymunedau gwledig neu ar draffyrdd. Roedd gofyn iddynt gyflwyno eu prototeipiau, gan roi esboniad o'r dyluniad a'r nodweddion, cynnal trafodaeth am y broblem beirianegol anoddaf a gafwyd, asesu deinameg eu t卯m, ac arddangos y prototeip ar waith. Ar ddiwedd y dydd coronwyd Ysgol Llangefni yn fuddugol gyda sg么r ardderchog. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a chafodd dderbyniad da gan y cyfranogwyr a'r gwesteion. Bydd yr ysgol yn sicr yn cofrestru i gynnal Diwrnod Her Faraday yr IET eto yn 2024.


Dywedodd Dr Daniel Roberts, uwch ddarlithydd mewn Peirianneg Electronig yn yr ysgol, a swyddog estyn allan yr ysgol,

Roedd cynnal yr Her Faraday eto eleni yn fraint fawr oherwydd gallwn groesawu darpar beirianwyr a gwyddonwyr i鈥檔 hadran a鈥檜 hysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn STEM. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i amlygu i鈥檙 myfyrwyr y posibiliadau addysgol a phroffesiynol sy鈥檔 bodoli ym meysydd Peirianneg a Chyfrifiadureg. Mae ein hysgol wedi ymrwymo i drefnu gweithgareddau tebyg i ysgogi cenhedlaeth Peirianwyr a Gwyddonwyr Cyfrifiadurol y dyfodol.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?