Mae Prifysgol Bangor yn parhau â'i pherthynas â Rolls-Royce ym maes technoleg ynni niwclear ar gyfer y gofod.
Mae Rolls-Royce wedi sicrhau cyllid gan Asiantaeth Ofod y DU o dan Raglen Arloesi Genedlaethol y Gofod (NSIP), fydd yn rhoi mwy o gefnogaeth i’r cwmni ddatblygu ei dechnoleg ynni niwclear ar gyfer y gofod.
Bydd y dyfarniad newydd o £4.8m gan Brosiectau Mawr yr NSIP yn gymorth sylweddol i hybu datblygu ac arddangos technolegau allweddol cysylltiedig â micro-adweithyddion niwclear ar gyfer y gofod.
Bydd gan Raglen Arloesi Genedlaethol y Gofod a gynhelir gan Rolls-Royce gyfanswm cost project o £9.1m. Ei nod yw datblygu technoleg gyffredinol y micro-adweithydd, a fydd yn dod â'r adweithydd yn nes at sefyllfa ble gellid rhoi arddangosiad cyflawn o’r system yn hedfan yn y gofod.
Dros y 18 mis nesaf, mewn cydweithrediad â phartneriaid academaidd o Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Bangor, bydd y project yn datblygu cynllun, galluoedd sylfaenol a thechnolegau allweddol yr holl system. Bydd y rhaglen yn helpu i gynyddu cyfranogiad y DU mewn marchnadoedd sy’n datblygu o ran ynni niwclear ar gyfer y gofod ac yn dangos yn glir bod y DU yn gallu ac yn barod i ddechrau gweithio ar ddyluniad manwl. Rhagwelir y gellir rhoi arddangosiad hedfan cychwynnol erbyn diwedd y degawd hwn.
Er mwyn gwireddu uchelgeisiau byd-eang yn y gofod, mae angen pŵer a dull symud dibynadwy. Mae cyfyngiadau presennol o ran ffynonellau pŵer, megis solar, yn creu heriau gweithredu y cred llawer y gellir eu datrys gyda thechnoleg adwaith ymholltiad niwclear. Credir hefyd fod y dechnoleg hon yn hanfodol o ran gallu cynnal gweithgarwch ar arwyneb y lleuad. Gan weithredu'n annibynnol ar yr haul, gall y Micro-adweithydd fodloni'r gofynion pŵer sylweddol yn ddibynadwy a pharhaol i alluogi archwilio hirdymor ac ymdrechion gwyddonol ar y lleuad ac yn y gofod.
Meddai’r Athro Simon Middleburgh, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor:
“Dan ni’n falch o fod yn gweithio fel rhan o dîm arbennig iawn ar y project eithriadol yma. Mae ein harbenigedd ymchwil a’r offer sydd gennym ni yn Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor wedi bod yn amhrisiadwy wrth ateb yr her a osodwyd gan y tîm yn Rolls-Royce. Bydd ein harbenigedd ym maes uwch-ddeunyddiau tanwydd yn parhau i yrru’r project hwn yn ei flaen er mwyn datblygu technoleg micro-adweithyddion.â€
Dywedodd Jake Thompson, Cyfarwyddwr Projectau Arbennig a Niwclear Newydd Rolls-Royce:
“Rydym yn falch iawn o ennill y dyfarniad hwn gan Raglen Arloesi Genedlaethol y Gofod ac i barhau i gydweithio ag Asiantaeth Ofod y DU.Â
“Mae derbyn y cyllid hwn yn ddigwyddiad hollbwysig yn ein rhaglen Micro-adweithyddion ac yn fodd inni ddatblygu technoleg ynghynt, gan ddod â ni gam yn nes at allu darparu pŵer i gynnal yr ymdrechion cyfareddol pobl yn y gofod.
“Mae dyfodol archwilio’r gofod yn dibynnu’n fawr ar y gallu i gynhyrchu llawer iawn o bŵer cyson a’n Micro-adweithydd niwclear yw’r ateb. Bydd yn cynnig pŵer diogel, dibynadwy a hyblyg i amrywiol deithiau yn y gofod.â€
Dywedodd Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig, Dr Paul Bate:
“Bydd Rhaglen Arloesi Genedlaethol y Gofod yn fodd o roi hwb i dwf, creu swyddi o ansawdd uchel, amddiffyn ein planed a diogelu amgylchedd y gofod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae projectau newydd fel yr un yma, a arweinir gan Rolls-Royce, yn mynd at wraidd yr hyn mae arnom ni eisiau ei gyflawni fel asiantaeth ofod genedlaethol sy’n cefnogi arloesedd blaengar, yn creu cyfleoedd ledled y DU ac yn sicrhau fod dinasyddion ar y ddaear yn elwa ar y gofod.
Mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn yn dilyn y cyhoeddiad o £1.18M a ddyfarnwyd i Rolls-Royce gan Asiantaeth Ofod y DU ym mis Ebrill eleni, o dan Gam 2 o’r Gronfa Ddwyochrog Ryngwladol. Rhagflaenwyd hyn gan £2.9 miliwn o gyllid a ddyfarnwyd yn 2023 o dan Gontract Ynni Niwclear Arwyneb y Lleuad a Cham 1 o broject yr IBF yn 2023, a gyflwynodd gysyniad cychwynnol o’r DU yn datblygu adweithydd niwclear modiwlaidd i’w roi ar y lleuad.