School of computing and engineering, graduation, December 2023

Ymfalch茂o a Dathlu Dyfodol Disglair: Seremoni Raddio mis Rhagfyr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg

Cynhaliwyd seremoni raddio mis Rhagfyr yr Ysgol ddydd Iau, 14 Rhagfyr 2023, a chafwyd cyfle i ddathlu llwyddiant ein myfyrwyr oedd yn graddio.

Mae seremoni raddio mis Rhagfyr yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr blynyddol yr ysgol, ac mae鈥檔 gyfle i Brifysgol Bangor ddathlu rhagoriaeth academaidd. Cynhaliwyd y seremoni ffurfiol ddydd Iau, 14 Rhagfyr 2023. Roedd yr achlysur nid yn unig yn anrhydeddu鈥檙 graddedigion a gwblhaodd gyrsiau meistr mewn Cyfrifiadureg, Electroneg a Dylunio, ond hefyd myfyrwyr PhD llwyddiannus oedd yn graddio.


Mae鈥檙 staff academaidd, y cyfarwyddwyr a pennaeth yr ysgol yn estyn llongyfarchiadau gwresog i鈥檙 graddedigion medrus. Roedd y digwyddiad yn amlygu effaith sylweddol eu llwyddiannau ysgolheigaidd. Yn ystod y digwyddiad cafodd myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon gydag academyddion. Tynnwyd llawer o ffotograffau鈥檔 dilyn y seremoni, gan gynnwys ffotograff tu allan o鈥檙 holl fyfyrwyr, er gwaethaf y tywydd oer. Roedd yn ddigwyddiad llawn cynhesrwydd, a oedd yn symboleiddio nid yn unig gwytnwch y graddedigion ond hefyd y cysylltiadau parhaus a ffurfiwyd o fewn y gymuned academaidd. Yn dilyn y digwyddiad, cafodd y myfyrwyr a鈥檙 staff gyfle i fwynhau cacen, te a choffi yn 么l yn Stryd y Deon, lle bu鈥檙 sgyrsiau鈥檔 parhau.

Wrth i'r graddedigion ddechrau ar lwybrau gyrfa amrywiol, mae pennod newydd yn dechrau i bawb. Mae rhai eisoes wedi mentro i gyfleoedd swyddi newydd addawol, gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt yn ystod eu cwrs. Mae eraill wedi dewis dilyn astudiaeth bellach trwy wneud PhD, gan gyfrannu at y disgwrs academaidd parhaus yn eu gwahanol feysydd astudio. Ar yr un pryd, mae rhai graddedigion wedi symud yn ddidrafferth i swyddi yn y diwydiant meddalwedd, gan gymhwyso eu harbenigedd i heriau'r byd go iawn. Ac eto, i鈥檙 rhai sy鈥檔 dal i archwilio cyfleoedd cyflogaeth, mae鈥檙 daith yn parhau gyda鈥檙 addewid o orwelion newydd.

Mynegodd Dr Iestyn Pierce, pennaeth yr ysgol, ei falchder yn llwyddiannau鈥檙 myfyrwyr, gan ddweud,聽

Rwy鈥檔 hynod falch o bob un o鈥檔 myfyrwyr am eu hymroddiad a鈥檙 hyn y maent wedi鈥檌 gyflawni. Wrth iddynt gymryd eu camau nesaf, dymunaf lwyddiant iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol, boed hynny wrth iddynt ymgymryd ag astudiaethau academaidd pellach, dechrau swyddi newydd cyffrous, neu ddilyn gyrfaoedd boddhaus. Rwy鈥檔 gwbl hyderus y bydd y graddedigion hyn o Brifysgol Bangor yn gwneud cyfraniadau sylweddol yn eu gwahanol feysydd.

Dr Iestyn Pierce,  Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?