Diwrnod i ddathlu `dyma beirianneg`
Cynhaliwyd y gweithdy trwsio’r blaned ar y 1af o Dachwedd 2022. Cynhaliwyd y digwyddiad diwrnod o hyd i ddathlu '' 2022. Nod yr ymgyrch, a redir gan yr , gyda’r ysgol yn bartner, yw helpu i ddathlu peirianneg, a herio hen gamsyniadau Ěýa safbwyntiau hen ffasiwn o beth yw peirianneg.Ěý
'Peirianneg yw hyn'
DywedoddĚýDr Daniel RobertsĚý(Darlithydd mewn Peirianneg Electronig, ac arweinydd Cyswllt Myfyrwyr) a helpodd i drefnu’r digwyddiad:
Mae’r Wythnos Ddarllen yn rhoi cyfle i ni, fel ysgol, wneud pethau gwahanol a dod â’r disgyblaethau lluosog yn yr ysgol at ei gilydd. Roedd y digwyddiad hwn yn herio pawb i feddwl am yr hinsawdd, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd.ĚýBraf oedd trefnu’r digwyddiad hwn a gwell fyth oedd trefnu’r digwyddiad i ddathlu pobl ym myd peirianneg ac i gefnogi’r ymgyrch `Dyma Beirianneg’, i herio ein hunain, ac i feddwl am newid hinsawdd.
Dr Iestyn Pierce yn cyflwyno'r digwyddiad
Cyfranogwyr yn gweithio ar her Atgyweirio'r Blaned
Y Gweithdy Trwsio Planedau trwy brofiad
Cafodd y 'Gweithdy Trwsio Planedau' trwy brofiad ei ddylunio a'i gadeirio gan Chris Walker, hwylusydd a darlithydd sy'n pontio byd busnes a'r byd academaidd. Dechreuodd Chris Walker trwy egluro bod yr her o wib-ddylunio atebion arloesol wedi'i hysgogi gan sut y gallwn ni 'drwsio'r blaned'.
Dywedodd yĚýDr Iestyn PierceĚý(Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig), a groesawodd bawb i’r gweithdy:Ěý
Roedd yn wych gweld sut y bu i bobl drafod y syniadau gwahanol a dylunio datrysiadau a allai helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd.ĚýAr ddiwedd y dydd, cyflwynodd pobl eu syniadau mewn fideo byr gan esbonio’u cysyniadau. Mae goresgyn problemau, lliniaru newid hinsawdd, a meddwl am faterion cynaliadwyedd, yn heriau enfawr. Materion yw’r rhain sydd wrth galon cenhadaeth y Brifysgol. Roedd yn wych gweld pawb yn ymroi i’r her; edrychaf ymlaen at weld pen draw’r syniadau hyn!
Rhoddwyd chwe awr i’r cyfranogwyr weithio ar eu syniadau, a denodd y digwyddiad fyfyrwyr o bob rhan o’r ysgol – yn israddedigion, ôl-raddedigion a phrentisiaid gradd o faes cyfrifiadureg, peirianneg electronig a dylunio cynnyrch.
Mi ges i ddiwrnod wrth fy modd. Roedd yn wych cyfarfod a sgwrsio ag eneidiau hoff cytĂ»n.ĚýĚýFel myfyriwr sy’n brentis gradd, rwy’n gweithio i M-SParc wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Gallaf weld cyfleoedd enfawr i ddatblygu’r syniadau hyn ymhellach. Yn enwedig gan mai cenhadaeth M-SParc yw helpu pobl i arloesi a helpu creu Cymru fwy cynaliadwy.
Aeth y cyfranogwyr i’r afael â’r her gyda brwdfrydedd
Dywedodd ĚýPramod (Paul) Kusuma, myfyriwr sy'n astudio ar gyfer ei MSc mewn Gwyddor Data Uwch
Cefais brofiad dysgu gwych ddoe yn y gweithdy trwsio’r blaned. Dw i’n falch i mi fynd. Dysgais am newid hinsawdd, pa mor gynhyrchiol y gall gwaith tîm fod, a thrafod syniadau gwahanol mewn cyfnod byr o amser. Dysgais yn arbennig gan un o aelodau ein tîm sut mae gan algâu a bacteria swyddogaeth hanfodol o ran lles yr hinsawdd. Dyma wybodaeth na wyddwn i erioed o'r blaen. Dysgais hefyd am bwysigrwydd cyfathrebu a delweddu effeithiol i egluro cysyniadau i eraill."
Aeth Paul yn ei flaen i ddweud…Ěý
Dysgais hefyd nad oes rhaid gwneud rhywbeth mawr i fod yn fod yn rhan o newid hinsawdd. Does dimĚýangen i mi ei adael yn gyfrifoldeb y cwmnĂŻau mawr. Yn lle hynny, gall ddechrau'n fach, a dechrau gyda mi. Gwneud pethau’n wahanol, defnyddio llai o blastig, lleihau gwastraff bwyd, annog, dysgu eraill i wneud yr un peth, ac ati.
Ěý
Ěý
Rhodri said
Dywedodd Rhodri Williams, myfyriwr sy'n astudio ar gyfer ei BSc mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol:
Mi ges i ddiwrnod wrth fy modd. Roedd yn wych cyfarfod a sgwrsio ag eneidiau hoff cytĂ»n.ĚýĚýFel myfyriwr sy’n brentis gradd, rwy’n gweithio i M-SParc wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Gallaf weld cyfleoedd enfawr i ddatblygu’r syniadau hyn ymhellach. Yn enwedig gan mai cenhadaeth M-SParc yw helpu pobl i arloesi a helpu creu Cymru fwy cynaliadwy.
Cyfranogwyr yn cyflwyno eu datrysiadau
Y grwpiau’n cyflwyno’u gwaith
Cyflwynodd y grwpiau eu gwaith, ynghyd â rhoi cyflwyniad fideo byr. Ar ôl trafod, penderfynodd y trefnwyr y dylid rhoi’r wobr am y cyflwyniad gorau i'r grŵp a oedd yn ystyried yr her methan.
Diolch i’r beirniaid Jasmine Parkes (sy’n astudio ar gyfer ei Gradd Meistr drwy Ymchwil, ac aelod o’r tĂ®m a enillodd y wobr yn 2021), Dr Daniel Roberts (Darlithydd mewn Peirianneg Electronig, Arweinydd Staff/Myfyrwyr, a Chyfarwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol) a Dr Michael Rushton (Uwch Ddarlithydd Ymchwil, y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ynni niwclear, systemau cynaliadwy, a datgarboneiddio).Ěý
Yn olaf, diolch yn fawr i Chris Walker am hwyluso'r digwyddiad, ac i hwyluswyr tîm o a a gyflwynodd rai o'u heriau a'u datrysiadau peirianneg.