Photograph of Aberystwyth, the sea and Welsh Coast., from Constitution hill

Cyflwyno papurau yng Nghynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol 2023

Cynhaliwyd y gynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 14 a 15 Medi 2023. Daeth cynrychiolwyr o bob cwr o'r byd i鈥檙 gynhadledd. Cyflwynodd academyddion a myfyrwyr eu gwaith yn y gynhadledd a buont yn trafod cyfeiriadau newydd ym maes cyfrifiadura gweledol.

Mae cyfrifiadura gweledol yn faes cyffrous ac mae'n chwarae rhan allweddol yn helpu pobl ddeall setiau data mawr a chymhleth, neu ddefnyddio鈥檙 system weledol ddynol i alluogi pobl i fwynhau lluniau hardd a gynhyrchir gan gyfrifiaduron. Mae cyfrifiadura gweledol yn defnyddio graffeg gyfrifiadurol, i helpu pobl greu trosolwg o'u data, ac mae鈥檔 galluogi pobl i ddeall lluniau o ddata鈥檔 weledol, a fyddai鈥檔 anodd eu deall fel rheol.

Cynhaliwyd cynhadledd 2023 ym Mhrifysgol Aberystwyth, o dan ofal Dr Helen Miles. Trefnwyd y rhaglen gan Dr David Hunter (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Peter Vangorp (Prifysgol Utrecht).

Cyflwynodd ymchwilwyr a myfyrwyr o鈥檙 Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg ddau bapur byr a dau bapur poster, fel a ganlyn:

  • Immersive WebXR Data Visualisation Tool. Gan E. G. Ogbonda聽
  • Interweaving Data and Stories: A Case 麻豆传媒高清版 on Unveiling the Human Dimension of U.S. Refugee Movements through Narrative Visualisation. By E. G. Ogbonda, J. C. Roberts, and P. W. S. Butcher聽

Papurau poster:

  • Focused Design and Problem Framing in Visualisation 鈥 Developing the ColloCaid Collocation Editor. By J. C. Roberts, P. W. S. Butcher, G. Rees, R. Lew, N. Sharma, and A. Frankenberg-Garcia聽
  • Crafting Visual Narratives: A Case 麻豆传媒高清版 on Developing an Engaging Visualisation Poster Using U.S. Immigration Data. By E. G. Ogbonda, P. W. S. Butcher, and J. C. Roberts

Roedd yn anrhydedd aruthrol cyflwyno fy ngwaith. Mwynheais y gynhadledd. Roedd yn brofiad anhygoel cwrdd 芒 phobl o bob cwr o鈥檙 byd. Bu鈥檔 fodd i ehangu fy nghanfyddiad i o effaith fyd-eang y technolegau gweledol.

Glory Ogbonda,  Dywedodd Glory Ogbonda, myfyriwr Gradd Meistr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg,

Roedd gan y gynhadledd ddau brif siaradwr. Bu Dr Rafa艂 Mantiuk o Brifysgol Caergrawnt, a Phrifysgol Bangor cyn hynny, yn siarad yngl欧n 芒 gwaith yn High Dynamic Range a sut mae datblygu technoleg i alluogi pobl i gipio ac atgynhyrchu modelau a delweddau graffeg gyfrifiadurol o ansawdd uchel. Yn yr ail brif araith, bu Dr. Mai Elshehaly, academydd o City University, yn traddodi sgwrs am ddelweddu data a sut mae gweithio gyda llunwyr polisi i ddefnyddio delweddu i'w helpu nhw wneud penderfyniadau. Teitl ei sgwrs hithau oedd 鈥淔rom Data to Policy and Back 鈥 The Hidden Role of Visualisation in Decision-Making".

Mae'n arferol cynnal cinio a noson gymdeithasol yn y gynhadledd. Eleni, trefnodd Prifysgol Aberystwyth daith ar Reilffordd Craig-glais Aberystwyth. Saif Craig-glais ym mhen gogleddol promen芒d Aberystwyth. Mae'n codi鈥檔 drawiadol o'r m么r. Mae gan bobl y dewis i gerdded i fyny'r llwybr gwyntog, neu deithio ar reilffordd Craig-glais. Dywedodd yr Athro Roberts 鈥淓r bod y llyfryn yn disgrifio 鈥榞olygfeydd ysblennydd a di-dor o Aberystwyth, Bae Ceredigion ac ar ddiwrnod braf, 26 o gopaon mynyddoedd Cymru鈥 ni allem weld fawr ddim, oherwydd bu鈥檔 bwrw glaw鈥檔 ddidostur. Ond bu鈥檙 cwmni, y miri a鈥檙 bwyd yn fodd i wneud iawn am y gwlybaniaeth y tu allan鈥.

Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts:聽

Roedd yn hyfryd cwrdd 芒 hen gydweithwyr a gwneud ffrindiau newydd, a gwych oedd cael cyflwyno ein gwaith ar聽聽(golygydd testun cydleoli ac offeryn delweddu), y mae ganddo bellach dros 10,000 o ddefnyddwyr. Hefyd, roedd yn wych cael set o arddangosiadau gan d卯m Aberystwyth. Rwy'n eu llongyfarch ar gyflwyno鈥檙 demos a dangos eu gwaith inni. Daeth y robotiaid, y ffugiad o鈥檙 Mars rover, amrywiol gamer芒u ac arddangosiadau Rhithrealiti 芒鈥檙 digwyddiad gwych i ben.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?