Bu Albert Rees
Bu Albert Rees yn aelod o'r staff technegol ac ymchwil drwy gydol gyrfa hir yn Stryd y Deon. Bu鈥檙 Athro Emeritws Martin Taylor yn gweithio鈥檔 agos gydag Albert am ddegawdau lawer gan ddechrau ym 1966-67 pan oedd yn fyfyriwr israddedig ac Albert yn dechnegydd a oruchwyliai un o labordai project y radd anrhydedd yn adeilad gwreiddiol yr Adran Electroneg. Y flwyddyn honno fe helpodd Martin i wneud transistor MOS llwyddiannus -a hynny heb ystafell l芒n! Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, ehangodd yr adran ac ychwanegu Microsgop Electron Sganio Caergrawnt a Dadansoddwr Microprob JEOL at y Microsgop Electron Trawsyrrol a oedd yno鈥檔 barod. Bu Albert yn goruchwylio'r offerynnau hyn, gan ddarparu nid yn unig cymorth ymchwil ond hefyd hyfforddi staff ymchwil a myfyrwyr i ddefnyddio'r hyn a oedd ar y pryd yn ddarnau blaengar o offer. Yn weddol fuan ar 么l gosod y cyfarpar, roedd yr offer yn ganolbwynt i ymweliad Dug Caeredin ar y pryd 芒'r adran.聽聽
Wrth i Ficrosgopau Grym Atomig a Microsgopau Raman ddod ar gael, roedd 'parth' ac arbenigedd Albert yn ymestyn i'r offerynnau dadansoddol newydd hyn. Yn ystod ei ddegawdau lawer yn y swydd, bu Albert yn cydweithio ac yn cefnogi ymchwil llawer o aelodau staff academaidd a hyd yn oed mwy o fyfyrwyr israddedig ac 么l-radd, yn ogystal ag ymchwilwyr 么l-ddoethurol ac ymchwilwyr gwadd.聽聽
Roedd Albert yn bleser gweithio ag ef. Roedd wastad yn siriol a chefnogol. Ag yntau鈥檔 aelod o fand pres a jazz bu'n ychwanegiad gwych i'r adloniant yn y dyddiau pan gynhelid part茂on Nadolig yn Ystafell Gyffredin y Myfyrwyr, yn enwedig gyda鈥檌 gerddoriaeth tromb么n a jazz. Roedd Albert hefyd yn ffotograffydd ardderchog a phan ymddeolodd technegydd ffotograffiaeth ymroddedig yr adran, ysgwyddodd Albert y dyletswyddau hynny hefyd. Yn y swyddogaeth hon tynnodd luniau o genedlaethau lawer o fyfyrwyr y mae eu hwynebau wedi'u cofnodi ar gyfer y dyfodol yn ffeiliau'r adran.聽聽
Gwasanaeth cyhoeddus yn