Xray background image

Torri Rhwystrau mewn Delweddu: Hacathon arloesol yn Gwella Meddalwedd Tomograffeg

Ymunodd Dr. Franck Vidal ag ymchwilwyr a pheirianwyr mewn digwyddiad hacathon cydweithredol rhyfeddol, i helpu llunio a datblygu dyfodol tomograffeg gyfrifiadurol (CT) a meddalwedd cyfrifiadurol Pelydr-X.听

搁丑补驳补谤飞别颈苍颈补诲听

Aeth Ymchwilwyr Prifysgol Bangor a chydweithwyr o sefydliadau eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt ar Hyfforddiant a Hacathon Dewch 芒'ch Data Eich Hun. TeithioddDr Franck Vidal (Uwch Ddarlithydd a chyfarwyddwr ymchwil dros dro yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig) i Gaergrawnt i gymryd rhan yn y digwyddiad hyfforddiant a鈥檙 Hacathon. Fframwaith ffynhonnell agored, ysgrifenedig yn bennaf mewn Python, yw鈥檙 Llyfrgell Delweddu Craidd (CIL) ac fe'i defnyddir i greu delweddau tomograffig. Roedd y digwyddiad yn rhan o'r digwyddiad a noddir gan a'r (Project Cyfrifiadurol Cydweithredol mewn Delweddu Tomograffeg).听 Roedd pedwar deg pedwar o bobl yn bresennol yn y digwyddiad Hyfforddiant CIL a鈥檙 Hacathon.

Beth yw tomograffeg?

Mae tomograffeg, techneg chwyldroadol sy'n datgelu delweddau mewnol cywrain, yn ddefnyddiol iawn ym maes meddygaeth. Mae'n defnyddio cyfres o ddelweddau manwl o'r tu mewn i rywbeth neu rywun. Fe'i defnyddir yn eang mewn meddygaeth. Mae MRI (delweddu cyseiniant magnetig) a CT (tomograffeg gyfrifiadurol), a elwir hefyd yn domograffeg echelinol gyfrifiadurol (CAT), ill dwy鈥檔 dechnegau tomograffeg. Mae MRI yn defnyddio tonnau radio; a CT yn defnyddio pelydrau-X. Mewn delweddu CT, mae llawer o radiograffau pelydr-X 2D yn cael eu tynnu o amgylch y claf ar onglau鈥檔 olynol. Gellir ei ddefnyddio i wneud diagnosis o amryw o batholegau. Defnyddir yr un dechneg i sganio gwrthrychau, megis dod o hyd i ddiffygion mewn deunyddiau. Mae meddalwedd cyfrifiadurol yn trosi'r wybodaeth a gludir gan y set o radiograffau pelydr-X 2D yn bentwr o ddelweddau trawstoriadol drwy'r claf (neu鈥檙 gwrthrych). 鈥淎dlunio tomograffeg鈥 yw enw鈥檙 broses. Mae yn fframwaith Python ffynhonnell agored ar gyfer delweddu tomograffig ar gyfer geometregau c么n a phaladr cyfochrog. Mae'n dod ag offer ar gyfer llwytho, rhagbrosesu, adlunio a delweddu data tomograffig.听听

Yr Hacathon

Trefnwyd y digwyddiad mewn dwy ran yn olynol. Yr Hyfforddiant yn gyntaf. Y diben oedd caniat谩u i bobl ddysgu (neu adnewyddu gwybodaeth pobl) am CIL ar gyfer prosesu data delweddu tomograffig. Yn ail, hacathon, a'r nod o godio swyddogaethau newydd.听听

Dywedodd Franck, ymchwilydd gweithredol yn y gymuned ymchwil CT pelydr-X a ysgrifennodd y llyfrgell (驳痴齿搁):听听

鈥淩oedd yn hynod gyffrous cymryd rhan yn y digwyddiad a chyfrannu at ddau ddarn o feddalwedd cydweddol.鈥澨

Mae gVirtualXray yn feddalwedd ffynhonnell agored sy鈥檔 efelychu delweddau pelydr-X trwy ddefnyddio'r cerdyn graffeg, y caledwedd cyfrifiadurol sy'n pweru gemau fideo 3D. Cefnogwyd ei ddatblygiad i ddechrau gan y Comisiwn Ewropeaidd (grant 321968). Cyfrannodd Franck yn weithredol at yr hacathon trwy wella'r cysylltiad rhwng gVXR a CIL.听听

Gellir defnyddio gVXR i greu llawer o ddelweddau pelydr-X i鈥檞 bwydo i algorithmau adlunio CIL. Mae鈥檔 bwysig gwella鈥檙 rhyngweithrededd rhwng y ddau oherwydd gall pobl ddefnyddio delweddau efelychiedig realistig o dan amodau hysbys a phrofi鈥檙 algorithmau adlunio, er enghraifft i wneud iawn am arteffactau mudiant sy鈥檔 diraddio ansawdd y delweddau mewn meddygaeth.

Dywedodd Franck

Ar 么l dau ddiwrnod o godio a phrofi dwys, mae gennym ni ddarllenydd data sy鈥檔 gweithio鈥檔 dda. Gall pobl roi cynnig ar yr efelychiad a'r adlunio CT gan ddefnyddio .

Dr Franck Vidal,  Uwch Ddarlithydd, a chyfarwyddwr ymchwil dros dro鈥檙 ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?