Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
2023 product design show

Dylunio'r Dyfodol: Sioe a Chynhadledd Dylunio Cynnyrch yn arddangos projectau myfyrwyr a sgyrsiau ysbrydoledig

Cynhaliodd Dylunio Cynnyrch ym Mangor eu Sioe Ddylunio a’u Cynhadledd flynyddol. Bu’r ddau ddigwyddiad dylunio rhyfeddol yn swyno cynulleidfaoedd ac yn dathlu dyfeisgarwch y myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd. Roedd y digwyddiadau, a gynhaliwyd yn Pontio, yn arddangos gwaith eithriadol myfyrwyr y radd Dylunio Cynnyrch ac roedd yn cynnwys sgyrsiau craff gan arbenigwyr blaenllaw o’r diwydiant.

Sioe a Chynhadledd Dylunio Cynnyrch yn arddangos projectau myfyrwyr a sgyrsiau ysbrydoledig

Roedd y sioe radd Dylunio Cynnyrch yn arddangos gwaith project rhyfeddol myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, a’r ail a’r drydedd, gan gynnig cipolwg ar eu gallu creadigol. Roedd yno gadair a gafodd ei saernïo'n ofalus iawn a phadl canŵ na ellir ei dorri, sefydlogwr ysdol, silffoedd atig pwrpasol, a dodrefn a harnais arloesol i anifeiliaid a chŵn, dangosai’r arddangosfeydd ymroddiad a meistrolaeth y myfyrwyr dros eu crefft. Yn ogystal, roedd y sioe’n cynnwys syniad arloesol i ailddatblygu canolfan myfyrwyr Bangor, o dan arweiniad cwmnïau sy'n cydweithio, a amlygai effaith eu dyluniadau yn y byd go iawn.Ìý

Ymysg projectau nodedig y myfyrwyr roedd giât leuad o’r flwyddyn 1af a wnaed o fetel, ac a ddatblygwyd o dan arweiniad y dylunydd Gerallt Evans. Roedd y dasg yn gyfle i’r myfyrwyr arddangos eu sgiliau mewn crefftwaith metel, gan arwain at greadigaethau syfrdanol a wthiai ffiniau’r dychymyg a dylunio.Ìý

Dywedodd un o’r myfyrwyr, Leanne Melia (myfyriwr yn ei hail flwyddyn ar BSc Dylunio Cynnyrch)

Roeddwn i wrth fy modd yn arddangos rhywfaint o'n gwaith project. Mewn un gwaith cwrs cawsom y dasg o ddod o hyd i ddefnyddiau amgen ar gyfer gwlân. Rwy'n falch o gyflwyno creadigaethau fel y bowlen wlân a'r clip gwregys ar gyfer tŵls. Mae gwlân yn ddeunydd amlbwrpas, a thrwy ein dyluniadau, y nod oedd herio hen syniadau ac amlygu’r potensial sydd iddo y tu hwnt i’r traddodiadol.

Roedd bod yn rhan o’r arddangosfa’n fodd imi i rannu fy mrwdfrydedd dros ddylunio arloesol. Fel myfyriwr yn yr ail flwyddyn, edrychaf ymlaen yn eiddgar at y cyfle i gyflwyno fy ngwaith y flwyddyn nesaf. Nid yn unig mae’r arddangosfa’n llwyfan i amlygu creadigrwydd a sgiliau technegol myfyrwyr mae hefyd yn gyfle i gyfrannu at y gymuned ddylunio fywiog ym Mhrifysgol Bangor

Leanne Melia,  myfyriwr yn ei hail flwyddyn ar BSc Dylunio Cynnyrch

Talk Design Live 2023

I gyd-fynd â'r sioe radd, daeth cynhadledd "Talk Design Live 2023" â siaradwyr dylanwadol ynghyd a rannodd eu syniadau a'u profiadau gyda'r gynulleidfa. Ymhlith y siaradwyr nodedig oedd Jo Barnard, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol cwmni ymgynghori dylunio ac arloesi diwydiannol Morrama, Cath Aran, Storïwraig ddwyieithog gyda phrofiad helaeth o berfformio theatrig. Croesawyd dau gyn-fyfyriwr yn ôl fel siaradwyr, sef Luke Schofield sy’n ddylunydd cynnyrch arweiniol yn Harrison Spinks ac Olivia Kavanagh sy’n rheoli cysylltiadau marchnata ac ysgolion yng Ngholeg Xaverian, a Sam Gwilt, dylunydd yn asiantaeth ddylunio Layer sy‘n creu dipyn o stŵr ar y cyfryngau cymdeithasol.Ìý

Roedd y gynhadledd yn llwyfan i gynnal trafodaethau ar y tueddiadau dylunio, y datblygiadau technolegol, a’r gyrfaoedd diweddaraf mewn dylunio.Ìý

Wrth sôn am y digwyddiadau, roedd, Mr Peredur Williams, darlithydd Dylunio Cynnyrch, yn falch o gyflawniadau'r myfyrwyr a llwyddiant cyffredinol yr arddangosfa ddylunio a'r gynhadledd.

Rydym yn ymroddedig i feithrin creadigrwydd a rhoi'r offer angenrheidiol i’r myfyrwyr ffynnu yn y diwydiant dylunio,

Roedd y sioe radd Dylunio Cynnyrch a chynhadledd ‘talk design live 2023’ yn llwyfannau rhyfeddol i’r myfyrwyr arddangos eu doniau ac i’r cynadleddwyr gael cipolwg gwerthfawr gan arweinwyr y diwydiant.

Mr Peredur Williams,  Darlithydd Dylunio Cynnyrch

Am fwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Peredur Williams neu Aled Willians, neu i astudio Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor gweler ein cyrsiau, ein tudalen neu ein sianeli .Ìý

Golygydd: J.C.Roberts