IEEE VIS 2022 Attendees

Delweddu hardd - cynwysoldeb ac amrywiaeth yng nghynhadledd hybrid Delweddu data 2022

Daeth cynhadledd VIS 2022 yr IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electronig) ag academyddion ac ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o'r byd.听Roedd cyfranogwyr ar y safle yn Oklahoma City, eraill yn cyfranogi鈥檔 fyw ar-lein, a lleoedd am ddim i annog cynwysoldeb ac amrywiaeth.

Mae yn gynhadledd flynyddol ar ddelweddu data. Mae鈥檔 gynhadledd sy鈥檔 cael ei threfnu gan wirfoddolwyr yn cynrychioli鈥檙 (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electronig). Eleni, cynhaliwyd VIS (y Gynhadledd Delweddu a Dadansoddeg Weledol) o 16 i 21 Hydref. Dyma oedd y tro cyntaf iddi gael ei threfnu fel digwyddiad hybrid, gyda chyfranogwyr ar y safle ac eraill yn cyfrannu o bell drwy ffrwd fyw. Cynhaliwyd yr elfen ar y safle yng Ngwesty Omni Oklahoma City yn Oklahoma City, Oklahoma, UDA. Rhoddodd elfen rithiol y gynhadledd gyfle i'r gymuned ddelweddu a dadansoddeg weledol gymryd rhan ar draws y byd.

Hon oedd y gynhadledd orau erioed. Rwyf wedi bod yn mynd i'r gynhadledd ddelweddu flynyddol ers blynyddoedd lawer, ond eleni roedd hyd yn oed yn well nag arfer: gyda chyfranogiad ar y safle ynghyd 芒 chyfranogwyr yn cymryd rhan yn fyw yn rhithiol. Yn ogystal, gyda'r tocyn 'amrywiaeth a chynwysoldeb rhithiol', gallai nifer fawr o bobl gymryd rhan am ddim o bedwar ban byd. Mae hynny鈥檔 wych. Rwy鈥檔 deall fod tua 200 o bobl wedi cymryd rhan na fyddai wedi gallu gwneud hynny fel arall.

Jonathan C. Roberts,  Athro mewn Delweddu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

Ychwanegodd yr Athro Roberts 鈥淎r ben hynny, cynhaliodd y trefnwyr raglen i blant o'r enw `VISKids'. Rhoddodd y rhaglen hon grantiau i gynorthwyo pobl i gymryd rhan gyda phlant ifanc, talu am ofal i blant, ac am deithio ac yn y blaen, a chynhaliodd y gr诺p hefyd weithgareddau, trafodaethau a sesiynau chwarae ar gyfer y plant a'u rhieni. Am ffordd hyfryd o gynnwys mwy o ymchwilwyr, sydd 芒 phlant ifanc.鈥

Jonathan C. Roberts,  Athro mewn Delweddu

Roedd Jonathan Roberts ar y safle yn Oklahoma, ond cyfranogodd academyddion eraill, ac ymchwilwyr o'r brifysgol yn rhithiol, gan gynnwys Dr Panagiotis (Panos) Ritsos a Dr Pete Butcher.听

顿测飞别诲辞诲诲听Dr Ritsos聽(Darlithydd mewn Delweddu)聽

Roedd yn brofiad rhyfeddol. Mwynheais y gynhadledd eleni. Er ei bod yn drueni na allwn fod yn bresennol yn y cnawd, roedd yn wych clywed yr holl gyflwyniadau ar-lein.鈥 Aeth ymlaen i ddweud, 鈥淔e wnaethon ni godi sgrin fawr, a gwylio sawl cyflwyniad gyda'n gilydd fel t卯m. Wnes i fwynhau鈥檙 brif ddarlith yn arbennig. Siaradodd Dr Marti Hearst am ddelweddu, testun a geiriau llafar鈥澛

Roedd Dr Pete Butcher (ymchwil 么l-ddoethurol mewn delweddu yn y ) yn bresennol yn y sesiynau ar ddelweddu trochi, gramadegau delweddu, dimensiynau data a dylunio delweddu. Eglurodd Pete 鈥淲nes i fwynhau鈥檙 cyflwyniad o bapur Andrew McNutt o鈥檙 enw 鈥楴o Grammar to Rule Them All: A Survey of JSON-style DSLs for Visualization鈥 yn fawr iawn, ac roedd yn cynnwys ein teclyn: . Mae VRIA yn fframwaith ar y we ar gyfer delweddu trochi. Dechreuodd y teclyn fel cyfraniad ar gyfer fy PhD, ac rydym wedi parhau i ddatblygu鈥檙 fframwaith yma ym Mangor. Roedd yn wych gweld arolwg McNutt, a oedd yn cynnwys ein teclyn ni ac eraill.鈥 Ychwanegodd Pete, 鈥淏yddaf bob amser yn mwynhau cynhadledd VIS yr IEEE. Mae ymdeimlad o gymuned yno na cheir mohoni鈥檔 aml mewn 聽lleoliadau erailll.鈥

Bu'r ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn ymwneud 芒 phum gwahanol weithgaredd ar gyfer y gynhadledd.听

  • Roedd Jonathan yn gyd-gadeirydd y rhaglen Papurau Byr, a welodd 32 o bapurau鈥檔 cael eu cyhoeddi.听
  • Jonathan oedd cadeirydd y bwrdd Prawf Amser (ToT). Mae'r bwrdd hwn yn cydnabod cyhoeddiadau ymchwil o gynadleddau blaenorol sy'n dal yn berthnasol ac yn ddefnyddiol heddiw. Ystyriwyd papurau o gynhadledd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Dadansoddeg Weledol yr IEEE 2012. Dyfarnwyd gwobr ToT 2022 i鈥檙 papur 鈥淓nterprise Data Analysis and Visualization: An Interview 麻豆传媒高清版鈥 gan Sean Kandel, Andreas Paepcke, Joseph M. Hellerstein, Jeffrey Heer.听
  • Eisteddodd Jonathan ar y pwyllgor i benderfynu ar Wobr Traethawd Hir Doethuriaeth VIS orau 2022, a ddyfernir gan Gymuned Dechnegol Delweddu a Graffeg (VGTC) Cymdeithas Gyfrifiadurol yr IEEE.
  • Eisteddodd Panos ar bwyllgor rhaglen VIS yr IEEE, a adolygodd y papurau llawn.
  • Cyflwynodd Jonathan bapur o'r enw 鈥溾, a gyhoeddwyd yn y gweithdy .

Roedd Oklahoma City yn hardd iawn, ac felly hefyd y delweddu鈥

meddai'r Athro Roberts. Dywedodd ymhellach

Cerddais drwy'r ystafell bosteri cyn y sesiwn bosteri gyda'r hwyr. Roedd yno enghreifftiau anhygoel a hardd o ddelweddu data. Delweddau o jetlifau, fortecsau, delweddu tablaidd lliwgar, i enwi ond ychydig. Ac roedd yn wych gweld ein llyfr yn cael ei arddangos ar stondin Springer. Y tu allan, roedd y tywydd yn heulog ac yn boeth, gyda nifer o arddangosfeydd Calan Gaeaf geometrig mawr, a machlud haul ysblennydd i ddod 芒'r gynhadledd i ben. Cyfarf没m 芒 nifer o ymchwilwyr newydd, dechrau ar gydweithrediadau newydd, a chefais amser pleserus iawn. Da iawn VIS 2022鈥澛

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?