Enfys dros Prif Adeilad Prifysgol 麻豆传媒高清版

Cofio'r Athro Nigel W. John (7 Hydref, 1963 - 14 Hydref, 2023)

Cofiwn yr Athro Nigel W John, a fu farw鈥檔 sydyn ddydd Sadwrn 14 Hydref 2023, wythnos ar 么l dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.

Bu farw鈥檙 Athro Nigel W. John yn sydyn ar 14 Hydref. Rydym yn cofio鈥檔 arbennig am ei wraig a'i deulu. Bu Nigel yn Athro ym Mhrifysgol Bangor, ac yn aelod gweithgar o鈥檙 Ysgol Cyfrifiadureg (fel y鈥檌 gelwid bryd hynny) rhwng 2003 a 2015, pan dderbyniodd gadair ym Mhrifysgol Caer. Roedd Nigel yn ffrind agos i lawer o academyddion sy'n gweithio ym Mangor, a bydd colled fawr ar ei 么l.

Ganed Nigel ar 7 Hydref 1963 yng Ng诺yr, Abertawe. Aeth i Brifysgol Caerfaddon i astudio Mathemateg a Chyfrifiadureg, a pharhau 芒鈥檌 astudiaethau dan oruchwyliaeth agos yr Athro Phil Willis, gan gyflwyno ei draethawd PhD, o鈥檙 enw 鈥淭echniques for Planning Computer Animation鈥, yn 1989. Roedd gan Nigel ddiddordeb mewn graffeg gyfrifiadurol erioed, ac yn falch o'r animeiddiadau yr oedd wedi'u creu ar gyfer ei waith PhD. Cyhoeddodd ei bapur cyntaf yn 7fed cynhadledd flynyddol Eurographics UK Chapter ym mis Mawrth 1989, ac ers hynny bu鈥檙 Eurographics Association a鈥檙 UK Chapter of Eurographics (EGUK) yn agos iawn at ei galon.听

Ar 么l cwblhau ei PhD, aeth Nigel ymlaen i weithio gydag AstraZeneca Pharmaceuticals, Silicon Graphics Inc, ac ymunodd 芒鈥檙 Manchester Visualisation Centre, a arweiniwyd ar y pryd gan yr Athro Terry Hewitt.听

Yn 2003 symudodd Nigel i Fangor a dod yn Athro Cyfrifiadureg yn yr Ysgol Cyfrifiadureg (fel y鈥檌 gelwid bryd hynny). Sefydlodd gr诺p ymchwil cyfrifiadureg o'r enw Delweddu Perfformiad Uchel a Graffeg Feddygol (HPVMG). Nigel oedd yn arwain y gr诺p ymchwil hwn nes iddo adael Bangor yn 2015. Mae鈥檙 gr诺p hwn yn parhau heddiw, gyda chylch gorchwyl sydd wedi鈥檌 addasu a鈥檌 ehangu ychydig, dan arweiniad yr Athro Jonathan C. Roberts. Yn ystod ei amser ym Mangor, am gyfnod byr bu Nigel yn bennaeth dros dro yr ysgol, a bu鈥檔 Gyfarwyddwr Ymchwil. Helpodd Nigel i ddatblygu ymchwil y gr诺p a gyrfaoedd y bobl oedd yn rhan ohono. Bu iddo feithrin a chryfhau sgiliau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ym meysydd graffeg gyfrifiadurol, delweddu, hapteg, prosesu delweddau a rhithrealiti.

Roedd ymchwil Nigel yn canolbwyntio ar ddefnyddio graffeg gyfrifiadurol, rhithrealiti, ac offerynnau haptig (adborth gorfodol a dyfeisiau diriaethol eraill) i greu systemau hyfforddi meddygol rhyngweithiol. Cydweithiodd ag ysbytai lleol, athrawon yn Imperial College London a Phrifysgol Lerpwl i enwi dim ond rhai. Cafodd ymrwymiad Nigel i ymchwil feddygol, a鈥檙 datblygiadau a wnaethpwyd ganddo yn y maes hwnnw, eu cydnabod yn 2006, a bu i Nigel dderbyn Gwobr Satava, a ddyfernir i 鈥渦nigolyn neu gr诺p ymchwil sy'n dangos ymrwymiad eithriadol i wella gofal iechyd trwy dechnoleg uwch鈥. Roedd gwaith Nigel mewn hapteg a graffeg feddygol yn torri tir newydd ac enillodd lawer o wobrau. Datblygodd Nigel a鈥檌 gydweithwyr y system ImaGINe-S: Imaging Guided Interventional Needle Simulation, sef system i hyfforddi ymarferwyr mewn gweithdrefnau penodol ar gyfer gosod nodwyddau, a dyfarnwyd yr ail wobr i Nigel a鈥檌 gyd-ymchwilwyr am y gwaith hwnnw yng Ngwobr Eurographics Dirk Bartz yn 2009. Bu Nigel hefyd yn gadeirydd pwyllgor dyfarnu Gwobr Dirk Bartz am nifer o flynyddoedd. Roedd ei waith yn cynnwys Efelychydd Nodwydd Ymyriadol dan Arweiniad Delweddau, Pigiadau Nodwyddau dan Arweiniad Uwchsain, delweddu cyfaint 3D mewn theatrau llawdriniaethol, Realiti Estynedig ar gyfer Addysg Anatomegol, Efelychu Techneg Seldinger, ac Amgylchedd Rhithwir ar gyfer Sgiliau Rygbi.

