Annual dinner and talk, 2023 CSEE, Paul Kinlan (Google) speaking

Rhowch o yn Google. Sgwrs a chinio blynyddol ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Bangor yn anelu at y dyfodol

Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ei darlith a鈥檌 chinio blynyddol ar 15 Mawrth 2023. Paul Kinlan (Google) oedd siaradwr eleni, gyda鈥檌 sgwrs 鈥淎iming for the Future鈥.听听

Darlith a Chinio Blynyddol 2023

Cynhaliodd Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ei darlith a鈥檌 chinio blynyddol ar 15 Mawrth 2023. , sy鈥檔 gweithio i Google, oedd siaradwr eleni. Paul yw arweinydd t卯m Cyd-berthnasau Datblygwyr Chrome Google. Mae wedi adeiladu ei yrfa mewn tri maes sy鈥檔 gorgyffwrdd: y we, ecosystem datblygwyr ac adeiladu timau effeithiol. Mae wedi canolbwyntio ar ddatblygu atebion sy'n gwthio eithaf yr hyn sy'n bosibl gyda'r we. Teitl ei sgwrs oedd 鈥淎iming for the Future鈥. Yn ei sgwrs amlygodd nifer o ddatblygiadau arwyddocaol mewn cyfrifiadureg, gan edrych ar y gorffennol a鈥檙 dyfodol.听听

鈥淒echreuodd y noson gyda phaned a chacen. Roedd yn wych dal i fyny gyda myfyrwyr blaenorol, cyn-fyfyrwyr, a chwmn茂au lleol.鈥澨
Yr Athro Jonathan C. Roberts (Cyfarwyddwr Effaith ac Ennyn Diddordeb Myfyrwyr)听

Roedd y neuadd dan ei sang ar gyfer y sgwrs, ac roedd yna gyffro gwirioneddol. Ni siomodd Paul! Dechreuodd drwy siarad am y cyfrifiaduron cynnar fel y Peiriant Gwahaniaeth a thrafod y datblygiadau diweddaraf mewn deallusrwydd artiffisial

Yr Athro Jonathan C. Roberts,  Cyfarwyddwr Effaith ac Ennyn Diddordeb Myfyrwyr

Terfynwyd yr anerchiad blynyddol gyda gair o ddiolch i Paul gan Mr David Crawford, Cadeirydd Gogledd Cymru y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.听

Y cinio blynyddol a鈥檙 sgyrsiau dilynol

Wedi鈥檙鈥痑nerchiad,鈥痗ynhaliwyd鈥痽鈥痗inio鈥痓lynyddol. Croesawyd pawb yn wresog gan yr Is-ganghellor (Yr Athro Edmund Burke). Dywedodd Dr Dave Perkins 鈥淩oedd yn bleser croesawu cyn-fyfyrwyr, ymwelwyr, ffrindiau, a chwmn茂au lleol.鈥澨

Cawsom dipyn o gyffro ar ddechrau鈥檙 cinio, wrth i鈥檙 larwm t芒n seinio. Hwyrach y bu i'r t卯m arlwyo losgi'r cinio, oedd y j么c, wrth i ni i gyd sefyll y tu allan yn y tywyllwch. Ond ni losgwyd y pryd. Roedd yn rhagorol. Da iawn, d卯m arlwyo!

Dr Dave Perkins,  Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu

Yn yr ysgol, ac ar y noson, cefais sawl sgwrs am atebion deallusrwydd artiffisial, fel ChatGPT, Bard AI, ac offer gwe eraill. A da oedd clywed sgwrs Paul 鈥 a'i farn am ddeallusrwydd artiffisial. Roedd yn ysbrydoledig iawn. Roedd yn anrhydedd i ni hefyd groesawu鈥檙 Is-ganghellor yr Athro Edmund Burke,听 y Canghellor: yr Athro Syr Robin Williams, y Dirprwy i鈥檙 Is-ganghellor: yr Athro Oliver Turnbull, y Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil): Yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor (Ymgysylltu Byd-eang): Yr Athro Paul van Gardingen FRSA, a鈥檙 Prif Swyddog Pobl: Mrs Tracy Hibbert.

Dr Dave Perkins,  Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu

Sgyrsiau ar 么l cinio

Ar 么l y pryd bwyd, cafwyd tair sgwrs fer: Siaradodd y Dr Franck Vidal (Cyfarwyddwr Ymchwil dros dro yr ysgol) am lwyddiant ymchwil yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear, (DSP) a chyfrifiadureg, gan s么n yn benodol am y ganolfan ddoethurol Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (). Siaradodd yr Athro Jonathan Roberts (Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu) am lwyddiannau mewn effaith, cysylltiadau a chydweithrediadau ymchwil ar draws y byd, , partneru gyda'r ,鈥痽r ymgyrch, , ymweliadau ysgol, a gwobrau i鈥檙 papur gorau. Daeth y noson i ben gyda Dr Dave Perkins (Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu) yn siarad am ddatblygiadau mewn addysgu, yn enwedig y rhaglen BSc Peirianneg newydd, yr MSc Cefnfor Digidol, a chyfrifiadura ar gyfer Gwyddor yr Hinsawdd.听

Llun: J. C. Roberts听

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?