Mae'n rhaid i chi dorri ychydig o wyau i wneud omled: A yw'r system budd-daliadau wedi torri y tu hwnt i'w hatgyweirio?
Mae Ysgol Busnes Bangor bellach wedi rhyddhau eu podlediad Ebrill ‘Penny for your Thoughs’. Rhoddodd pandemig Covid-19 bwysau digynsail ar y system nawdd cymdeithasol yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig ac o ganlyniad, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld heriau digynsail. Mae podlediad y mis hwn yn archwilio un o’r effeithiau ar system les y Deyrnas Unedig gyda Darlithydd mewn Cyfrifeg Ysgol Busnes Bangor, Dr Sara Closs-Davies. Trafodir y systemau lles a 'gweithles' a sut mae cyfrifyddu yn effeithio ar galedi ariannol derbynwyr lles. Mae Dr Closs-Davies yn cyflwyno ei barn arbenigol ynghylch a yw system y Deyrnas Unedig wedi'i thorri y tu hwnt i'w hatgyweirio. A yw’r system bresennol yn gweithio, neu a oes rhaid torri ychydig mwy o wyau i’w gwella?
Mae Dr Sara Closs-Davies yn Ddarlithydd mewn Cyfrifeg yn Ysgol Busnes Bangor. Mae hi hefyd yn aelod cymrawd o'r Association of Chartered and Certified Accountants (ACCA) ac yn aelod o'r Chartered Institute of Taxation (CIOT). Mae Sara yn ymchwilydd sydd wedi cyhoeddi’n rhyngwladol, mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys cyfrifeg, trethiant a pholisi cyhoeddus, a’u goblygiadau ar unigolion, cymdeithas ac anghydraddoldeb cymdeithasol.
Gallwch gefnogi cyfres podlediadau Ysgol Busnes Bangor drwy danysgrifio drwy eich darparwr podlediadau arferol, ei hoffi a’i rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Ìý