Virtual hand reaching for a shark

Gweithio gyda Meta ar fydoedd cefnforol realiti cymysg

Mae Dr Ll欧r ap Cenydd o Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn gweithio gyda鈥檙 cwmni technoleg o fri, Meta, ar nodweddion newydd a fydd ar gael yn fuan fel rhan o鈥檙 parc saffari dyfrol rhithrealiti .

Cyn hir bydd yr 'acwariwm realiti cymysg' newydd ar gyfer a ddatblygwyd gan Ll欧r ap Cenydd, arbenigwr graffeg cyfrifiadurol o Brifysgol Bangor, yn galluogi defnyddwyr i fynd un cam ymhellach a chael profiad realiti cymysg, sy'n debyg i realiti rhithwir ond lle gallwch chi weld y byd o'ch cwmpas o hyd trwy gamer芒u a synwyryddion dyfnder. Ar gyfer Ocean Rift, golyga hyn y gall defnyddwyr greu golygfeydd acwariwm o fywyd y m么r yn y mannau maen nhw鈥檔 byw eu bywydau beunyddiol trwy osod ffenestri rhithwir lle bynnag y dymunant.

Mae'n gyffrous iawn bod yn rhan o'r datblygiad nesaf hwn mewn technoleg drochi, sef realiti cymysg.

Rydym ni i gyd wedi dod i arfer ag apiau sy'n newid ein hamgylchedd neu sut rydym ni鈥檔 edrych, ac mae hyn yn parhau a鈥檙 cymylu parhaus hwnnw o fydoedd gwir a rhithwir trwy osod gwrthrychau digidol yn y byd go iawn.

Mae hyn yn creu profiadau trochi gwirioneddol, am hwyl, wrth gwrs, ond mae hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer addysgu a dysgu arloesol, a manteision iechyd a lles.

鈥淐aiff Ocean Rift eisoes ei ddefnyddio ar gyfer llesiant mewn cartrefi gofal, ac i dynnu sylw oddi wrth boen a phryder yn ystod pethau fel esgor, cyflwyno hylif i鈥檙 gwaed, poen cronig a thynnu gwaed mewn plant. Felly, defnyddir y dechnoleg hon mewn sawl ffurf er daioni ledled y byd.鈥

Ll欧r ap Cenydd

Dechreuodd Dr Ll欧r ap Cenydd weithio gyda Meta (Facebook bryd hynny) yn 2014 wrth i dechnolegau trochi newydd ddechrau blaguro. Mae wedi parhau i gydweithio 芒鈥檙 cwmni blaenllaw wrth ddatblygu pob cenhedlaeth newydd o glustffonau rhith-realiti.

鈥淢ae Ocean Rift wedi datblygu ochr yn ochr 芒鈥檙 diwydiant rhithrealiti, ac rydym ni wastad yn chwilio am ffyrdd o gyfuno nodweddion newydd wrth i dechnoleg ddatblygu. Un o brif nodau'r project hwn oedd arbrofi gyda thechnoleg realiti cymysg sydd ar y gorwel, ac 芒鈥檙 ffordd orau o gyfuno bydoedd gwir a rhithwir. Gwelsom fod arlliwio'r fideo o鈥檙 delweddau o鈥檆h cwmpas i gyd-fynd 芒 lliw y d诺r yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran pa mor gredadwy oedd pethau. Roedd effeithiau arbennig fel plygiant golau yn dawnsio, gwawl ffenestri a phelydrau golau yn ogystal 芒 sain 3D gofodol hefyd yn ein helpu i greu'r teimlad o fod mewn byd tanddwr."

Nod fawr arall oedd archwilio rhyngweithio mewn ystafell greu.

Mae animeiddiad seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial yn gwneud creaduriaid y m么r yn fwy credadwy a rhyngweithiol.

Maen nhw鈥檔 ymwybodol o si芒p yr ystafell, gan gynnwys ble mae'r ffenestri, ac fe allan nhw deilwra eu hymddygiad gan gynnwys dangos chwilfrydedd tuag at y gwyliwr. Gall defnyddwyr hefyd ryngweithio 芒'r creaduriaid trwy ollwng bwyd i'r d诺r ar gyfer y siarc mawr gwyn, a thaflu cylchoedd i'r morfilod beluga nofio drwyddynt. Gellir gwneud hyn i gyd trwy ystumiau llaw a gorchmynion llais yn hytrach na theclynnau rheoli.鈥

Mae clustffonau鈥檙 dyfodol fel y Meta Quest 3 a'r Vision Pro gan Apple yn rhoi realiti cymysg wrth galon profiad y defnyddiwr. Mewn post fideo ar Instagram yn ddiweddar, dangosodd Prif Swyddog Gweithredol Meta, Mark Zuckerberg, nodweddion realiti cymysg y Quest 3, gan gynnwys apiau fel acwariwm realiti cymysg Ocean Rift. Bydd y nodwedd ar gael yn yr ap yn ddiweddarach eleni.

Mae Dr Ll欧r ap Cenydd yn rhan o 鈥淟abordy Amgylcheddau Trochi鈥 Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor, sy鈥檔 ymchwilio gyda thechnoleg rhithrealiti, realiti estynedig a realiti cymysg). Cyhoeddir Ocean Rift gan Picselica Ltd.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?