CSEE EXPO 2023, posters

EXPO 2023 - Dathliad o waith project myfyrwyr

Cynhaliwyd yr EXPO Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddydd Mercher 15 Mawrth 2023. Cyflwynodd y myfyrwyr eu gwaith project blwyddyn olaf, a chafwyd sgyrsiau byr gan gwmn茂au lleol.听

EXPO 2023 yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

Cynhaliwyd yr EXPO Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddydd Mercher 15 Mawrth 2023. 鈥淢ae hwn yn ddigwyddiad arddangos,鈥 meddai鈥檙 Athro Jonathan C. Roberts (Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu ar gyfer yr Ysgol). 鈥淢ae鈥檙 EXPO yn rhoi cyfle i鈥檙 holl fyfyrwyr blwyddyn olaf gyflwyno eu project blwyddyn olaf, ac i gwmn茂au gyflwyno鈥檙 hyn maen nhw鈥檔 ei wneud.鈥 Eleni cynhaliwyd yr EXPO yn 狈别耻补诲诲鈥疨谤颈迟肠丑补谤诲-闯辞苍别蝉 sef prif neuadd y Brifysgol. Dangosodd y myfyrwyr eu gwaith project ar bosteri a gafodd eu harddangos yng nghanol y neuadd, tra bod cwmn茂au lleol yn arddangos o amgylch yr ochr. Ochr yn ochr 芒'r prif ddigwyddiad poster, cynhaliwyd rhaglen o sgyrsiau byrion hefyd. Eglurodd cwmn茂au lleol yr hyn a wnaethant, a chyflwynodd ychydig o staff yr ysgol eu hymchwil.听

Fe wnaeth Dr Dave Perkins (Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu) groesawu pawb a chyflwyno鈥檙 diwrnod.听听

Roedd yn wych croesawu cymaint o bobl. Roedd gennym ni fyfyrwyr trydedd flwyddyn, israddedigion eraill, llawer o鈥檔 myfyrwyr 么l-radd hyfforddedig, a degau o gwmn茂au.

Aeth Dave yn ei flaen i ddweud听听

Rwy鈥檔 achub ar y cyfle hwn i ddiolch i鈥檓 cydweithwyr: Dr Yanhua Hong sy鈥檔 rheoli modiwl project y drydedd flwyddyn, a Carwyn Edwards, sy鈥檔 Rheolwr Arloesi Digidol yn , am drefnu'r sgyrsiau byrion diwydiannol. Yn olaf, hoffwn gydnabod y myfyrwyr a weithiodd yn galed ar eu gwaith project, a鈥檙 myfyrwyr-wirfoddolwyr niferus a helpodd i sefydlu a datgymalu鈥檙 byrddau posteri.

Siaradodd yr Athro Roberts (cadeirydd y pwyllgor gwobrau a chydnabyddiaethau) ag enillwyr y gwobrau:

Rydw i wedi mwynhau鈥檙 gwaith project. Rydw i wedi bod yn dylunio ac yn datblygu System 鈥楨lectroporation鈥 i Drin Epidermolysis Bullosa (EB). Mae EB yn glefyd croen sy'n achosi i'r croen godi鈥檔 bothelli. Mae 鈥榚lectroporation鈥 yn dechneg o ddefnyddio maes trydanol i gynyddu athreiddedd y gellbilen i helpu cyffuriau i gael eu hamsugno'n haws. Rydw i wedi dylunio ac adeiladu dyluniad electrod prototeip. Roedd yr EXPO yn wych. Roedd yn fy ngalluogi i ddangos fy ngwaith. Mae鈥檔 anrhydedd derbyn y wobr hon, a diolch i鈥檙 pwyllgor adolygu am fy newis am y wobr hon.

Ms Zainab Almahrous,  BSc Electronic Engineering

Mae llawer o fyfyrwyr dan straen. Ond a allwn ni fodelu鈥檙 pwysau sydd ar fyfyrwyr? Dyma fan cychwyn fy mhroject. Rydw i wedi bod yn edrych yn benodol ar asesiadau ac wedi bod yn defnyddio fformiwla pwysau i fodelu鈥檙 pwysau sydd ar fyfyrwyr a delweddu'r canlyniadau. Gall yr adnodd ddangos sut mae鈥檙 pwysau鈥檔 amrywio ar fyfyrwyr sy鈥檔 awyddus (dechrau o flaen amser), y rhai sy鈥檔 gweithio鈥檔 gyson, ac i eraill sy鈥檔 dechrau鈥檔 hwyr (yn agos at y dyddiad cau) am eu gwaith asesu. Mi wnes i fwynhau鈥檙 EXPO. Roedd yn wych gweld yr holl fyfyrwyr eraill yn gweithio. Mi wnes i fwynhau鈥檙 sgyrsiau鈥檙 cwmn茂au hefyd.

Miss Sophie Jolley,  BSc Computer Science

Mae wedi bod yn bleser gweithio ar fy mhroject, ac mae鈥檔 anrhydedd gwirioneddol derbyn y wobr hon. Diolch i鈥檙 pwyllgor gwobrau am fy anrhydeddu 芒鈥檙 wobr hon. Ar gyfer fy mhroject unigol, rydw i wedi bod yn datblygu llyfr, gyda realiti estynedig integredig. Dychmygwch ddarllen llyfr a gweld y cymeriadau鈥檔 dod yn fyw, mewn 3D, ar y dudalen. Gallai'r cymeriadau siarad 芒 chi, rhyngweithio 芒 chi, ac ati. Dyma fy mhroject i. Rydw i wedi ysgrifennu stori fer ar chwedlau gwerin gogledd Cymru ac rydw i鈥檔 gweithio ar rai o'r cymeriadau. Yn amlwg, mae yna ddreigiau. Mae鈥檔 ffordd wych o ddefnyddio fy holl sgiliau o raglennu cyfrifiadurol, dylunio, adrodd straeon ac ati.

Mrs Rhiannon Owen,  BSc Creative Technologies

Ychwanegodd Dr Yanhua Hong (Uwch Ddarlithydd mewn Optoelectroneg, a threfnydd modiwl y project)听听

Roedd yn ddiwrnod gwych. Mi wnes i fwynhau siarad 芒鈥檙 myfyrwyr, clywed am eu gwaith project, a gwrando ar sgyrsiau鈥檙 cwmn茂au. Roedd gan lawer o gwmn茂au ddiddordeb mewn recriwtio myfyrwyr. Rydym yn gwybod am sawl myfyriwr sydd wedi cael gwahoddiad i ddigwyddiadau recriwtio, ar 么l cyfarfod 芒鈥檙 cwmn茂au. Dymunwn yn dda iddynt yn eu camau nesaf.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?