Helpodd Nigel i sefydlu Sefydliad Ymchwil Cyfrifiadureg Gweledol Cymru Gyfan, a bu鈥檔 gyfarwyddwr y sefydliad hwnnw rhwng 2007-2015. Cydweithrediad oedd y sefydliad rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe, a sbardunodd hynny lawer o gydweithrediadau eraill o鈥檙 fath mewn Cyfrifiadura Perfformiad Uchel ac uwchgyfrifiadura ledled Cymru. Mae gwaddol y cydweithrediadau hyn yn parhau, gan gynnwys ym meysydd dadansoddi data, Deallusrwydd Artiffisial, delweddu a chyfrifiadureg gweledol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Deithio Churchill i Nigel yn 2013, a galluogodd hynny iddo wneud taith ymchwil estynedig i Awstralia a Singapore, gan ymchwilio ac ymweld ag ysbytai a oedd yn datblygu dyfeisiau hyfforddi meddygol rhithwir ac offer graffeg cyfrifiadurol addysgol.

Fe wnaeth ymrwymiad parhaus Nigel i'r gymuned ymchwil, a'i gysylltiad ag Eurographics, barhau tra bu ym Mangor. Bu鈥檔 gyd-gadeirydd cynhadledd Eurographics 2008, a gynhaliwyd yn Creta, a chwaraeodd ran allweddol wrth ddod 芒 chynhadledd flynyddol Eurographics i鈥檙 Deyrnas Unedig (am y tro cyntaf yn 2001, pan oedd ym Manceinion) ond yn arbennig yn 2011, pan ddaeth cynhadledd Eurographics i Fangor a鈥檌 chynnal yn Venue Cymru, Llandudno, lle bu鈥檙 Athro Roberts yn arwain y gynhadledd fel cadeirydd cyffredinol. 听Daeth Nigel yn Gymrawd Eurographics yn 2009 ac fe鈥檌 hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (academi genedlaethol y celfyddydau a鈥檙 gwyddorau) yn 2014.听

Symudodd Nigel i Brifysgol Caer yn 2015, lle parhaodd i fod yn weithgar gydag Eurographics, a daeth 芒 chyfres o weithdai Cyfrifiadureg Gweledol ar gyfer Bioleg a Meddygaeth (VCBM) i Gaer yn 2015. Dyfarnwyd doethuriaeth uwch i Nigel gan Brifysgol Caer yn 2021, a chafodd ei chyflwyno iddo yn 2022.

Roedd Nigel yn seiclwr brwd ac yn gefnogwr eiddgar o d卯m rygbi鈥檙 undeb Cymru a th卯m rhanbarthol y Gweilch. Roedd wrth ei fodd 芒 phinbel, snwcer, gemau bwrdd, hedfan barcud a ffuglen wyddonol. Roedd yn chwaraewr Petanque brwd, gan wahodd eraill i chwarae gydag ef.

Dywedodd yr Athro Jonathan C. Roberts (athro mewn delweddu) 鈥淏yddaf yn gweld colli Nigel. Roedd nid yn unig yn ffrind gwych, ond roedd hefyd yn gydweithiwr ymchwil annwyl. Roeddwn yn adnabod Nigel i ddechrau trwy fynychu cynadleddau Eurographics, a chwaraeodd ran allweddol wrth ddylanwadu ar fy newis i ddod i Fangor. Roedd yn garedig ac yn hael, bob amser yn annog pobl eraill, a bob amser eisiau helpu eraill i ddatblygu eu gyrfaoedd a鈥檜 diddordebau eu hunain.鈥

Cynhelir angladd yr Athro Nigel John DSc FEG FLSW ddydd Gwener 10 Tachwedd. Bydd y gwasanaeth angladd am 2pm yn Amlosgfa Blacon, Caer CH1 5BB i deulu, ffrindiau agos a chydweithwyr academaidd, ac yna cynhelir gwasanaeth diolchgarwch am 2:45pm yn eglwys All Saints, 91 Hoole Road, Caer CH2 3HZ gyda lluniaeth wedi hynny.

Blodau gan y teulu鈥檔 unig, rhoddion i anrhydeddu gwaith Nigel fel llywodraethwr ysgolion i鈥檙 Chester Schools Christian Work ().

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?