Rhiannon Owen presenting at the Enterprise By Design final

Cyflwynodd wyth t卯m o fyfyrwyr, o dan arweiniad mentoriaid a oedd yn gyn-fyfyrwyr, atebion busnes arloesol i roi sylw i鈥檙 heriau ym maes bwyd yn y Gogledd. Bu nifer o fyfyrwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn rhan o'r rhaglen eleni. 聽

Yn ystod y cyfnod presennol, bu rhaglen Hyfforddiant Arwain Arloesedd Prifysgol Bangor (BUILT) yn cydweithio 芒鈥檙 cwrs Menter trwy Ddylunio (EbD) sydd wedi鈥檌 hen sefydlu erbyn hyn. Mae鈥檔 dod 芒 myfyrwyr o wahanol bynciau ynghyd i gystadlu mewn timau amlddisgyblaethol i weithio ar her gymunedol.聽

Roedd her y semester hwn yn cyd-daro ag ymgyrch Bangor #Bangor25erbyn25, a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, i ymchwilio a deall bwyd yn y Gogledd, gan gynnwys cynhyrchu bwyd, cynaliadwyedd, a chyfleoedd i bobl gynhyrchu eu bwyd eu hunain. Cafodd y cyfranogwyr eu gwerthuso gan banel o feirniaid nodedig. 聽

Bu cystadlu brwd a daeth Trosi Coffi i鈥檙 amlwg fel y buddugwyr, gan ennill calonnau鈥檙 beirniaid gyda鈥檜 menter ddi-elw. Mynegodd Rhiannon Owen, myfyrwraig technolegau creadigol yn ei thrydedd flwyddyn yn yr ysgol, a oedd yn cynrychioli Trosi Coffi, ei llawenydd, gan ddweud,聽

Gwefr o鈥檙 mwyaf imi oedd ennill y wobr gyntaf. Bu'r profiad yn ysgogiad imi sefydlu menter gynaliadwy gyda'r nod o hybu siopau coffi, sy鈥檔 fodd i drawsnewid gwastraff coffi鈥檔 gynnyrch defnyddiol, megis pelenni coffi a sgwrwyr wyneb. Bu鈥檔 fraint cael bod yn rhan o鈥檙 rhaglen Menter trwy Ddylunio.

Rhiannon Owen,  myfyriwr BSc technolegau creadigol yn ei thrydedd flwyddyn

Cafodd y t卯m buddugol grant o 拢4,000 i ddatblygu eu busnes. Daeth Harvest Horizon, a greodd wasanaeth ac ap arloesol sy鈥檔 rhagweld cyfnodau鈥檙 cynhaeaf i ffermwyr trwy ddefnyddio synwyryddion tymheredd ar y ddaear, i鈥檙 ail safle, gan ennill 拢1,000 i hybu eu syniad arloesol.聽

Dywedodd Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio ac Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg:聽

Mae Menter trwy Ddylunio yn darparu profiad trochol sy'n arwain myfyrwyr trwy broses o gymhwyso systemau a meddylfryd dylunio. Myfyrwyr yn cychwyn ar daith ryfeddol. Maent yn prototeipio ac yn profi eu syniadau gyda mewnbwn gan randdeiliaid ac arbenigwyr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y defnyddwyr. Trwy weithio mewn partneriaeth 芒 BUILT, cafodd ein darpar entrepreneuriaid brofiad digyffelyb o wirioneddau masnachol. Hyfryd oedd gweld datblygiad y myfyrwyr a chlywed eu cyflwyniadau i feirniaid uchel eu parch. Eleni bu鈥檔 gyffrous canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd yn lleol ledled tirweddau syfrdanol y Gogledd.

Dr Andy Goodman,  Cyfarwyddwr Arloesi Pontio ac Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?