Xray background image

Datblygu Efelychiadau Pelydr-X: Iwan Mitchell yn Ennill Gwobr Effaith CoSeC

Mae Iwan Mitchell, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Effaith CoSeC 2023 am ei waith ar efelychu a delweddu pelydrau-X. Dyfarnwyd y wobr yn y cyfarfod cyntaf ar gyfer defnyddwyr CIL a drefnwyd gan CCPi, ac fe鈥檌 cyflwynwyd gan Gyfarwyddwr CoSeC, Dr Barbara Montanari.听

Yn ystod cyfarfod cyntaf defnyddwyr Core Imaging Library (CIL), a drefnwyd gan CCPi (The Collaborative Computational Project in Tomographic Imaging), dyfarnwyd Gwobr Effaith y Computational Science Centre for Research Communities (CoSeC) 2023 i Iwan Mitchell o Brifysgol Bangor am ei waith arloesol ym maes cyfrifiadura gwyddonol. Fframwaith cod agored Python yw CIL ar gyfer delweddu tomograffig gyda phwyslais arbennig ar ail-greu setiau data heriol. Roedd y seremoni wobrwyo, a arweiniwyd gan Dr Barbara Montanari, sef Cyfarwyddwr CoSeC, yn rhan o ddiwrnod a neilltuwyd i rannu mewnwelediadau a datblygiadau yn y maes delweddu cyfrifiannol. Yn ddiweddarach yr un diwrnod, cafodd Iwan gyfle i gyflwyno ei waith, 鈥淐reating Functional Digital Shadows of X-ray Systems鈥, i鈥檙 gynulleidfa. Yn y sgwrs esboniodd gymhlethdodau Tomograffeg Gyfrifiadurol Pelydr-X (XCT).

Mae Iwan Mitchell yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac mae鈥檔 cael ei ariannu gan yr UKRI Centre for Doctoral Training in . Mae ymchwil Mitchell yn canolbwyntio ar ddatblygu algorithmau a systemau cyfrifiadurol arloesol mewn tomograffeg gyfrifiadurol pelydr-X (XCT) ac mae wedi bod yn ymchwilio i dechnegau cysgodi ar gyfer XCT, gyda'r nod o ail-greu sganwyr pelydr-X yn rhithiol, gan gynnwys eu hymddygiad a'u diffygion. Mae ei waith yn hanfodol i oresgyn yr heriau a gyflwynir gan ddulliau efelychu pelydr-X cyfrifiadurol traddodiadol, sy'n cymryd llawer o amser ac sy'n aml yn gofyn am feddalwedd ddrud. Aeth ati i greu WebCT, sef meddalwedd porwr gwe hawdd ei defnyddio sy鈥檔 efelychu ac ail-greu pelydr-X ac sy鈥檔 darparu rhyngwyneb mwy hygyrch i ymchwilwyr, gan leihau'r rhwystrau i fynediad i faes profion annistrywiol pelydr-X (NDT).听

Mae effaith ymchwil Mitchell yn ymestyn y tu hwnt i hyfforddiant a chwestiynau dichonoldeb. Trwy gynhyrchu Efeilliaid Digidol o sganwyr XCT diwydiannol, mae wedi agor y porth ar gyfer rhaglenni Dysgu Peirianyddol wrth optimeiddio dylunio gweithgynhyrchu. Mae Gefeilliaid Digidol, ynghyd 芒 llyfrgell feddalwedd gVirtualXRay (gVXR) a CIL y CCPi, yn galluogi creu setiau data tomograffig mewn eiliadau, gan hwyluso hyfforddiant modelau Dysgu Peirianyddol ar gyfer canfod diffygion ac optimeiddio gweithgynhyrchu.听

Dywedodd Dr Franck Vidal (cyn Ddarllenydd ym Mhrifysgol Bangor a Gwyddonydd yn y Science and Technology Facilities Council), gan gydnabod cyflawniad Mitchell,

Mae ymroddiad Iwan a鈥檙 hyn y mae wedi鈥檌 gyflawni yn enghraifft o ysbryd Gwobr Effaith CoSeC. Mae ei waith nid yn unig yn gwthio ffiniau cyfrifiadura gwyddonol ond hefyd yn llawn addewid aruthrol ar gyfer dyfodol delweddu pelydr-X. Hoffem longyfarch Iwan am yr anrhydedd haeddiannol hon ac edrychwn ymlaen at weld effaith barhaus ei gyfraniadau yn y gymuned wyddonol.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?